Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cadarnhau a oes gennych hawl i dâl salwch

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych yn gweithio (ac nad ydych yn hunangyflogedig), mae gennych hawl gyfreithiol i Dâl Salwch Statudol (SSP) cyn belled â'ch bod:

  • wedi dechrau gweithio i'ch cyflogwr
  • yn sâl am 4 diwrnod llawn neu fwy yn olynol (gan gynnwys diwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau gwaith)
  • yn ennill o leiaf £120 yr wythnos ar gyfartaledd (cyn treth)
  • y tu allan i un o'r categorïau anghymwys
  • yn dilyn rheolau eich cyflogwr ar gyfer derbyn tâl salwch

Mae gennych hawl o hyd i SSP os ydych yn gweithio'n rhan-amser neu os oes gennych gontract cyfnod penodol.

Os ydych yn weithiwr asiantaeth neu'n weithiwr achlysurol a'ch bod yn mynd yn sâl wrth weithio ar aseiniad, mae'n bosibl y bydd gennych hawl i SSP nes bod yr aseiniad yn dod i ben. Os oeddech eisoes wedi cytuno i ymgymryd ag aseiniad arall, mae'n bosibl y bydd gennych hawl i SSP hyd at ddiwedd yr aseiniad hwnnw. Os nad ydych yn gweithio pan fyddwch yn mynd yn sâl, ni fydd gennych hawl i SSP. 

Os oes gennych gontract dim oriau, gallwch dderbyn tâl salwch o hyd - dylech ofyn i'ch cyflogwr amdano. Os yw’n gwrthod, gofynnwch iddo egluro pam. Gallwch gysylltu â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych yn anfodlon â'r esboniad.

Ni ddylech orfod teimlo'n wael am ofyn am dâl salwch sy’n ddyledus i chi. Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich trin yn annheg, wedi eich disgyblu neu wedi eich diswyddo herwydd eich bod wedi gofyn am dâl salwch, gallech gymryd camau gweithredu o bosibl.

Cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych am drafod eich opsiynau.

Os ydych chi'n hunan-ynysu oherwydd coronafirws

Dywedwch wrth eich cyflogwr eich bod chi'n hunan-ynysu cyn gynted â phosib - byddwch chi'n cael SSP o'r diwrnod cyntaf y byddwch chi'n dweud wrthyn nhw. Efallai y cewch dâl salwch cytundebol yn ogystal â SSP os yw'ch contract yn caniatáu hynny.

Os ydych chi'n dychwelyd i'r DU o dramor, ni allwch gael SSP am fod mewn cwarantîn. Efallai y gallwch ei gael am resymau eraill - er enghraifft, os oes gennych symptomau coronafirws.

Os ydych chi'n hunan-ynysu, gallwch hefyd wirio a allwch chi gael taliad hunan-ynysu gan eich cyngor lleol.

Ar ôl hunan-ynysu am fwy na 7 diwrnod, efallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn am brawf bod angen i chi aros i ffwrdd o'r gwaith. Dylech gael nodyn ynysu ar-lein. Ni ddylai eich cyflogwr ofyn am gael gweld nodyn hyd nes y byddwch wedi bod yn hunan-ynysu am o leiaf 7 diwrnod. Gallwch:

Os oes gennych symptomau neu os ydych chi wedi profi'n bositif am coronafirws

Os ydych chi'n hunan-ynysu oherwydd bod gennych symptomau coronafirws, gallwch gael SSP am 11 diwrnod o'r dyddiad y dechreuodd eich symptomau.

Os gwnaethoch brofi'n bositif am coronafirws, gallwch gael SSP am 11 diwrnod gan ddechrau naill ai o'r diwrnod y cawsoch symptomau gyntaf neu'r diwrnod y gwnaethoch brofi'n bositif am coronafirws - pa un bynnag a ddaeth gyntaf. Os oes gennych symptomau o hyd ar ôl 11 diwrnod, byddwch yn cael SSP nes bydd eich symptomau'n dod i ben.

Os oes gan rywun rydych chi'n byw gyda neu rywun sydd yn eich swigen coronafirws

Byddwch yn cael SSP am o leiaf 11 diwrnod os:

  • mae rhywun rydych chi'n byw gyda nhw wedi profi'n bositif am coronafirws neu symptomau coronafirws
  • mae rhywun yn eich ‘swigen cymorth’ neu ‘swigen gofal plant’ wedi profi’n bositif am coronafirws neu gyda symptomau coronafirws - gwiriwch y rheolau ar swigod os nad ydych yn siŵr

Os yw rhywun rydych chi'n byw gyda nhw neu rywun yn eich swigen yn profi'n bositif, gallwch chi gael SSP am fwy nag 11 diwrnod os ydynt yn dal i gael symptomau.

