Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cymraeg

Cynllun Cymraeg

Fel sefydliad sy'n gweithio ar draws Cymru a Lloegr, yn Cyngor ar Bopeth, rydym yn credu y bydd cael cynnig Cymraeg rhagweithiol yn ein helpu i ddarparu gwell gwasanaeth i'r cyhoedd, a chefnogaeth ar gyfer ein staff a gwirfoddolwyr. 

Gan weithio gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a chydweithwyr ar draws Cyngor ar Bopeth, rydym wedi diweddaru ein cynllun Cymraeg i adlewyrchu ein cynnig rhagweithiol. 

Rydym am wella profiadau pobl wrth ddefnyddio ein gwasanaethau. Yn benodol trwy wneud cynnig rhagweithiol yn rhan annatod o DNA ein sefydliad. 

Rydym wedi gosod nodau clir i’n hunain, sy’n datgan bwriadau allweddol ein cynnig rhagweithiol. Rydym wedi dadansoddi’r nodau hyn i gynllun cynnydd manylach ar wahân, gyda chamau tymor byr a hir dymor. Bydd cynnydd yn erbyn y camau hynny’n cael ei fonitro, er mwyn i ni allu edrych yn ôl i weld sut hwyl rydym ni’n ei gael ar gyflawni ein nodau.

Cymeradwyodd Comisiynydd y Gymraeg y cynllun ar 27 Awst 2020 a dywedodd: “Gallaf weld o'ch cynllun Cymraeg ac o'r targedau rydych chi wedi'u gosod eich bod chi wedi cynllunio mewn ffordd sy'n uchelgeisiol ond yn ymarferol ac yn fesuradwy."

Mae copi o'r cynllun ar gael drwy ddilyn y dolenni isod:

Cynllun Cymraeg Cyngor ar Bopeth (fersiwn Cymraeg) g-doc

Cynllun Cymraeg Cyngor ar Bopeth (fersiwn Saesneg) g-doc

Mae gan bob Cyngor ar Bopeth sy'n gweithredu yng Nghymru ei gynllun/cynllun cynnydd Cymraeg ei hun.

Os oes gennych unrhyw sylwadau, neu os hoffech gael wybod mwy am ein cynllun, cysylltwch â'n Swyddog Iaith Gymraeg.

UAT (Release)