Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gwirio a allwch chi gael Credyd Cynhwysol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal y gallwch chi ei hawlio os ydych chi ar incwm isel neu’n ddi-waith.

Efallai y byddai’n werth i chi hawlio Credyd Cynhwysol:

  • os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu biliau
  • os ydych chi wedi colli eich swydd ac nad oes gennych chi unrhyw incwm
  • mae eich incwm wedi gostwng ond rydych chi’n dal i weithio
  • os oes gennych chi anabledd neu salwch sy’n eich atal rhag gweithio
  • os oes gennych chi gostau gofal plant drud
  • os ydych chi’n gofalu am rywun

Nid oes unrhyw lefel benodol o incwm lle byddwch yn methu â bod yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol - mae’n dibynnu ar eich sefyllfa.

Darllenwch ein cyngor i weld a allwch gael Credyd Cynhwysol. Os ydych chi’n ansicr, gallwch siarad â chynghorydd. 

Pwy sy’n gallu cael Credyd Cynhwysol

Er mwyn cael Credyd Cynhwysol, rhaid i chi fod:

  • yn 18 oed neu hŷn – neu’n 16 neu 17 oed mewn rhai achosion
  • o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth – gwiriwch eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK os ydych chi dros 60 oed
  • yn byw yn y DU – mae rheolau ychwanegol os nad ydych chi’n ddinesydd Prydeinig
  • â llai nag £16,000 o gynilion

Os ydych yn byw gyda phartner, bydd eu hincwm a’u cynilion yn cael eu hystyried hefyd.

Gallwch gael Credyd Cynhwysol os ydych chi’n byw gyda phobl eraill ond fe allai effeithio ar faint rydych yn ei gael. Er enghraifft, gallai byw gyda rhieni olygu y cewch lai o help gyda chostau tai.

Gallwch gael Credyd Cynhwysol os ydych chi'n hunangyflogedig - mae’r broses ymgeisio yr un peth.

Mae p’un a fyddwch chi’n gallu cael Credyd Cynhwysol yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Os ydych chi eisoes yn hawlio budd-daliadau

Mae Credyd Cynhwysol yn raddol yn disodli’r budd-daliadau hyn:

  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm (ESA)
  • Lwfans Ceisio Gwiath yn seiliedig ar Incwm (JSA)
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith
  • Cymhorthdal Incwm

Fel arfer gallwch aros ar un o’r budd-daliadau hyn oni bai bod eich sefyllfa yn newid – gelwir hyn yn ‘newid mewn amgylchiadau’. Nid yw pob newid mewn amgylchiadau yn golygu bod angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Dysgwch fwy am symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill. 

Os cawsoch bremiwm anabledd difrifol (SDP)

Gallwch hawlio Credyd Cynhwysol hyd yn oed os oeddech yn cael, neu wedi rhoi’r gorau i gael budd-dal gyda premiwn anabledd difrifiol (SDP) yn ddiweddar.

Efallai y byddwch yn cael swm ychwanegol yn eich Credyd Cynhwysol – gelwir hyn yn ‘elfen drosiannol’.

Byddwch yn cael y swm ychwanegol os byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn mis ar ôl i chi roi’r gorau i gael y budd-dal gyda’r SDP.

Ni allwch gael y swm ychwanegol os:

  • mai dim ond gyda Budd-dal Tai yr oeddech yn cael yr SDP.  
  • rydych wedi symud i mewn gyda phartner sy’n hawlio Credyd Cynhwysol.

Cyn 27 Ionawr 2021, ni allech wneud cais am Gredyd Cynhwysol os oeddech yn cael, neu wedi rhoi’r gorau i gael, budd-dal gyda SDP.

Os gwnaethoch gais am Gredyd Cynhwysol cyn 27 Ionawr 2021, siaradwch â chynghorydd i wirio’r hyn y mae gennych hawl iddo. 

Os ydych chi’n apelio yn erbyn penderfyniad yn ymwneud â budd-dal

Efallai y byddai’n werth i chi aros am benderfyniad ar eich apêl neu ailystyriaeth orfodol cyn hawlio Credyd Cynhwysol. Os byddwch chi’n hawlio Credyd Cynhwysol, efallai na fyddwch chi’n gallu dychwelyd i’ch budd-dal arall hyd yn oed os bydd eich apêl yn llwyddo.

Gallwch chi siarad â chynghorydd os nad ydych chi’n siŵr a ddylech chi hawlio Credyd Cynhwysol neu aros am benderfyniad ar eich apêl.

