Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gwneud hawliad bach

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Cyn i chi ddechrau paratoi’ch hawliad bach mae’n syniad da ysgrifennu llythyr ffurfiol at y person neu’r busnes rydych chi’n anghytuno ag ef/nhw - sef y ‘diffynnydd’. Cyfeirir at hwn fel ‘llythyr cyn hawlio’ neu ‘lythyr cyn gweithredu’.

Bydd angen i chi wneud hyn hyd yn oed os ydych eisoes wedi ysgrifennu atynt i gwyno. Os nad yw’r llythyr cyn hawlio yn datrys y broblem, gallwch ddechrau’ch hawliad bach drwy gwblhau ffurflen.

Ysgrifennu llythyr cyn hawlio

Ysgrifennwch ‘lythyr cyn hawlio’ ar ddechrau’ch llythyr i ddangos bod y llythyr hwn yn un ffurfiol.

Os ydych chi’n cwyno am nwyddau diffygiol, gallwch ddefnyddio ein templed i ysgrifennu llythyr cyn hawlio.

Dylai’ch llythyr gynnwys:

• eich enw a’ch cyfeiriad
• crynodeb o’r hyn sydd wedi digwydd
• beth rydych chi am i’r person neu’r busnes ei wneud am y sefyllfa
• faint o arian rydych chi’n ei hawlio - er enghraifft, cost atgyweirio neu newid yr eitem - a sut rydych chi wedi cyfrifo’r swm
• dyddiad terfyn ar gyfer ymateb - 14 diwrnod fel arfer
• y ffaith y byddwch yn dechrau achos llys os na chewch ateb

Hefyd, dylech nodi bod yn rhaid i chi a’r diffynnydd ddilyn rheolau’r llys ynglŷn â beth i’w wneud.

Dylech gynnwys y canlynol: ‘Rwy’n eich cyfeirio at y Cyfarwyddyd Ymarfer ar ymddygiad cyn gweithredu o dan y Rheolau Trefniadaeth Sifil, ac yn benodol at baragraffau 13-16 sy’n nodi’r cosbau y gall y llys eu cyflwyno os ydych yn methu â chydymffurfio â’r Cyfarwyddyd Ymarfer.’

Dylech sicrhau eich bod yn gwybod beth yw rheolau’r llys – gallwch ddarllen ein cyngor os oes gennych broblem defnyddiwr. Os oes gennych broblem wahanol, siaradwch â chynghorydd yn eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf - bydd yn gallu egluro’r rheolau i chi.

Os nad ydych chi wedi rhoi cynnig eisoes ar wasanaeth cyfryngu fel ‘dull amgen o ddatrys anghydfod’, dylech nodi eich bod yn fodlon rhoi cynnig arno.

Gallwch ddarllen ein cyngor ar ddefnyddio dulliau amgen o ddatrys anghydfod er mwyn datrys problemau defnyddwyr. Os oes gennych chi broblem o natur wahanol, mae cyngor ar gyfryngu ar gael gan y Cyngor Cyfryngu Sifil.

Cadwch gopi o’r llythyr a gofynnwch i Swyddfa’r Post am brawf postio - mae’n bosib y bydd angen i chi brofi pryd yr anfonwyd eich llythyr.

Fel arfer, mae’n rhaid i’r unigolyn neu’r busnes arall ateb eich llythyr o fewn 14 diwrnod. Gallai gymryd mwy o amser os yw’r mater yn gymhleth.

