Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Pryd ddylid apelio yn erbyn tocyn parcio?

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Dylid diddymu’ch tocyn parcio os oes un o’r rhesymau ar y dudalen hon yn berthnasol i chi.

Gallwch wneud apêl anffurfiol am ddim drwy gysylltu â phwy bynnag roddodd y tocyn parcio i chi, felly mae’n syniad da rhoi cynnig arni.

Ni ellir mynd â chi i’r llys os ydych chi’n apelio’n anffurfiol, felly ni effeithir ar eich statws credyd. Byddwch ond yn gorfod mynd i’r llys os yw’ch apêl yn aflwyddiannus ac os nad ydych chi’n talu’r tocyn neu’n apelio i dribiwnlys.

Os nad oes unrhyw un o’r rhesymau hyn yn berthnasol i chi, mae’n syniad da talu’r tocyn yn gynnar. Fel arfer, gallwch gael gostyngiad o:

  • 50% os ydych chi’n talu Hysbysiad Tâl Cosb neu Hysbysiad Tâl Gormodol o fewn 14 diwrnod
  • 40-60% os ydych chi’n talu Hysbysiad Tâl Parcio o fewn 14 diwrnod

Peidiwch ag apelio neu dalu tocyn gan gwmni parcio nad yw’n aelod o Gymdeithas Masnach Achrededig. Dydyn nhw ddim yn gallu mynd â chi i’r llys i wneud i chi dalu gan na allan nhw gael eich manylion gan y DVLA.
Ewch i wefannau British Parking Association (BPA) neu International Parking Community (IPC) i weld a yw cwmni parcio yn aelod o ATA. Gallwch hefyd ffonio’r BPA ar 01444 447 300 i weld a yw cwmni yn aelod. Gall galwadau i’r rhif hwn gostio hyd at 12c y funud o linell dir, neu rhwng 8c a 40c y funud o ffôn symudol (gall eich cyflenwr ffôn ddweud faint fydd yn rhaid i chi ei dalu).
Os ydych chi’n cael tocyn yn y post gan gwmni nad yw’n aelod o ATA, rhowch wybod i Action Fraud rhag ofn bod y cwmni wedi cael eich cyfeiriad yn anghyfreithlon.

Roeddech chi wedi parcio’n gywir

Gallwch chi apelio yn erbyn tocyn os ydych chi’n meddwl eich bod wedi parcio’n gywir. Er enghraifft, os yw swyddog parcio yn meddwl eich bod wedi aros yn rhy hir ond eich bod o fewn y terfyn amser mewn gwirionedd.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid diddymu Hysbysiad Tâl Cosb (PCN) neu Hysbysiad Tâl Gormodol (ECN) gan y cyngor – a roddir ar dir cyhoeddus, fel y stryd fawr – os nad oeddech chi wedi torri’r rheolau parcio. Gallwch fwrw golwg ar y rheolau hyn ar GOV.UK neu ar yr arwyddion ble roeddech chi wedi parcio.

Os ydych chi’n parcio ar dir cyhoeddus, fel maes parcio archfarchnad, dylid nodi’r rheolau parcio (y telerau ac amodau i ddefnyddio’r maes parcio) yn glir ar arwyddion cyfagos. Os ydych chi’n cael Hysbysiad Tâl Parcio ac yn gallu profi eich bod wedi cadw at y rheolau hyn, dylid diddymu eich tocyn. Mae hyn oherwydd na all y cwmni parcio ddadlau nad oeddech chi wedi cydymffurfio â’u telerau ac amodau.

Wrth apelio, dylech egluro nad oeddech chi wedi torri unrhyw reolau parcio ac anfon tystiolaeth i brofi hynny. Gweler apelio yn erbyn tocyn parcio am y mathau o dystiolaeth y gallwch chi ei defnyddio.

Doedd yr arwyddion parcio neu’r marciau ffyrdd ddim yn glir

Mae’n rhaid i bob parc neu ffordd gyda chyfyngiadau parcio gael arwyddion neu farciau ffyrdd sy’n nodi hyn yn glir. Dylid diddymu eich tocyn os gallwch chi brofi:

  • nad oeddech chi’n gallu gweld unrhyw farciau ffyrdd neu arwyddion
  • roedd yn anodd darllen yr arwyddion neu farciau - er enghraifft, roedden nhw wedi colli eu lliw neu’n cael eu cuddio gan goed
  • roedd yr arwyddion yn gamarweiniol neu’n ddryslyd
  • doedd dim arwyddion yn dweud nad oedd hawl i barcio

Dylech ennill eich apêl hefyd os ydych chi wedi derbyn tocyn drwy’r post ac nad oedd unrhyw arwyddion yn dweud bod CCTV – neu system adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig (ANPR) – yn cael ei ddefnyddio lle’r oeddech chi’n parcio.

Gweler apelio yn erbyn tocyn parcio i weld pa dystiolaeth fydd angen i chi ei rhoi.