Os ydych chi mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser

Dim ond os yw o leiaf un o’r canlynol yn berthnasol y gallwch chi gael Credyd Cynhwysol: 

  • rydych wedi cyrraedd oedran pensiwn y Wladwriaeth ac rydych chi'n byw gyda phartner sydd o dan yr oedran Pensiwn y Wladwriaeth – gwiriwch eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK
  • rydych o dan 21 oed (neu wedi troi’n 21 yn ystod eich cwrs), dydych chi ddim mewn addysg uwch ac mae eich rhieni wedi marw neu ni allwch fyw gyda nhw. 
  • rydych chi’n aros i ddychwelyd i gwrs ar ôl cymryd amser i ffwrdd oherwydd salwch neu gyfrifoldebau gofalu
  • rydych yn cael Lwfans Gweini, Lwfans Byw i’r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol a phenderfynodd Adran Gwaith a Phensiynau fod gennych ‘allu cyfyngedig i weithio’ cyn i chi ddechrau eich cwrs
  • rydych chi’n gofalu am blentyn o dan 16 oed, neu o dan 20 oed os yw mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser 
  • rydych chi’n rhiant maeth ac mae gennych chi blentyn yn byw gyda chi

Os ydych chi’n byw gyda’ch partner

Gallwch chi gael Credyd Cynhwysol yn ystod addysg llawn amser os ydych chi’n byw gyda’ch partner:

  • ac nad yw mewn addysg llawn amser
  • a’i fod mewn addysg llawn amser, ond ei fod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol wrth astudio 
  • a’i fod mewn addysg llawn amser, a bod un ohonoch chi yn gyfrifol am blentyn neu’n rhiant maeth

Gwiriwch a ydych mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser.

Ystyrir eich bod mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser os yw’r canlynol yn wir, er enghraifft:

  • rydych o dan 20 oed ac yn yr ysgol neu’r coleg
  • rydych o dan 20 ac yn gwneud hyfforddiant llawn amser – oni bai bod yr hyfforddiant yn rhan o’ch swydd
  • rydych mewn addysg uwch llawn amser – mae hyn yn cynnwys unrhyw beth uwchlaw Lefel A.
  • rydych yn gwneud cwrs llawn amser lle rydych yn cael benthyciad neu grant cynhaliaeth
  • os ydych rhwng 16 a 25 oed ac yn dilyn hyfforddeiaeth sy’n para llai na 6 mis, nid yw hyn yn cyfri fel addyg neu hyfforddiant llawn amser.

Os nad ydych chi’n ddinesydd y DU 

Mae’r rheolau’n dibynnu ar p’un a ydych yn ddinesydd gwlad yr UE, AEE neu’r Swistir.

Mae’r AEE yn cynnwys gwledydd yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy. Gwiriwch pa wledydd sydd yn yr UE a’r AEE ar GOV.UK. 

Os ydych chi’n ddinesydd o’r UE,  AEE neu'r Swistir

Os gwnaethoch ddechrau byw yn y DU ar ôl 31 Rhagfyr 2020 ac nad ydych yn ymuno ag aelod o’r teulu, byddwch ‘yn destun rheolaeth fewnfudo’. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. Dysgwch fwy am gael mynediad at fudd-daliadau os ydych yn destun rheolaeth fewnfudo. 

Os gwnaethoch ddechrau byw yn y DU ar 31 Rhagfyr 2020 neu os ydych yn ymuno ag aelod o’r teulu, efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Mae angen i chi ddangos:

  • bod gennych statws sefydlog neu'r hawl i hawlio budd-daliadau yn y DU – gelwir hyn yn ‘hawl i breswylio’ 
  • mai’r DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yw eich prif gartref a’ch bod chi’n bwriadu aros – gelwir hyn yn ‘preswylio fel arfer’

Mae eich hawl i breswylio yn dibynnu ar bethau fel eich gwaith, eich teulu a'ch sefyllfa bersonol. Gallwch wirio a oes gennych hawl i breswylio. 

Dim ond os oes gennych y canlynol y gallwch hawlio Credyd Cynhwysol:

  • Dinasyddiaeth Brydeinig a gallwch brofi eich bod yn ‘preswylio fel arfer’
  • statws cyn-sefydlog o Gynllun Setliad yr UE a hawl arall i breswylio
  • caniatâd amhenodol i aros neu statws sefydlog o Gynllun Setliad yr UE

Os nad yw un o’r rhain yn berthnasol i chi, efallai y gallwch wneud cais hwyr i Gynllun Setliad yr UE. Bydd angen i chi fod â rheswm da dros fethu’r dyddiad cau, sef 30 Mehefin 2021. Dysgwch fwy am hawlio budd-daliadau os ydych yn dod o’r UE. 

Dysgwch fwy am aros yn y DU os ydych yn dod o’r UE. 

Gwneud cais fel pâr

Os ydych chi a’ch partner yn gwneud hawliad ar y cyd am Gredyd Cynhwysol, mae angen i’r ddau ohonoch chi fod yn gymwys. Bydd angen i’r ddau ohonoch chi fod yn preswylio fel arfer a bod â naill ai statws preswylydd sefydlog neu hawl i breswylio.

Os nad yw un ohonoch yn gymwys, gall y person arall barhau i wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Dylech wneud cais ar y cyd gan fod angen i'r Adran Gwaith a Phensiynau wybod am incwm y ddau ohonoch.

Pan fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn prosesu’r hawliad, byddan nhw’n ei newid i fod yn hawliad sengl. Mae hyn yn golygu y byddwch chi neu’ch partner yn cael eich talu fel petaech yn berson sengl.