Os nad ydyn nhw’n cytuno â’ch hawliad, dylent nodi:
• eu rhesymau pam, a pha ffeithiau maen nhw’n anghytuno â nhw
• a ydyn nhw’n bwriadu gwneud hawliad eu hunain (‘gwrth-hawliad’)

Os yw’r unigolyn neu’r busnes arall yn gwneud gwrth-hawliad, dylech edrych ar y ffeithiau sy’n sylfaen i’r achos a gwneud nodyn o unrhyw beth rydych yn anghytuno ag ef. Hefyd, dylech geisio dod o hyd i dystiolaeth i brofi eu bod yn anghywir. Er enghraifft, os ydych chi wedi rhoi gwybod i’ch landlord am atgyweiriadau, ond ei fod wedi’ch anwybyddu ac yn honni eich bod wedi difrodi’ch cartref, dylech chwilio am dystiolaeth o ddyddiad yr ohebiaeth.

Cwblhau’r ffurflen hawliad

Os nad ydych yn cael ateb neu os nad ydych yn fodlon â’r ateb, gallwch ddechrau paratoi’ch hawliad bach.

Gallwch naill ai:

lawrlwytho ac argraffu ffurflen hawlio i’w hanfon drwy’r post - sef y ‘ffurflen hawlio N1’

• gwneud cais ar-lein - os ydych yn gwybod faint yn union rydych chi am ei hawlio

Gwneud hawliad ar-lein yw’r dewis rhataf. Allwch chi ddim gwneud cais ar-lein os ydych chi ar incwm isel a’ch bod yn gymwys ar gyfer ffioedd rhatach. I weld a ydych chi’n gymwys ar gyfer ffioedd rhatach ewch i GOV.UK.

Gwneud hawliad ar-lein

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Hawliadau Arian os yw’r canlynol yn berthnasol:

• rydych chi’n hawlio llai na £10,000
• rydych chi dros 18 oed neu os yw’ch cais yn erbyn rhywun sydd dros 18 oed
• mae gennych chi gyfeiriad yn y DU
• dydych chi ddim yn gwneud hawliad o dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974
• dydych chi ddim yn gwneud hawliad ar gyfer anaf personol
• dydych chi ddim gwneud hawliad ar gyfer blaendal tenantiaeth
• does dim angen help arnoch chi i dalu ffioedd llys

I ddefnyddio’r gwasanaeth Hawliadau Arian, mae angen i chi wybod faint rydych chi’n ei hawlio, pam mae’r arian yn ddyledus i chi, manylion a dyddiad yr hyn sydd wedi digwydd, ac os ydych chi eisiau hawlio llog.

Mae Hawliadau Arian yn rhan o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi.

Os oes angen help arnoch chi i ddefnyddio’r gwasanaeth Hawliadau Arian

Cysylltwch â Hawliadau Arian. Bydd angen rhif yr achos neu’r hawliad arnoch. Nid yw’r gwasanaeth yn gallu darparu cyngor cyfreithiol.

Os na allwch chi ddefnyddio gwasanaeth Hawliadau Arian

Gallwch geisio defnyddio gwasanaeth Hawliad Arian Ar-lein (MCOL).

Gallwch ddefnyddio MCOL i wneud cais os yw’r canlynol yn wir:

• rydych chi dros 18
• rydych chi eisiau gwneud hawliad yn erbyn rhywun sydd dros 18 oed
• does dim angen help arnoch chi i dalu ffioedd llys
• dydych chi ddim yn gwneud hawliad am iawndal oherwydd damwain neu anaf

Gallwch ddefnyddio MCOL i wneud hawliadau yn erbyn 1 neu 2 o bobl.

Os oes angen help arnoch chi i ddefnyddio’r gwasanaeth MCOL

Dylech ddarllen canllawiau MCOL yn y lle cyntaf.

Os na allwch ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn, gallwch ffonio llinell gymorth MCOL. Bydd angen i chi nodi rhif yr achos neu’r hawliad.

Llinell gymorth MCOL: 0300 123 1057 neu 01604 619 402
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:45am tan 5pm
Ar gau ar Wyliau Banc

Gall y llinell gymorth roi cyngor ar y broses yn unig - nid yw’n gallu rhoi cyngor cyfreithiol.

Os ydych chi dros 18 oed neu os yw’ch hawliad yn erbyn rhywun sydd dros 18 oed

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen papur N1.