Gallwch wirio beth yw symptomau coronafirws yng nghanllaw'r llywodraeth ynghylch hunan-ynysu ar GOV.UK.

Os dywedir wrthych am hunan-ynysu neu os cewch rybudd i gysgodi

Fe gewch SSP os bydd Prawf ac Olrhain y GIG yn dweud wrthych am ynysu oherwydd eich bod mewn cysylltiad â rhywun a brofodd yn bositif. Bydd Prawf ac Olrhain y GIG yn anfon rhybudd atoch sy'n dweud pryd y gallwch roi'r gorau i hunan-ynysu. Fe gewch SSP nes y gallwch roi'r gorau i hunan-ynysu.

Os anfonwyd rhybudd cysgodi atoch, bydd yr hysbysiad yn dweud pryd y gallwch roi'r gorau i gysgodi. Fe gewch SSP nes y gallwch roi'r gorau i gysgodi.

Os dywedwyd wrthych am hunan-ynysu cyn mynd i'r ysbyty i gael llawdriniaeth

Byddwch yn cael SSP am hyd at 14 diwrnod. Bydd angen i chi ddangos llythyr i'ch cyflogwr o'r ysbyty yn dweud wrthych chi am ynysu.

Os ydych chi'n hunan-ynysu, gallwch wirio a allwch chi gael taliad hunan-ynysu gan eich cyngor lleol.

Darllen eich contract

Os oes gennych hawl i dâl salwch statudol, gallwch dderbyn £95.85 yr wythnos am hyd at 28 wythnos. Hefyd, gall eich contract nodi bod gennych hawl i dâl salwch contractiol. Bydd faint o dâl salwch contractiol y byddwch yn ei dderbyn ac am faint o amser y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar yr hyn a nodir yn eich contract.

Os nad ydych wedi derbyn contract neu os nad yw'n cynnwys y wybodaeth berthnasol, gofynnwch i'ch cyflogwr neu edrychwch yn eich llawlyfr staff neu'r fewnrwyd.

Pwy sydd â hawl i Dâl Salwch Statudol

Ni fyddwch yn derbyn SSP os ydych:

  • yn hunangyflogedig
  • eisoes wedi derbyn SSP am 28 wythnos (a bod y 28 wythnos wedi dod i ben o fewn yr 8 wythnos diwethaf)
  • wedi derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn ystod y 12 wythnos diwethaf
  • yn derbyn tâl mamolaeth statudol neu Lwfans Mamolaeth 
  • yn feichiog, yn disgwyl babi mewn 4 wythnos neu lai a bod eich salwch yn gysylltiedig â beichiogrwydd
  • wedi cael babi yn ystod y 14 wythnos diwethaf (neu'r 18 wythnos diwethaf os ganwyd eich babi dros 4 wythnos yn gynnar) 
  • yn y lluoedd arfog
  • yn y ddalfa (yn cael eich cadw gan yr heddlu neu yn y carchar)

Hyd yn oed os yw eich cyflogwr yn dweud eich bod 'hunangyflogedig', gallech fod yn 'weithiwr' mewn gwirionedd a bod â hawl i dâl salwch. Mae'n syniad da cadarnhau a yw hyn yn berthnasol i chi – cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os nad ydych yn siŵr.

Materion cyffredin

Rydych yn feichiog 

Bydd eich hawl i dâl salwch yn dibynnu ar a yw eich salwch yn gysylltiedig â'ch beichiogrwydd ai peidio.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch dderbyn tâl salwch pan ydych yn feichiog.

Rydych chi'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl derbyn tâl mamolaeth

Os ydych yn mynd yn sâl cyn neu yn ystod eich cyfnod tâl mamolaeth, ni fydd gennych hawl i dâl salwch statudol tan 8 wythnos ar ôl i'ch tâl mamolaeth ddod i ben.

Os ydych yn mynd yn sâl ar ôl i'ch cyfnod tâl mamolaeth ddod i ben, gallwch dderbyn tâl salwch statudol os oes gennych hawl iddo.

Rydych chi yn yr ysbyty

Os oes gennych hawl i dâl salwch statudol, dylech barhau i'w dderbyn yn ystod unrhyw gyfnod yn yr ysbyty.

Mae gennych fwy nag un cyflogwr

Os oes gennych fwy nag un cyflogwr, gallech fod â hawl i dâl salwch gan bob un ohonynt. Dylech drin pob cyflogwr fel pe bai'n unig gyflogwr er mwyn cael gwybod a ddylai dalu tâl salwch i chi. 

