Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gofyn am eirda ar gyfer swydd

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Fel arfer, bydd angen geirda arnoch gan eich hen gyflogwr pan fyddwch yn chwilio am swydd newydd.

Eich cyflogwr fydd yn penderfynu faint o wybodaeth i'w chynnwys yn eich geirda. Mae llawer o eirdaon ond yn nodi teitl eich swydd a’ch cyfnod yn gweithio yno.

Mae'n rhaid i'r geirda fod yn gywir. Ni all eich cyflogwr ddweud unrhyw beth sy'n anwir.

Hefyd, mae'n rhaid iddo fod yn deg wrth benderfynu beth i'w gynnwys yn y geirda. Er enghraifft, nid yw'n gallu dweud eich bod yn destun ymchwiliad yn dilyn honiadau o ddwyn os yw'r ymchwiliad wedi dod i'r casgliad eich bod yn ddieuog.

Os ydych wedi cael eich diswyddo

Gall eich cyflogwr gynnwys y ffeithiau - er enghraifft os ydych wedi cael eich diswyddo, neu os oedd yn ystyried eich diswyddo.

Meddyliwch sut byddwch yn egluro beth ddigwyddodd i gyflogwr newydd. Mae'n well canolbwyntio ar y ffeithiau yn hytrach nag ar sut rydych yn teimlo - bydd hyn yn ei gwneud yn haws i chi ddangos eich bod wedi gweithredu'n rhesymol.

Os ydych yn destun ymchwiliad neu gamau disgyblu

Gall eich cyflogwr nodi eich bod yn destun ymchwiliad neu gamau disgyblu. Nid yw'n gallu dweud eich bod yn euog os yw'r broses yn parhau.

Fel arfer, mae'n well aros yn eich swydd nes bod y broses wedi'i chwblhau, hyd yn oed os ydych yn cael eich diswyddo. Os yw'r broses yn dod i'r casgliad eich bod yn ddieuog, ni ddylai eich cyflogwr sôn am y broses yn y geirda. Os ydych wedi'ch disgyblu neu eich diswyddo, gall y cyflogwr newydd weld eich bod wedi cymryd rhan yn y broses. Mae gwybodaeth ar gael am beth i'w wneud mewn proses ddisgyblu.

Meddyliwch am sut byddwch yn egluro beth ddigwyddodd os ydych yn destun camau disgyblu. Mae'n well canolbwyntio ar y ffeithiau yn hytrach nag ar sut rydych yn teimlo - bydd hyn yn ei gwneud yn haws i chi ddangos eich bod wedi gweithredu'n rhesymol.

Mewn rhai sefyllfaoedd, y dewis gorau fydd ymddiswyddo a gadael ar unwaith, gan y byddai aros yn eich swydd yn niweidio eich iechyd. Er enghraifft, os nad ydych yn teimlo'n ddiogel yn y gwaith neu os yw eich cydweithwyr yn eich bwlio dro ar ôl tro. Gwybodaeth am beth i'w ystyried cyn ymddiswyddo.

Os oes gennych euogfarn droseddol

Ni all eich cyflogwr gyfeirio at unrhyw euogfarnau wedi'u disbyddu. Ni ddylai'ch cyflogwr gyfeirio at euogfarn heb ei disbyddu oni bai ei bod yn berthnasol i'r swydd - er enghraifft os oes gennych euogfarn am ddwyn o'r gwaith.

Bydd eich euogfarn yn euogfarn heb ei disbyddu am gyfnod penodol ar ôl iddi ddod i ben. Er enghraifft, os ydych yn talu dirwy, mae eich euogfarn yn euogfarn heb ei disbyddu am flwyddyn fel arfer. Ar ôl hynny, mae wedi'i disbyddu.

Mae'n cymryd mwy o amser i rai euogfarnau gael eu disbyddu nag eraill. Ewch i GOV.UK i gadarnhau a yw eich euogfarn wedi'i disbyddu.

Dod o hyd i swydd heb gael geirda gan eich cyflogwr

Os ydych yn credu y bydd eich cyflogwr yn rhoi geirda gwael i chi neu na fydd yn rhoi geirda i chi o gwbl, gallech ofyn i rywun arall roi geirda i chi.

Chwiliwch am swyddi nad oes angen geirda ar eu cyfer gan eich rheolwr diweddaraf. Mae rhai swyddi'n derbyn geirda gan bobl eraill rydych chi wedi gweithio gyda nhw - fel rheolwr gwahanol neu rywun rydych chi wedi gweithio iddo o'r blaen.