Os ydych chi o dan 18 oed a’ch bod yn gwneud hawliad eich hun, ysgrifennwch ‘(plentyn)’ ar ôl eich enw. Os oes rhywun arall yn gwneud yr hawliad ar eich rhan, ysgrifennwch ‘(plentyn gan [enw’r unigolyn sy’n gwneud yr hawliad] ei gyfaill ymgyfreithio)’.

Os oes angen help arnoch chi i gwblhau’r ffurflen hawlio N1

Cysylltwch â Chanolfan Hawliadau Arian y Llys Sirol. Bydd angen cyfeirnod yr achos arnoch. Nid yw’n gallu darparu cyngor cyfreithiol.

Canolfan Hawliadau Arian y Llys Sirol
Rhif ffôn: 0300 123 1372

Fel arfer, mae galwadau yn costio hyd at 40c y funud o ffonau symudol a hyd at 10c y funud o linellau tir. Dylai’r alwad fod yn ddi-dâl o’ch ffôn symudol os oes gennych gontract sy’n cynnwys galwadau i linellau tir - holwch eich cyflenwr os nad ydych yn siŵr.

Llinell Gymraeg: 0800 212 368
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm
E-bost: ccmcccustomerenquiries@hmcts.gsi.gov.uk

Mae galwadau i’r llinell Gymraeg yn ddi-dâl o ffôn symudol a llinell tir.

Cyfrifo faint i’w hawlio trwy’r ffurflen N1 neu MCOL

Bydd angen i chi gynnwys y swm rydych chi’n ei hawlio - dylech nodi hynny yn adran ‘Gwerth’ y ffurflen.

Os ydych chi’n hawlio swm penodol, er enghraifft y swm y bu’n rhaid i chi ei dalu i newid nwydd diffygiol, nodwch y swm hwnnw. Cyfeirir ato fel swm sefydlog neu ‘benodedig’.

Os nad ydych yn gwybod faint yn union rydych am ei hawlio, ond eich bod yn gwybod ei bod yn llai na swm penodol, dylech nodi hynny. Er enghraifft, os ydych yn gwybod y bydd eich hawliad yn llai na £5,000, nodwch y canlynol: ‘Rwy’n disgwyl adennill llai na £5,000’.

Peidiwch â dweud eich bod yn disgwyl adennill mwy na £10,000 - os ydych yn gwneud hynny, ni fydd eich achos yn cael ei drin fel hawliad bach.

Os ydych chi’n gwneud cais am rywbeth nad yw eich landlord wedi’i atgyweirio, yr uchafswm y gallwch ei gael mewn achos hawliadau bach yw £1,000. Yn y sefyllfa hon, byddai angen i chi nodi’r canlynol: ‘Rwy’n disgwyl adennill llai na £1,000’.

Hefyd, gallwch hawlio costau sefydlog gwaith cyfreithiwr yn llenwi’r ffurflen a’i hanfon i’r llys ar eich rhan - ni allwch hawlio unrhyw gostau cyfreithiol eraill.

Dylech gynnwys hawliad ar gyfer llog yn yr adran ‘Gwerth’- mae gwybodaeth am sut i gyfrifo llog ar gael yn GOV.UK. Defnyddiwch y geiriad canlynol i hawlio llog: ‘Mae’r hawlydd yn hawlio llog o dan Adran 69 o Ddeddf Llysoedd Sirol 1984 ar gyfradd o 8 y cant y flwyddyn.’

Rhaid i chi lofnodi’r ffurflen. Os ydych chi’n cwblhau’r ffurflen ar-lein, teipiwch eich enw yn y blwch ‘llofnod’.

Anfon y ffurflen a thalu’r ffi

Mae sut rydych yn talu’r ffi yn dibynnu ar sut aethoch ati i gyflwyno’ch hawliad.

