Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Eich opsiynau os yw eich cyflogwr yn cynnig swydd arall i chi

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Cyn i'ch cyflogwr ddileu'ch swydd, gallai gynnig swydd arall i chi yn y sefydliad. Cyfeirir at hyn fel 'cyflogaeth amgen addas’.

Dylech roi gwybod i'ch cyflogwr yn ysgrifenedig os ydych yn penderfynu derbyn y swydd arall. Gofynnwch am gontract newydd, disgrifiad swydd newydd ac unrhyw newidiadau i'ch telerau ac amodau, er enghraifft eich cyflog.

Mae'n bosibl na fyddwch eisiau'r swydd arall - er enghraifft os yw'r cyflog yn llai neu os yw natur y gwaith yn wahanol. Gallech dderbyn tâl dileu swydd yn lle os oes gennych reswm da dros wrthod y swydd. Er mwyn derbyn tâl dileu swydd, bydd angen i chi fod wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd erbyn i'ch swydd wreiddiol ddod i ben.

Os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd erbyn i'ch swydd ddod i ben, mae'n rhaid i'ch cyflogwr chwilio am swyddi eraill y gallai eu cynnig i chi. Os nad yw'n gwneud hynny, gallai eich diswyddiad fod yn annheg.

Sut dylech dderbyn cynnig swydd arall

Gall eich cyflogwr gynnig swydd arall i chi mewn unrhyw ffordd, ond oni bai ei fod yn dilyn y rheolau gallwch wrthod y swydd a derbyn eich tâl dileu swydd yn lle. Mae'n rhaid i'ch cyflogwr wneud y canlynol:

  • cynnig y swydd newydd i chi yn ysgrifenedig neu ar lafar
  • gwneud y cynnig cyn i'ch swydd bresennol ddod i ben
  • sicrhau bod y swydd newydd yn dechrau 4 wythnos cyn i'ch swydd bresennol ddod i ben
  • rhoi digon o wybodaeth i chi am y swydd i ddeall beth fyddech chi'n ei wneud a sut byddai'n wahanol i'ch swydd bresennol

Rhoi cynnig ar swyddi eraill

Gallwch dreulio 4 wythnos yn rhoi cynnig ar unrhyw swydd arall sy'n cael ei chynnig i chi. Os yw eich cyflogwr yn cynnig sawl swydd arall i chi, gallwch roi cynnig ar bob un am 4 wythnos.

Gallai eich cyfnod prawf ddechrau hyd at 4 wythnos ar ôl i'ch swydd bresennol ddod i ben. Waeth pryd mae eich cyfnod prawf yn dechrau, bydd gennych 4 wythnos i roi cynnig ar y swydd arall.

Bydd eich cyfnod prawf yn para 4 wythnos os ydych yn sâl neu ar wyliau am ran o'r cyfnod.

Gallwch chi a'ch cyflogwr gytuno i ymestyn eich cyfnod prawf os oes angen hyfforddiant arnoch i wneud y swydd newydd. Cofiwch sicrhau eich bod yn cael cytundeb ysgrifenedig gan eich cyflogwr, sy'n nodi'r dyddiad gorffen yn glir.

Gallai'r penderfyniad i ddileu'ch swydd fod yn annheg os nad yw eich cyflogwr yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar y swydd cyn penderfynu ei derbyn neu ei gwrthod.

Os nad ydych am dderbyn swydd arall

Dylech roi gwybod i'ch cyflogwr yn ysgrifenedig os nad ydych eisiau derbyn swydd arall. Cofiwch gadarnhau y bydd eich cyflogwr yn rhoi eich tâl dileu swydd i chi yn lle. Mae gennych hawl i dâl dileu swydd os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd erbyn i'ch swydd bresennol ddod i ben. I gael eich tâl dileu swydd, bydd angen i chi wneud y canlynol hefyd:

  • gwrthod y swydd arall cyn i'ch swydd bresennol ddod i ben, neu cyn diwedd cyfnod prawf 4 wythnos y swydd arall
  • rhoi rheswm da dros wrthod eich swydd newydd

Gallai rheswm da ymwneud â'r swydd ei hun neu eich sefyllfa bersonol. Mae'n well esbonio eich rhesymau pan fyddwch yn gwrthod y swydd. Gallai'r rhesymau posibl gynnwys:

  • cyflog is
  • taith hirach i'r gwaith neu ddiffyg trafnidiaeth gyhoeddus
  • costau ychwanegol cyrraedd y gwaith
  • amharu ar eich bywyd teuluol, e.e. problemau gyda gofal plant
  • materion iechyd

Os yw swydd yn cael ei chynnig i chi mewn lleoliad arall

Dylech edrych i weld a yw eich contract yn cynnwys 'cymal symudedd' sy'n nodi bod yn rhaid i chi weithio yn unrhyw le ar gais eich cyflogwr.