Os yw eich salwch yn golygu bod modd i chi gyflawni un o'ch swyddi ond nid y llall, gallech dderbyn tâl salwch gan y naill a derbyn eich cyflog arferol gan y llall.

Rydych chi'n derbyn eich pensiwn

Os ydych yn gweithio ac yn derbyn eich pensiwn y wladwriaeth, mae gennych hawl i dderbyn tâl salwch statudol os ydych yn gymwys iddo.

Os nad ydych yn gymwys, gallech dderbyn credyd pensiwn a budd-daliadau eraill fel Lwfans Gweini.

Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau i gael gwybod am yr hyn y gallech fod â hawl iddo.

Rydych chi'n rhan o anghydfod masnach

Mae gennych hawl i dâl salwch statudol os:

  • yw eich salwch wedi dechrau cyn i'r anghydfod masnach ddechrau
  • rydych wedi'ch diswyddo oherwydd anghydfod masnach yn rhywle arall (nad ydych yn ymwneud yn uniongyrchol ag ef)

Ni fydd gennych hawl i dâl salwch statudol os ydych eisoes yn absennol o'r gwaith oherwydd eich bod yn rhan o anghydfod masnach a'ch bod yn dechrau mynd yn sâl. Yn hytrach, gallech hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Os yw eich cyflogwr yn gwrthod talu eich tâl salwch

Os nad ydych yn derbyn y tâl y mae gennych hawl iddo, er enghraifft os yw eich cyflogwr yn dweud nad yw'n gallu fforddio talu, gallwch gymryd camau i dderbyn yr arian sy'n ddyledus i chi.

Os ydych yn credu bod gennych hawl i dâl salwch statudol ond bod eich cyflogwr yn anghytuno ac yn gwrthod talu, dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM (CThEM) neu Dîm Anghydfod Taliadau Statudol CThEM.

Llinell ymholiadau CThEM

Rhif ffôn: 0300 200 3500
Ffôn testun: 0300 200 3212

Ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 4pm

Tîm Anghydfod Taliadau Statudol CThEM

Rhif ffôn: 0300 322 9422
Ffôn testun: 0300 200 3212

Dydd Llun i ddydd Iau, 8.30am tan 5pm
Dydd Gwener, 8.30am tan 4.30pm

Mae eich galwad ffôn yn debygol o fod yn rhad ac am ddim os oes gennych gytundeb ffôn sy'n cynnwys galwadau di-dâl i linellau tir - rhagor o wybodaeth am ffonio rhifau 030.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch ar unrhyw adeg, cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Os nad oes gennych hawl i dâl salwch

Os na allwch dderbyn tâl salwch, dylech gadarnhau pa fudd-daliadau eraill y mae gennych hawl iddynt.

Os yw eich cyflogwr yn dweud nad oes gennych hawl i dâl salwch, gofynnwch iddo roi esboniad ysgrifenedig i chi o'i resymau. Dylai'r esboniad gael ei nodi mewn ffurflen Tâl salwch statudol a chais gweithiwr cyflogedig am fudd-dal (SSP1). Dylai'ch cyflogwr gyflwyno hyn i chi o fewn 7 diwrnod i ddechrau'ch absenoldeb salwch. Bydd angen y ffurflen SSP1 arnoch i hawlio budd-daliadau.

Hefyd, dylai'ch cyflogwr ddychwelyd unrhyw nodiadau meddyg a gafodd gennych.

Os nad yw eich cyflogwr yn rhoi ffurflen SSP1 i chi, mae 2 gam i'w cymryd:

Cam 1: gofyn am ddatganiad ysgrifenedig

Os nad yw eich cyflogwr wedi rhoi ffurflen SSP1 i chi, gofynnwch am ddatganiad ysgrifenedig yn egluro pam na allwch dderbyn Tâl Salwch Statudol. Hefyd, gallech roi copi o'r ffurflen iddo ei chwblhau. 

Cam 2: cysylltu â CThEM

Os na allwch gael ffurflen SSP1 neu ddatganiad ysgrifenedig gan eich cyflogwr, cysylltwch â llinell ymholiadau gweithwyr cyflogedig CThEM ar 0300 200 3500. Byddant yn gofyn i'ch cyflogwr pam ei fod yn credu nad oes gennych hawl i SSP.

Cyn siarad â CThEM, bydd angen i chi sicrhau bod y wybodaeth ganlynol wrth law:

  • eich enw, cyfeiriad a rhif yswiriant gwladol
  • enw a manylion cyswllt eich cyflogwr
  • eich rhif cyflogres
  • gwybodaeth am y cyfnod pan oeddech yn absennol oherwydd salwch a'r hyn a ddywedodd eich cyflogwr pan ofynnwyd iddo am dâl salwch a'r ffurflen SSP1
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)