Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Dydy’ch trefniadau plant chi ddim yn gweithio

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Dylech geisio siarad gyda’ch cynbartner os nad yw’r trefniadau plant rydych chi wedi cytuno arnynt yn gweithio - er enghraifft, os nad ydych chi’n gweld eich plant mor aml ag yr hoffech eu gweld.

Efallai y gallwch wneud newidiadau, gan ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu os oes ei angen, ac osgoi gwario arian ar fynd i’r llys. Gall mynd i’r llys fod yn anodd i bawb, yn enwedig i blant.

Os yw’ch plant dros 16 oed, dylech geisio dod i drefniant eich hunain. Ni fydd llys yn gwneud penderfyniadau am blentyn sy’n 16 neu’n hŷn fel arfer.

Os na allwch chi gytuno o hyd a bod eich plant dan 16 oed, gallwch fynd i’r llys i wneud trefniadau y bydd y naill ochr a’r llall yn gorfod cadw atynt.

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n ofidus neu eich bod yn teimlo dan fygythiad, dylech ofyn am gymorth.

Gallwch ffonio Refuge neu’r Cymorth i Ferched ar 0808 2000 247 ar unrhyw adeg.

Elusen yw’r Men’s Advice Line sy’n helpu dynion sy’n dioddef cam-drin domestig. Gallwch ffonio eu llinell gymorth ar 0808 801 0327 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud nesaf, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Newid eich cytundeb gwreiddiol

Cyn i chi gael unrhyw un arall yn rhan o’r achos, mae’n syniad da siarad am yr hyn sydd ddim yn gweithio.

Edrychwch yn ôl ar yr hyn y cytunwyd arno yn y lle cyntaf. Ceisiwch wneud rhai newidiadau i’r pethau nad ydych chi neu’ch partner yn gallu cadw atynt.

Er enghraifft, gallech:

  • newid pryd a ble rydych chi’n gweld eich plant
  • cael rhywun y gallwch chi ymddiried ynddyn nhw, er enghraifft tad-cu neu fam-gu neu ffrind rydych chi’ch dau yn ei adnabod, i helpu i drefnu pryd a ble y gallwch chi weld eich plant

Mae gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ganllawiau ar gyfer cytuno ar drefniadau plant a allai helpu os ydych chi a’ch cyn-bartner yn cael trafferth gwneud i’ch cytundeb weithio.

Os na allwch chi siarad gyda’ch cyn-bartner

Os ydych chi wir yn cael trafferth siarad gyda’ch cyn-bartner a datrys unrhyw broblemau, mae’n syniad da dechrau cadw dyddiadur.

Ysgrifennwch unrhyw amser nad yw’ch cyn-bartner wedi cadw at y trefniadau - er enghraifft, os yw’n dod â’r plant adref yn hwyrach nag y cytunwyd arno heb reswm da.

Bydd hyn yn ddefnyddiol os oes angen i chi fynd i lys, gan y bydd yn dangos pam nad ydych chi wedi gallu cadw at y cytundeb a wnaethoch gyda’ch gilydd.

Mae gan Relate gyngor ar drafod gyda'ch cyn-bartner os nad yw’n gadael i chi weld y plant.

Mynd at wasanaeth cyfryngu

Dylech roi cynnig ar wasanaeth cyfryngu cyn mynd i lys – mae’n llawer rhatach ac yn gynt fel arfer.

Byddwch yn siarad â ‘chyfryngwr’, a fydd yn ceisio’ch helpu i gytuno ar sut i ddod i gytundeb am eich trefniadau.

Hyd yn oed os yw’ch cyn-bartner yn gwrthod mynd at wasanaeth cyfryngu, fel arfer bydd yn rhaid i chi fynd i gyfarfod cyntaf - sef cyfarfod asesu a gwybodaeth am gyfryngu neu ‘MIAM’ – y gallwch chi fynd i’r llys.

Rhagor o wybodaeth am fynd at wasanaeth cyfryngu.

Os ydych chi’n penderfynu mynd i’r llys

Fel arfer bydd yn rhaid i chi fod wedi gwneud popeth y gallwch chi i wneud i’ch trefniadau weithio.

Bydd y llys am weld tystiolaeth o hyn. Bydd yn rhaid i chi ddweud wrthynt beth oedd eich trefniadau gwreiddiol - er enghraifft, drwy ddangos copi iddynt o’ch cynllun rhianta. Bydd yn rhaid i chi ddangos hefyd y ffurflen MIAM y byddwch chi’n ei chael ar ôl eich cyfarfod cyfryngu cyntaf.

Gallwch fynd yn syth i’r llys os ydych chi wedi profi trais domestig. Fel arfer, gallwch gael cymorth i dalu am gyfreithiwr – ewch i GOV.UK.

Os ydych chi ar incwm isel, gallwch gael cymorth gyda ffioedd y llys.

Gallwch ofyn i’r llys am ‘orchymyn trefniadau plant’, a all ddweud:

  • gyda phwy mae’ch plant yn byw a ble
  • pryd a sut bydd eich plant yn gweld y naill riant a’r llall
  • pwy arall fydd eich plant yn eu gweld

Bydd penderfyniad y llys yn seiliedig ar yr hyn maen nhw’n ei feddwl sydd orau ar gyfer y plentyn. Bydd hyn yn wahanol i bob teulu ond fel arfer bydd y llys yn ceisio sicrhau bod y plant yn gweld y naill riant a’r llall – oni bai bod perygl o drais neu gam-drin.

Mae’n syniad da cael cymorth cyfreithiol os ydych chi’n mynd i’r llys. Gall eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf sôn wrthych am sut i gael cymorth gyda ffioedd cyfreithiol.

Gallwch gynrychioli eich hun yn hytrach na defnyddio cyfreithiwr os nad ydych chi’n gallu fforddio’r ffioedd – gall canllawiau Advice Now ar gynrychioli eich hun yn y llys eich helpu.

Gallwch wneud cais i'r llys am y gorchymyn trefniadau drwy ddilyn y camau ar GOV.UK.

Bydd angen i chi gadw at beth bynnag y bydd y llys yn ei benderfynu - hyd yn oed os nad ydych chi’n cytuno – oni bai eich bod chi a’ch cyn-bartner yn cytuno ar y newidiadau.

Bydd yn rhaid i chi ymddangos gerbron y llys. Gallwch ofyn am gael ymddangos mewn ystafell wahanol yn y llys i’r cyn-bartner.

Efallai y bydd gofyn i’ch plant ddod i’r llys hefyd – mae gan bob llys brosesau gwahanol. Y naill ffordd neu’r llall, bydd rhywun o sefydliad o’r enw CAFCASS yn siarad gyda’ch plant ymlaen llaw. Byddant yn dweud wrthych chi a’ch plant beth fydd yn digwydd nesaf.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)