Os gwnaethoch ddefnyddio gwasanaeth Hawliadau Arian

Mae gwasanaeth Hawliadau Arian yn ychwanegu’r ffi at eich hawliad yn awtomatig. Ar ôl i’r llys brosesu’ch cais, bydd yn ymddangos fel ffeil PDF i’w harbed neu ei hargraffu gennych. Gallwch gyrchu’r ffeil unrhyw bryd o’ch cyfrif.

Os gwnaethoch ddefnyddio gwasanaeth MCOL

Bydd MCOL yn cyfrifo’r ffi gywir i chi yn seiliedig ar faint rydych chi’n ei hawlio. Gofynnir i chi am fanylion eich cerdyn credyd neu’ch cerdyn debyd.

Nodwch eich cyfeiriad e-bost os ydych chi eisiau derbynneb.

Gallwch lawrlwytho copi o’ch ffurflen gais sydd wedi’i chwblhau.

Os ydych chi wedi defnyddio’r ffurflen N1 bapur

Dylech gadw copi o’ch ffurflen a gwneud un copi ar gyfer y llys ac un ar gyfer pob diffynnydd. Byddwch yn anfon eich ffurflen i gyfeiriad gwahanol, gan ddibynnu a ydych yn gwneud hawliad am arian yn unig neu am rywbeth arall, fel atgyweiriadau.

Os ydych chi’n hawlio swm o arian yn unig, anfonwch y ffurflen wreiddiol a’r copïau ar gyfer y llys a’r diffynyddion i:

Canolfan Hawliadau Arian y Llys Sirol
Blwch Post 527
Salford
M5 0BY

Os ydych chi wedi cwblhau ffurflen bapur a’ch bod yn hawlio arian ac unrhyw beth arall - fel gorchymyn i wneud atgyweiriadau - dylech ei hanfon i’ch llys sirol lleol. Dod o hyd i’ch llys sirol lleol.

Gallwch dalu drwy archeb bost neu siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM’. Gwybodaeth am sut i anfon archeb bost.

Ymdrin ag ymateb y diffynnydd

Bydd y llys yn anfon copi o’ch ffurflen hawliad at y diffynnydd. Os ydych chi wedi cyflwyno’ch hawliad ar ffurflen bapur neu drwy MCOL, rhaid i’r diffynnydd roi gwybod i chi ei fod wedi derbyn eich hawliad o fewn 14 diwrnod drwy anfon ateb neu anfon ffurflen ‘cydnabyddiad cyflwyno’.

Os yw’n anfon cydnabyddiad cyflwyno i chi, rhaid iddo ymateb o fewn 28 diwrnod. Mae’r 28 diwrnod yn dechrau ar ôl iddo dderbyn manylion eich hawliad.

Os ydych chi wedi defnyddio gwasanaeth Hawliadau Arian, rhaid i’r diffynnydd ymateb o fewn 19 diwrnod i ddyddiad cyflwyno’r hawliad. Os oes angen mwy o amser ar y diffynnydd, rhaid iddo hysbysu’r llys. Nid yw’n gallu cael mwy na 33 diwrnod.

Nid yw’r diffynnydd yn ateb

Gall y llys benderfynu eich bod wedi ennill yr achos gan na wnaeth y diffynnydd ateb. Gofynnwch i’r llys am ‘ddyfarniad oherwydd diffyg’. Gallwch ofyn am ddyfarniad oherwydd diffyg trwy:

• wneud cais am ddyfarniad ar Hawliad Arian Ar-lein os gwnaethoch gyflwyno’ch hawliad ar-lein
• cwblhau ffurflen N225 os gwnaethoch hawlio swm penodol (‘penodedig’)
• cwblhau ffurflen N227 os gwnaethoch hawlio swm ‘amhenodol’

Os gwnaethoch ddefnyddio’r gwasanaeth Hawliadau Arian, gallwch ei ddefnyddio i ofyn am ddyfarniad oherwydd diffyg os nad yw’r diffynnydd wedi ateb a bod y dyddiad cau ar gyfer ateb wedi dod i ben.

