Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Paratoi ar gyfer y cyfnod ar ôl dileu'ch swydd

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Cyn bod eich swydd yn cael ei dileu, mae'n bosibl y bydd gennych hawl i gael rhywfaint o gymorth i ddod o hyd i swydd newydd, gan gynnwys amser o'r gwaith i fynychu cyfweliadau.

Mae'n bosibl y bydd arian yn brin am gyfnod, felly dylech ofyn am gyngor ar reoli unrhyw ddyledion sydd gennych a gofyn a oes gennych hawl i unrhyw fudd-daliadau.

Cymorth i gael swydd newydd

Cysylltwch â chynllun ReAct a gofynnwch am y Gwasanaeth Ymateb Cyflym sy'n arbenigo mewn helpu pobl sydd wedi colli eu swyddi. Bydd yn rhoi cymorth i chi ddod o hyd i swydd newydd a gall hyd yn oed dalu am hyfforddiant.

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth yn ystod eich cyfnod rhybudd ac am hyd at 13 wythnos ar ôl i'ch swydd gael ei dileu.

Hefyd, dylech ofyn i'ch cyflogwr am eirda ysgrifenedig i'w anfon gyda'ch ceisiadau am swyddi.

Ni fyddwch yn derbyn unrhyw dâl dileu swydd y mae gennych hawl iddo os ydych yn derbyn swydd newydd gyda'ch cyflogwr cyn diwedd eich cyfnod rhybudd.

Amser o'r gwaith i chwilio am waith

Os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am 2 flynedd ar ddiwedd eich cyfnod rhybudd, mae gennych hawl i gael amser o'r gwaith i wneud cais am swydd neu fynychu hyfforddiant.

Gallwch gael amser i ffwrdd unrhyw adeg yn ystod oriau gwaith arferol. Ni all eich cyflogwr ofyn i chi aildrefnu eich oriau gwaith er mwyn gwneud iawn am yr amser i ffwrdd.

Ni fyddwch yn cael amser i ffwrdd os ydych yn yr heddlu neu'r lluoedd arfog, neu os ydych yn gweithio ar gwch pysgota ac yn cael cyfran o'r elw.

Faint o amser o'r gwaith sy'n cael ei ganiatáu

Wrth gymryd amser o'r gwaith i chwilio am swydd, byddwch yn cael eich talu ar sail eich cyfradd arferol fesul awr, ond dim ond am hyd at 40% o waith wythnos. Er enghraifft, gallech gael eich talu ar sail eich cyfradd arferol fesul awr am hyd at 2 ddiwrnod os ydych yn gweithio 5 diwrnod yr wythnos.

Gallwch gymryd amser 'rhesymol' o'r gwaith ar ôl i'ch cyflogwr eich hysbysu am y dyddiad pan fydd eich cyflogaeth yn dod i ben.  

Mae'r hyn sy'n rhesymol yn dibynnu ar:

  • hyd eich cyfnod rhybudd
  • a yw eich cyflogwr yn gallu cynnal y busnes heboch chi
  • pa mor bell y mae'n rhaid i chi deithio i ddod o hyd i waith
  • a yw eich contract yn nodi nifer y diwrnodau y mae gennych hawl iddynt

Gofynnwch i'ch cyflogwr cyn cymryd unrhyw amser o'r gwaith. Ceisiwch roi cymaint o rybudd â phosibl iddo a dweud pam mae angen amser o'r gwaith arnoch - er enghraifft i fynychu cyfweliad am swydd. Os ydych yn rhoi rhybudd ac yn darparu rheswm, bydd eich cyflogwr yn fwy tebygol o gytuno i'ch cais.

Efallai y bydd eich cyflogwr yn cytuno i chi gymryd mwy o amser o'r gwaith, ond ni fyddwch yn cael eich talu amdano oni bai bod eich cyflogwr yn cytuno, neu os yw eich contract yn nodi bod gennych hawl i gael mwy o amser i ffwrdd am dâl.

Os na fydd eich cyflogwr yn caniatáu i chi gael amser o'r gwaith am dâl i chwilio am waith

Yn y lle cyntaf, dylech siarad â'ch cyflogwr os yw'n gwrthod eich talu i gael amser i ffwrdd i chwilio am waith. Gallech siarad â'r adran adnoddau dynol (AD), os oes adran o'r fath yn bodoli.

Nid yw pob cyflogwr yn gwybod am yr hawl hon - efallai y bydd yn newid ei feddwl os ydych yn egluro'r gyfraith iddo neu'n dangos gwybodaeth ar-lein am eich hawliau (er enghraifft, canllaw Acas ar ddileu swyddi).

Os nad yw siarad â'ch cyflogwr yn helpu'r sefyllfa, gallwch ddechrau proses cymodi cynnar.

Ar ôl proses cymodi cynnar Acas, eich dewis olaf yw mynd â'ch cyflogwr i dribiwnlys cyflogaeth.

Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf cyn gynted â phosibl os oes angen cymorth arnoch, gan fod y terfyn amser ar gyfer gweithredu yn dynn.