Ceisiwch ddewis rhywun rydych wedi gweithio gydag ef/hi yn ddiweddar. Bydd yn fanteisiol os oes gan yr unigolyn swydd uwch yn y cwmni. Cofiwch ofyn i'r unigolyn a fydd yn fodlon rhoi geirda da i chi.

Mae'n bosibl y bydd y cyflogwr newydd yn gofyn pam nad ydych yn rhoi manylion eich hen gyflogwr. Meddyliwch am sut byddwch yn egluro hyn iddo.

Bydd angen i chi roi geirda gan eich hen gyflogwr os oes cais am swydd yn gofyn am hynny - ond gallech gyflwyno geirda gan yr unigolyn arall hefyd.

Cael geirda gan eich hen gyflogwr

Fel arfer, nid oes rhaid i'ch cyflogwr roi geirda i chi oni bai:

  • bod eich contract yn nodi y bydd yn gwneud hynny
  • bod gennych brawf ysgrifenedig ei fod wedi cytuno i roi geirda i chi - fel neges e-bost

Mae rhai rheoleiddwyr yn nodi bod yn rhaid i gyflogwyr roi geirda, er enghraifft yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Os nad yw eich hen gyflogwr eisiau rhoi geirda i chi, gallech ofyn iddo roi geirda cryno - a elwir yn 'eirda sylfaenol’. Er enghraifft, gallai gadarnhau pryd y buoch yn gweithio iddo a beth oedd teitl eich swydd. Mae llawer o gyflogwyr ond yn rhoi geirda sylfaenol, felly ni fydd eich cyflogwr newydd yn meddwl bod hynny'n anarferol.

Mae'n bosibl y byddwch yn gallu siarad â rhywun arall os nad ydych eisiau cysylltu â'ch rheolwr yn uniongyrchol - er enghraifft adran Adnoddau Dynol neu reolwr arall.

Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael geirda gwael

Mae'n werth gofyn i'ch cyflogwr newydd neu'ch hen gyflogwr weld copi o'ch geirda. Nid yw'n ofynnol iddo roi copi i chi ond gallai ddewis gwneud hynny. Os yw'n rhoi copi i chi, gallwch weld beth mae eich hen gyflogwr wedi'i ddweud a gofyn iddo ei newid os nad yw'n wir.

Peidiwch ag aros i weld eich geirda cyn gwneud cais am swyddi eraill - mae'n bosibl na fyddwch yn cael copi ar unwaith.

Gofynnwch i'ch hen gyflogwr roi geirda da y tro nesaf

Meddyliwch a allwch ofyn i'ch hen gyflogwr roi geirda gwell yn y dyfodol. Mae'n bosibl y byddwch yn gallu siarad â rhywun arall os nad ydych eisiau cysylltu â'ch rheolwr yn uniongyrchol - er enghraifft adran Adnoddau Dynol neu reolwr arall.

Eglurwch natur y broblem a'r cymorth yr hoffech ei gael ganddynt. Dylech gynnwys y wybodaeth benodol a chanolbwyntio ar y ffeithiau yn hytrach nag ar sut rydych chi'n teimlo.

Er enghraifft, os ydych wedi colli cynnig swydd oherwydd bod eich hen gyflogwr wedi rhoi geirda gwael, gallech:

  • ddweud wrth eich hen gyflogwr eich bod wedi cael cynnig swydd ond bod y cynnig wedi'i dynnu yn ôl oherwydd y geirda
  • gofyn iddo adolygu'r geirda i sicrhau ei fod yn deg ac yn gywir
  • gofyn iddo gadarnhau y bydd yn rhoi geirda teg yn y dyfodol

Cymryd camau yn erbyn eich cyflogwr blaenorol

Os ydych wedi methu cael swydd oherwydd bod eich cyflogwr wedi rhoi geirda annheg i chi, mae'n bosibl y byddwch yn gallu mynd ag ef i'r llys.

Gall achos llys bara amser hir, ac efallai na fyddwch yn ennill eich achos. I lawer o bobl, mae'n gyflymach chwilio am swydd arall neu ofyn i rywun arall am eirda.

Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf eich helpu i benderfynu a yw'n werth mynd â'ch cyflogwr i'r llys.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)