Os ydych chi’n dod o wlad y tu allan i UE, yr AEE neu'r Swistir

Ni allwch chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych chi’n amodol ar reolaeth fewnfudo.

Bydd hefyd angen i chi fodloni’r ‘prawf preswylio fel arfer’, neu fod wedi’ch eithrio ohono. 

Gwneud cais fel pâr

Os ydych chi a’ch partner yn gwneud hawliad ar y cyd am Gredyd Cynhwysol, mae angen i’r ddau ohonoch chi fod yn gymwys.

Os nad yw un ohonoch chi’n gymwys, mae hi’n dal i fod yn bosibl i’r person arall hawlio Credyd Cynhwysol. Mae angen gwneud hawliad ar y cyd gan fod angen i’r Adran Gwaith a Phensiynau wybod am incwm y ddau ohonoch chi. 

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn newid eich hawliad i fod yn hawliad sengl pan fydd yn prosesu’ch cais. Mae hyn yn golygu y byddwch chi neu’ch partner yn cael eich talu fel petaech yn berson sengl. 

Os ydych chi’n rhentu gyda’ch partner 

Os byddwch chi’n hawlio Credyd Cynhwysol ac nad yw un ohonoch chi’n gymwys, gallai hyn effeithio ar eich statws mewnfudo.

Cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol cyn gwneud cais.

Os ydych chi’n geisiwr lloches

Gallwch chi hawlio Credyd Cynhwysol os yw eich cais am loches wedi bod yn llwyddiannus.

Ni allwch hawlio Credyd Cynhwysol os ydych chi’n aros am benderfyniad ar gais am loches. Yn hytrach, efallai y byddwch chi’n gymwys i gael cymorth lloches.

Os ydych chi neu’ch partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os yw'r ddau ohonoch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, fel arfer mae'n well ichi hawlio Credyd Pensiwn. Gallwch wirio beth yw eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Gallwch siarad ag ymgynghorydd os nad ydych yn siŵr pa fudd-daliadau i'w hawlio - gallant eich helpu i weithio allan yr opsiwn orau i chi. 

Os ydych chi’n talu rhent

Os yw'r ddau ohonoch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth a'ch bod yn talu rhent, efallai y gallwch gael Budd-dal Tai. Dylech wirio a allwch gael Budd-dal Tai.

Os mai dim ond un ohonoch sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwr y Wladwriaeth 

Os mai dim ond un ohonoch sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, fel arfer ni allwch wneud cais newydd am Gredyd Pensiwn neu Fudd-dal Tai. Yn aml bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol yn lle.

Os gwnaethoch chi droi oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 15 Mai 2019 a'ch bod yn cael Credyd Pensiwn neu Fudd-dal Tai, gallwch ddal i'w gael oni bai bod eich amgylchiadau'n newid.

Gallwch wneud cais newydd am Gredyd Pensiwn hyd yn oed os mai dim ond un ohonoch sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth os yw'r ddau o'r canlynol yn berthnasol:

  • gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 15 Mai 2019
  • rydych chi wedi bod yn hawlio Budd-dal Tai neu Gredyd Pensiwn fel rhan o'r un cwpl ers cyn 15 Mai 2019

Dylech hefyd wirio a allwch hawlio Budd-dal Tai os ydych chi'n talu rhent.

Nid oes angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol os yw'r person nad yw wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn hawlio:

  • Cymorth Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm

Gallwch barhau i gael y budd-daliadau rydych chi arno ar hyn o bryd.

Os ydych chi’n 16 neu 17 oed

Efallai y gallwch chi hawlio Credyd Cynhwysol os ydych chi’n bodloni’r holl amodau eraill ac un o’r rhain: 

  • dydych chi ddim yn gallu gweithio gan eich bod chi’n anabl neu’n sâl – bydd angen i chi roi tystiolaeth feddygol o hyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau 
  • mae gennych chi blentyn – neu rydych chi’n disgwyl babi yn yr 11 wythnos nesaf
  • rydych chi’n gofalu am berson ag anabledd difrifol
  • mae eich rhieni wedi marw neu dydych chi ddim yn gallu byw gyda nhw – er enghraifft, os yw eich perthynas wedi chwalu neu os byddai byw gyda nhw yn peri risg i’ch iechyd 

Ni fydd angen i chi chwilio am waith fel rhan o’ch hawliad Credyd Cynhwysol os yw’r ddau meini prawf canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser
  • nid ydych chi’n derbyn gofal gan riant, rhiant maeth neu awdurdod lleol

Os ydych chi’n ddinesydd Prydeinig a’ch bod wedi dychwelyd i’r DU yn ddiweddar

Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ddangos mai’r DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yw eich prif gartref a’ch bod chi’n bwriadu aros yno. Gelwir hyn yn ‘preswylio fel arfer’.

Gwiriwch sut i brofi eich bod chi’n preswylio fel arfer.

Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Os ydych chi’n gymwys am Gredyd Cynhwysol, bydd rhaid i chi wneud cais ar-lein fel arfer.

Dysgwch sut i fynd ati i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Cael help

Os nad ydych chi’n siŵr a allwch chi gael Credyd Cynhwysol, gallwch chi siarad â chynghorydd.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)