Benthyciadau diwrnod cyflog - rhesymau dros gwyno am eich benthyciwr
Mae benthyciad diwrnod cyflog yn fenthyciad tymor byr i'ch helpu i gael dau ben llinyn ynghyd hyd nes i chi gael eich talu. Maen rhaid i'r rhan fwyaf o fenthycwyr diwrnod cyflog ddilyn Siarter Arfer Da i Gwsmeriaid. Rhaid iddyn nhw hefyd ddilyn rhai rheolau a bennir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Mae hyn yn golygu y dylen nhw sicrhau rhai pethau a rhoi peth gwybodaeth benodol i chi cyn benthyg i chi.
Os na fydd benthyciwr diwrnod cyflog yn dilyn y rheolau, gallwch gwyno. Os nad ydych yn hapus gyda'r ymateb neu os nad ydyn nhw'n dod yn ôl atoch o fewn wyth wythnos, gallwch gwyno at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth fedrwch chi gwyno amdano os nad yw'ch benthyciwr diwrnod cyflog yn dilyn y rheolau.
Gair o gyngor
Rhannwch eich profiad o fenthyg gyda benthyciwr diwrnod cyflog gyda ni. Gallwch helpu Cyngor ar Bopeth i sicrhau bod benthycwyr diwrnod cyflog yn ymddwyn mewn ffordd deg a chyfrifol ac yn dilyn y rheolau yn y dyfodol.
Beth fedrwch chi gwyno yn ei gylch
Gallwch gwyno am eich benthyciwr diwrnod cyflog yn yr achosion canlynol:
- nid oedd y benthyciwr wedi egluro faint fyddai'n ei gostio ar y cyfan i ad-dalu'r benthyciad - dylech fod wedi cael enghraifft o'r pris am bob £100 a fenthycwyd, gan gynnwys ffioedd a thaliadau.
- ni chawsoch wybodaeth lawn neu fanwl gywir am sut i ad-dalu'ch benthyciad a phryd - esboniwch beth oedd ar goll neu'n anghywir
- nid oedd y benthyciwr wedi ymchwilio i'ch sefyllfa ariannol neu'ch amgylchiadau personol i weld os oeddech mewn sefyllfa i ad-dalu'r benthyciad - esboniwch unrhyw beth y dylai fod wedi ei ystyried, er enghraifft eich oed, iechyd meddwl, statws cyflogaeth, incwm, gwariant, prawf o pwy ydych chi neu hanes ariannol
- nid oedd y benthyciwr wedi dweud wrthych na ddylid defnyddio benthyciadau diwrnod cyflog i fenthyg dros dymor hir neu os ydych mewn trafferthion ariannol
- nid oedd y benthyciwr wedi dweud wrthych beth ddylech chi ei wneud os oes cwyn gennych
- nid oedd y benthyciwr wedi nodi'n glir sut mae'r awdurdod i gymryd taliadau parhaus (CPA) yn gweithio a'ch hawl i'w ganslo. Gyda CPA rydych yn cytuno i ad-dalu'r benthyciad trwy gyfres o ddidyniadau oddi ar eich cerdyn credyd neu ddebyd
- nid oedd y benthyciwr wedi dweud wthych ymlaen llaw ei fod yn mynd i gymryd arian o'ch cyfrif gan ddefnyddio'r CPA.
- nid oedd y benthyciwr wedi cynnwys risg rhybuddio am ad-daliad hwyr yn ei hysbyseb ar-lein, neu mewn hysbyseb a anfonwyd atoch trwy e-bost neu neges destun. O 1 Gorffennaf ymlaen, rhaid i bob hysbyseb benthyciadau diwrnod cyflog gynnwys y rhybudd.
Os ydych wedi cael trafferth ad-dalu'r benthyciad
Os ydych wedi cael trafferth ad-dalu'r benthyciad, gallwch gwyno os yw un o'r canlynol yn wir am eich benthyciwr diwrnod cyflog:
- nid oedd wedi delio gyda chi mewn ffordd sympathetig a phositif
- nid oedd wedi cynnig rhewi'r llog a'r taliadau os ydych yn medru talu dan gynllun ad-dalu rhesymol
- nid oedd wedi dweud wrthych am fudiadau cynghori ar ddyled annibynnol, rhad ac am ddim
- roedd wedi rhoi pwysau arnoch i ymestyn y benthyciad – esboniwch sawl gwaith yr ydych wedi gwneud hyn a faint yr oeddech wedi ei dalu bob tro
- nid oedd wedi dweud wrthych am beryglon ymestyn y benthyciad
- nid oedd wedi egluro faint yn union y byddai'n ei gostio i ymestyn y benthyciad - rhowch fanylion yr wybodaeth yr oedd heb ei rhoi i chi
- nid oedd wedi ymchwilio i'ch sefyllfa ariannol bersonol a'ch sefyllfa gyffredinol i weld os ydych mewn sefyllfa i ad-dalu'r benthyciad estynedig.
Pethau eraill i'w cynnwys yn eich cwyn
Pan fyddwch chi'n cwyno, efallai y bydd yna bethau eraill fedrwch chi eu dweud am y ffordd y mae'r benthyciad wedi effeithio ar eich bywyd, a allai effeithio ar ganlyniad eich cwyn. Er enghraifft, a ydych chi'n medru dweud:
- bod yna bethau na fedrwch chi eu fforddio mwyach o ganlyniad i'r benthyciad?
- sut mae'r benthyciad wedi effeithio ar eich bywyd fel teulu?
- eich bod yn teimlo bod eich dyled tu hwnt i bob reolaeth?
Sut i gwyno
Gallwch ddefnyddio'r rhesymau ar y rhestr wirio hon i'ch helpu i gwyno i'ch benthyciwr diwrnod cyflog neu i'r Ombwdsmon Ariannol.
Os byddwch yn llenwi ein harolwg cyflym ac yn gadael eich rhif ffôn ar y diwedd, bydd rhywun o'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol yn eich ffonio'n ôl i siarad â chi am eich cwyn.
Camau nesaf
- Darllenwch fwy am gwyno
- Defnyddiwch ein llythyr enghreifftiol i'ch helpu i gwyno
- Llenwch ein harolwg am fenthycwyr diwrnod cyflog
- Mynnwch help i gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol - ffoniwch 0300 123 9 123 neu 0800 023 4567
- Darllenwch fwy m yr hyn sydd angen i chi ei wneud cyn i chi fedru cwyno i'r Ombwdsmon Ariannol
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
- Ar wefan yr Ombwdsmon Ariannol, mae yna wybodaeth gyflawn ar sut i gwyno, ar: www.financial-ombudsman.org.uk