Doedd dim ffordd o dalu

Dylid diddymu’ch tocyn os oedd mesurydd neu beiriant parcio wedi torri ac nad oedd ffordd arall i chi dalu. Ni fydd yn cael ei ddiddymu os oedd peiriant arall y gallech chi fod wedi ei ddefnyddio.

Bydd angen i chi anfon tystiolaeth bod y peiriant neu fesurydd wedi torri at bwy bynnag a roddodd y tocyn i chi. Gweler apelio yn erbyn tocyn parcio am ragor o fanylion ar sut i wneud hyn.

Mae gan rai meysydd a mannau parcio arwydd yn dweud wrthych chi am beidio â pharcio yno os nad oes ffordd o dalu. Os oedd arwydd tebyg lle'r oeddech chi wedi parcio, mae’n debyg y bydd eich apêl yn cael ei gwrthod. Fel arfer, gallwch gael gostyngiad am dalu’ch tocyn yn gynnar, felly efallai y byddwch chi am wneud hyn yn hytrach nag apelio.

Codwyd gormod arnoch chi

Os ydych chi’n cael Hysbysiad Tâl Cosb (PCN), bydd faint godwyd arnoch chi yn cael ei ddosbarthu i fand uwch neu is. Codir y band uwch arnoch chi am y troseddau mwyaf difrifol, fel parcio ar linell felen ddwbl. Mae’r band is am rywbeth llai difrifol, fel parcio am fwy o amser na’r cyfnod mae’ch tocyn yn ei ganiatáu.

Dylech apelio os codir gormod arnoch chi am PCN. Er enghraifft, os dylai’ch trosedd fod yn y band is ond codir y band uwch arnoch chi. Gallwch weld faint mae cyngor yn ei godi am bob band ar eu gwefan.

Os ydych chi wedi cael Hysbysiad Tâl Parcio, mae rheolau’r BPA ac IPC yn nodi na ddylid codi mwy na £100 arnoch chi - heblaw bod y cwmni parcio yn gallu profi bod eich trosedd parcio wedi achosi iddynt golli cymaint â hyn. Dylech apelio os codwyd mwy na £100 arnoch chi a’ch bod yn credu na ellir cyfiawnhau’r gost ychwanegol hon.

Rhagor o wybodaeth am sut i apelio yn erbyn eich tocyn parcio.

Nid chi oedd yn gyrru pan roddwyd y tocyn

Dim chi wnaeth y camgymeriad parcio felly dylid diddymu’r tocyn. Gweler apelio yn erbyn tocyn parcio pan roedd rhywun arall yn gyrru er mwyn gweld sut i brofi hyn.

Roeddech chi’n methu mynd yn ôl i’ch car

Dylech apelio yn erbyn eich tocyn parcio os nad oeddech chi’n gallu cyrraedd eich car mewn pryd oherwydd:

  • ei bod yn anodd i chi gerdded oherwydd eich anabledd
  • eich bod yn feichiog
  • bod gennych chi fabi ifanc iawn

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu bod yn rhaid eich trin gyda dealltwriaeth ac na cheir gwahaniaethu yn eich erbyn, felly dylid diddymu’r tocyn.

Am ragor o wybodaeth ewch i apelio yn erbyn eich tocyn.

Roedd eich car wedi torri i lawr

Mae gennych chi reswm cryf dros apelio os oeddech chi wedi cael tocyn wrth aros i’ch car gael ei drwsio neu ei achub – dylai pwy bynnag a roddodd y tocyn ddeall nad oeddech chi’n gallu ei symud. Gweler apelio yn erbyn tocyn parcio i weld pa fath o dystiolaeth ddylech chi ei chynnwys yn eich apêl.

Dim ond ychydig bach yn hwyr oeddech chi

Mae'n werth apelio os mai dim ond 5 i 10 munud yn hwyr oeddech chi.

Dylech gael rhai munudau ar ôl i’ch cyfnod parcio ddod i ben - sef ‘cyfnod gras’. Mae’n rhaid i aelodau ATA roi 10 munud ychwanegol i chi cyn rhoi Hysbysiad Tâl Parcio i chi - a dylai’r cyngor hefyd cyn rhoi Hysbysiad Tâl Parcio i chi. Dylech gael cyfnod rhesymol hefyd i adael y maes parcio os ydych chi’n penderfynu peidio â pharcio.

Efallai y bydd cwmni parcio yn anghytuno â’ch apêl os ydyn nhw’n amseru eich arhosiad o’r eiliad y byddwch chi’n cyrraedd y maes parcio, yn hytrach na’r amser y gwnaethoch chi barcio. Mae’n dal yn werth apelio gan y gallwch chi wneud apêl anffurfiol am ddim - ac mae’n rhaid i chi wneud hynny cyn y cewch apelio mewn tribiwnlys annibynnol neu gymdeithas masnach.

Rhagor o wybodaeth am apelio yn erbyn eich tocyn parcio.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)