Sicrhau eich bod yn derbyn yr holl arian sy'n ddyledus i chi

Pan fyddwch yn derbyn eich cyflog terfynol, dylech gadarnhau eich bod wedi derbyn y canlynol:

  • eich cyflog olaf
  • unrhyw 'dâl yn lle rhybudd' os nad ydych yn gweithio eich rhybudd llawn
  • unrhyw dâl gwyliau y mae gennych hawl iddo
  • unrhyw daliadau bonws, comisiwn neu dreuliau y mae gennych hawl iddynt

Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os oes problem gyda’ch tâl terfynol – efallai y bydd angen i chi wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth i gael yr arian sy'n ddyledus i chi.

Cadarnhau a oes angen i chi dalu treth ar eich tâl dileu swydd

Mae'r £30,000 cyntaf o'ch tâl dileu swydd yn ddi-dreth.

Ar gyfer unrhyw dâl dileu swydd dros £30,000, bydd eich cyflogwr yn cymryd y dreth o'ch tâl dileu swydd ar sail eich cyfradd dreth arferol.

Fodd bynnag, os yw eich cyflogwr yn talu eich cyflog terfynol ar ôl i chi adael eich swydd, bydd yn cymryd y dreth o'ch tâl dileu swydd ar sail y gyfradd sylfaenol o 20%. Os ydych yn talu cyfradd dreth uwch, bydd angen i chi ffonio CThEM i drefnu i dalu'r dreth ychwanegol.

Mae eich tâl rhybudd yn cael ei drethu yn yr un modd â'ch cyflog arferol.

Llinell Gymorth Trethi Cyllid a Thollau EM
Rhif ffôn: 0300 200 3300
Ffôn testun: 0300 200 3319
Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm; Dydd Sadwrn rhwng 8am a 4pm

Hawlio budd-daliadau

Mae'n bosibl y byddwch yn gallu hawlio budd-daliadau fel Credyd Cynhwysol wrth chwilio am swydd newydd.

Hefyd, gallech dderbyn mwy o fudd-daliadau na'r hyn rydych yn ei gael ar hyn o bryd, er enghraifft:

  • Credyd Cynhwysol
  • Budd-dal Tai
  • Gostyngiad y Dreth Gyngor
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • credydau treth

Defnyddiwch ein cyfrifiannell budd-daliadau i weld pa fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt.

Cymorth i dalu eich rhent neu'ch morgais

Mae'n bosibl y byddwch yn gallu hawlio costau tai Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai i helpu i dalu eich rhent - defnyddiwch ein cyfrifiannell budd-daliadau i weld pa fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt.

Os oes gennych forgais, edrychwch ar eich polisi diogelu morgais i weld beth mae'n ei ddweud am ddileu swyddi. Gallech dderbyn rhywfaint o arian tuag at eich morgais wrth chwilio am swydd newydd.

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth gyda chostau morgais ac ôl-ddyledion morgais, gweler Sut i ddatrys eich problemau morgais.

Derbyn cyngor ar unrhyw ddyledion

Dylech gael cyngor ar unrhyw ddyledion sydd gennych eisoes – darllenwch sut i gael cymorth gyda'ch dyledion.

Os ydych chi'n poeni am fynd i ddyled ar ôl colli'ch swydd, defnyddiwch ein hadnodd cyllidebu i weld ble yn union mae eich arian yn mynd bob mis.

Os ydych wedi prynu rhywbeth ar gredyd, dylech gadarnhau a oes gennych bolisi yswiriant diogelu taliadau a fydd yn talu'r credyd gan fod eich swydd wedi cael ei dileu. 

Gofyn am gyngor ariannol annibynnol

Os ydych wedi derbyn tâl dileu swydd, gallech siarad â chynghorydd ariannol annibynnol am beth i'w wneud ag ef.  Er enghraifft, gallech ddewis rhoi'r arian mewn cyfrif llog uchel, neu fuddsoddi'r arian.

Gallwch ddod o hyd i gynghorydd ariannol annibynnol drwy:

Independent Financial Promotions (IFAP)
Gwefan: www.unbiased.co.uk

Personal Finance Society (PFS)
E-bost: customer.serv@thepfs.org
Gwefan: www.findanadviser.org

Newid gyrfa

Mae cyngor ar gael gan Gyrfa Cymru os ydych am gael cymhwyster newydd neu newid eich gyrfa, er enghraifft dechrau eich busnes eich hun.

Gyrfa Cymru
Gwefan: https://gyrfacymru.llyw.cymru/
Ffôn: 0800 100 900
Ar agor rhwng 9am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

Gallech gael cymorth i helpu i dalu am hyfforddiant a chymwysterau. Darllenwch fwy am:

Cymorth parhaus

Yn aml, gall dileu swydd arwain at broblemau emosiynol annisgwyl, yn enwedig os yw'r broses ymgynghori a dethol wedi cymryd llawer o amser.

Os yw'r broses dileu swydd yn anodd i chi, darllenwch unrhyw waith papur a gawsoch fel rhan o'ch pecyn dileu swydd i weld a oes gennych hawl i unrhyw gymorth parhaus.

Er enghraifft, mae rhai sefydliadau'n darparu llinell gymorth am ddim er mwyn helpu pobl i siarad am golli eu swydd neu unrhyw faterion personol eraill.

Hefyd, mae'n bosibl y bydd eich cyflogwr yn talu i chi siarad â chynghorydd proffesiynol am eich CV, fel rhan o'ch pecyn dileu swydd.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)