Mae’r diffynnydd yn cytuno â rhywfaint o’ch hawliad neu’ch holl hawliad

Gallai’r diffynnydd gynnig rhoi rhywfaint o’r arian rydych chi wedi gofyn amdano, neu’r holl arian.

Bydd y llys yn rhoi gwybod i chi am gynnig y diffynnydd ac yn egluro sut i’w dderbyn.

Mae’r diffynnydd yn anghytuno â’ch hawliad

Cyfeirir at hyn fel ‘amddiffyn yr hawliad’. Mae’n rhaid i’r diffynnydd esbonio pam y mae’n anghytuno â’ch hawliad mewn dogfen y cyfeirir ati fel ei ‘amddiffyniad’. Fel arfer, rhaid i’r diffynnydd anfon ei amddiffyniad i’r llys o fewn 14 diwrnod i dderbyn eich hawliad (neu 28 diwrnod os anfonwyd cydnabyddiad cyflwyno atoch). Bydd y llys yn anfon copi atoch.

Os gwnaethoch chi ddefnyddio’r gwasanaeth Hawliadau Arian, rhaid i’r diffynnydd ymateb o fewn 19 diwrnod i ddyddiad cyflwyno’r hawliad -neu 33 diwrnod os yw’r llys wedi rhoi mwy o amser iddo.

Bydd y llys yn anfon ffurflen atoch i’w helpu i benderfynu pryd i gynnal y gwrandawiad. Teitl y ffurflen hon yw ‘holiadur cyfarwyddiadau ‘. Dylech ddefnyddio’r ffurflen i hysbysu’r llys am unrhyw ddyddiadau pan fyddwch yn brysur, fel gwyliau neu apwyntiadau ysbyty. Dylech sicrhau eich bod yn dychwelyd y ffurflen yn brydlon.

Hefyd, dylech nodi a ydych am i’r gwrandawiad gael ei gynnal mewn llys sirol penodol, er enghraifft oherwydd bod gennych chi neu un o’ch tystion anabledd. Dod o hyd i’ch llys sirol agosaf. Fel arfer, cynhelir y gwrandawiad yn y Llys Sirol agosaf i’r diffynnydd, ond bydd y barnwr yn ystyried ei symud os oes rheswm da dros wneud hynny.

Mae’n bosib na chynhelir gwrandawiad os ydych chi a’r diffynnydd yn cytuno bod y llys yn gallu penderfynu ar yr hawliad heb gynnal gwrandawiad. Mewn achos o’r fath, bydd y barnwr yn gwneud penderfyniad ar sail eich hawliad ac amddiffyniad y diffynnydd, ac ni fydd angen i’r un ohonoch fynychu’r llys neu roi rhagor o dystiolaeth.

Defnyddio gwasanaeth cyfryngu hawliadau bach

Bydd y llys yn gofyn a ydych am ddefnyddio ei wasanaeth cyfryngu di-dâl i geisio datrys eich anghydfod. Bydd unigolyn a elwir yn gyfryngwr yn ceisio’ch helpu chi a’r diffynnydd i ddod i gytundeb. Ni fydd y cyfryngwr yn ffafrio’r naill ochr na’r llall. Gallai’r broses gyfryngu fynd rhagddi dros y ffôn.

Os ydych am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, dylech nodi hynny yn yr holiadur cyfarwyddiadau.

Mae’n syniad da rhoi cynnig ar wasanaeth cyfryngu gan y gallai arbed amser ac arian i chi - os ydych chi a’r diffynnydd yn gallu cytuno, ni fydd angen i chi fynychu gwrandawiad na thalu ffi’r gwrandawiad.

Os na allwch gytuno, gall y gwrandawiad llys fynd rhagddo o hyd.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)