Os nad yw eich contract yn cynnwys cymal symudedd

Gallwch dderbyn eich tâl dileu swydd yn hytrach na'r swydd arall pe bai'n costio mwy i chi neu'n cymryd mwy o amser i chi gyrraedd y gwaith.

Os yw'r costau a'r amser teithio'r un fath, ni fydd y newid lleoliad yn unig yn ddigon i'ch caniatáu i wrthod y swydd a chadw eich tâl dileu swydd.

Os yw eich contract yn cynnwys cymal symudedd

Mae cymal symudedd yn golygu bod eich cyflogwr yn gallu gofyn i chi weithio yn rhywle arall yn hytrach na dileu eich swydd. Mae'n bosibl na fyddwch yn derbyn unrhyw dâl dileu swydd os ydych yn gwrthod newid lleoliad.

Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os oes cymal symudedd yn eich contract ond bod eich cyflogwr yn gofyn i chi weithio yn rhywle na allwch ei gyrraedd.

Os nad yw eich cyflogwr yn derbyn eich rheswm dros beidio â chymryd y swydd

Gall eich cyflogwr wrthod talu eich tâl dileu swydd os nad yw'n credu bod gennych reswm da dros wrthod y swydd.

I dderbyn eich tâl dileu swydd dilynwch y camau canlynol:

Cam 1: siaradwch â'ch cyflogwr

Os nad yw eich cyflogwr yn derbyn bod gennych reswm da, ceisiwch gael sgwrs anffurfiol gydag ef. Gofynnwch iddo egluro pam ei fod yn anghytuno. Gallech ddatrys y mater drwy siarad â'ch cyflogwr.

Cam 2: cyflwyno cwyn

Cadarnhau a oes gan eich cyflogwr weithdrefn gwyno ffurfiol y gallwch ei defnyddio. Hyd yn oed os nad oes ganddo weithdrefn o'r fath, gallwch gyflwyno cwyn o hyd – er enghraifft trwy ysgrifennu llythyr.

Eglurwch pam rydych chi'n meddwl nad oedd y swydd yn addas a gofynnwch iddo dalu eich tâl dileu swydd.

Os ydych chi'n meddwl y bydd y broses o gyflwyno cwyn yn cymryd llawer o amser, gallech symud yn syth i'r cam nesaf, gan fod terfyn amser ar waith. 

Cam 3: cymodi cynnar

Os nad yw'r canlyniad dymunol yn deillio o'ch cwyn, gallwch ddechrau proses 'cymodi cynnar’. Mae hwn yn gyfle i ddatrys eich anghydfod heb wynebu straen hawliad tribiwnlys. Ni chodir tâl am y broses cymodi cynnar, ac mae'n cael ei threfnu gan Acas, sefydliad annibynnol sy'n gallu eich helpu chi a'ch cyflogwr i ddod i gytundeb.

Mae angen i chi wneud cais am gymodi cynnar cyn 6 mis namyn diwrnod o'r dyddiad y gwnaethoch wrthod cynnig y swydd amgen. Os ydych wedi cwblhau cyfnod prawf swydd amgen, mae'r terfyn amser yn dechrau ar ddiwedd eich cyfnod prawf.

Bydd eich terfyn amser yn llai os ydych eisiau cyflwyno hawliadau eraill yn ogystal â thâl dileu swydd. Terfyn amser y rhan fwyaf o hawliadau eraill yw 3 mis namyn diwrnod yn unig.

Gallwch wneud cais am broses cymodi cynnar ar wefan Acas. Gallwch ffonio Acas hefyd.

Tîm cymodi cynnar Acas
Rhif ffôn: 0300 123 1122
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 8pm
Dydd Sadwrn rhwng 9am a 1pm

Cam 4: mynd â'ch cyflogwr i dribiwnlys

Eich dewis olaf yw mynd â'ch cyflogwr i dribiwnlys. Mae'r dewis hwn ond ar gael os ydych wedi rhoi cynnig ar gymodi cynnar ac na wnaethoch ddod i gytundeb.

Mae gennych o leiaf fis ar ôl diwedd y broses cymodi cynnar i ddechrau hawliad tribiwnlys – mae mwy o wybodaeth ar gael am y dyddiad cau.

Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych yn ystyried gwneud hawliad tribiwnlys, gan fod y broses hon yn gallu bod yn heriol.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)