Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Sut i riportio digwyddiad casineb neu drosedd casineb

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi wedi dioddef digwyddiad casineb neu drosedd casineb, neu'n 'nabod rhywun sydd wedi, fe allwch ei riportio i'r heddlu.  

Gallwch gysylltu'n uniongyrchol â'r heddlu, neu ddefnyddio cyfleuster riportio ar-lein fel True Vision. Mae yna fudiadau lleol hefyd sy'n medru eich helpu i riportio'r digwyddiad neu'r drosedd.  

Darllenwch y dudalen hon i ddarganfod sut fedrwch chi riportio digwyddiad neu drosedd casineb.

Riportio'r i'r heddlu gan ddefnyddio gwefan True Vision

Gallwch riportio digwyddiad neu drosedd casineb ar-lein ar wefan True Vision. Unwaith fyddwch chi wedi llenwi'r ffurflen ar y wefan, caiff ei hanfon yn syth at eich heddlu lleol.  Gallwch hefyd ddefnyddio'r ffurflen hunan-riportio a rhaid i chi ei hanfon at eich heddlu lleol.

Mae'n bwysig rhoi cymaint o fanylion â phosib, oherwydd mae'n helpu'r heddlu i ddelio â'ch achos yn fwy effeithiol. Os ydych chi am i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad, mae angen i chi ddarparu eich manylion cyswllt a'r amser gorau i gysylltu â chi.

Efallai eich bod yn poeni am yr heddlu'n cysylltu â chi yn eich cartref. Os yw hyn yn wir, gallwch ofyn i'r heddlu gysylltu â chi trwy rywun arall yr ydych yn ymddiried ynddi/ynddo ac sydd wedi cytuno i ddarparu ei m/fanylion. Mae angen i chi ddarparu eich manylion cyswllt hefyd.

Os oes angen help a chymorth arnoch i riportio'r digwyddiad, gallwch gysylltu â chanolfan Cyngor ar Bopeth.

Yng Nghymru, gallwch hefyd riportio'r digwyddiad trwy wefan Safer Wales.

Gwybodaeth ddefnyddiol i'w chynnwys yn eich ffurflen

Mae'r ffurflenni riportio yn dweud wrthych ba wybodaeth sydd angen i chi ei rhoi i'r heddlu wrth riportio'r digwyddiad casineb neu'r drosedd casineb. Dyma gyngor ychwanegol ar wybodaeth ddefnyddiol i'w chynnwys.

Pan fyddwch chi'n disgrifio'r troseddwr, mae'n ddefnyddiol rhoi gwybodaeth gyffredinol fel oed, taldra, maint, rhyw, ethnigrwydd a dillad. Ceisiwch gofio unrhyw nodweddion penodol hefyd, er enghraifft:

  • lliw gwallt
  • sbectol
  • gemwaith neu dyllau corff
  • tatws
  • gwallt ar yr wyneb
  • acen benodol
  • dannedd
  • creithiau
  • marciau geni

Os oedd cerbyd yn gysylltiedig, yn ychwanegol at wneuthuriad, model a lliw, efallai y byddwch chi wedi sylwi os oedd unrhyw sticeri arno, cysgodlenni haul neu seddau car. A oedd y car yn edrych yn hen neu'n newydd? A oedd unrhyw farciau neu arwyddion difrod arno?

Os oedd yna ddifrod i eiddo, dylech ddisgrifio'r difrod neu'r golled yn ogystal â'r costau cysylltiedig os yn bosib. Gallwch hefyd dynnu ffotograffau o'r difrod i'w dangos i'r heddlu.

Os nad yw'r heddlu'n dod yn ôl atoch

Os nad ydych wedi clywed wrth yr heddlu o fewn 7 niwrnod, dylech gysylltu'n uniongyrchol â nhw.

Riportio'r digwyddiad yn uniongyrchol i'r heddlu

Gallwch riportio'r digwyddiad yn uniongyrchol i'r heddlu trwy ymweld â'ch gorsaf heddlu leol neu dros y ffôn.

Pan fyddwch chi'n riportio'r digwyddiad dylech ofyn am gyfeirnod y digwyddiad, ac fe fydd hyn yn eich helpu gydag unrhyw drafodion pellach gyda'r heddlu.

Os nad ydych am riportio'r digwyddiad, gallwch ofyn i rywun arall ffonio'r heddlu ar eich rhan, er enghraifft ffrind neu berthynas. Gallwch hefyd gysylltu â chanolfan Cyngor ar Bopeth i'ch helpu i ffonio'r heddlu.

  • Mae manylion eich gorsaf heddlu leol ar wefan Police.UK , ar www.police.uk

Help i ddelio gyda'r heddlu

Pan fyddwch chi'n cysylltu â'r heddlu, gallwch ofyn am gael cyfweliad yng ngorsaf yr heddlu, yn eich cartref neu yn rhywle arall yr ydych wedi cytuno iddo. Er enghraifft, efallai y bydd yn bosib i'r heddlu eich cyfweld yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol - os ydyn nhw'n caniatáu hyn. Beth bynnag, yn gyffredinol mae'n ddoeth i rywun arall ddod gyda chi. Er enghraifft, gallwch ofyn i gynghorydd medrus, ffrind neu gyfreithiwr ddod gyda chi.

Os ydych yn ei chael yn anodd siarad Saesneg neu ddeall Saesneg

Os ydych yn ei chael yn anodd siarad Saesneg, neu ddeall Saesneg, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael cyfieithydd ar y pryd gyda chi. Gallwch ofyn i'r heddlu ddarparu cyfieithydd ar y pryd. Gallwch hefyd ofyn i ffrind neu berthynas, neu fynd at fudiad cyngor lleol, fel canolfan Cyngor ar Bopeth. Os yw'r heddlu’n gwrthod darparu cyfieithydd ar y pryd, gallwch ofyn am gael gweld eu polisi ar gyfieithwyr ac efallai y byddwch chi am ystyried cwyno.

Camau nesaf

I riportio digwyddiad i'r heddlu dros y ffôn, ffoniwch 101 neu Ffôn Testun 18001 101. Os yw'n argyfwng, dylech ffonio 999.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Ewch at wefan True Vision am wybodaeth bellach ar sut i riportio digwyddiad casineb neu drosedd casineb, ar www.report-it.org.uk
  • Ewch at wefan Stop Hate UK am wybodaeth bellach ar droseddau casineb, ar www.stophateuk.org
  • Ewch at wefan Cymru Ddiogelach am wybodaeth bellach ar droseddau casineb yng Nghymru www.saferwales.com
  • I riportio trosedd casineb sy'n ymwneud ag anabledd gallwch ffonio Llinell Gymorth Anableddau Dysgu Cymru yn rhad ac am ddim ar 0808 808 1111
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)