Problem gyda char ail law
Os oes rhywbeth o’i le gyda’ch car ail law, efallai fod gennych chi hawl cyfreithiol i gael ei drwsio, y gost o’i drwsio, neu rywfaint o’ch arian yn ôl neu’r cwbl. Mae hyn yn cynnwys os yw wedi’i ddifrodi, os nad yw’n gweithio, neu os nad yw’n cyfateb i’r hysbyseb neu’r disgrifiad a gawsoch chi.
Ni fydd gennych chi hawl i unrhyw beth os yw’r canlynol yn wir:
- fe’ch hysbyswyd o’r nam pan oeddech chi’n prynu’r car – ac fe wnaeth rhywun egluro’n llawn beth yn union oedd y broblem
- fe wnaethoch chi archwilio’r car a dylech chi fod wedi gweld y broblem, er enghraifft tolc
- chi achosodd y nam
- mae’r nam yn normal o ystyried y defnydd sydd wedi’i wneud o’r car (sef traul arferol) – er enghraifft os oes angen newid padiau’r brêc wedi iddyn nhw gael eu defnyddio am amser maith
Mae eich hawliau defnyddiwr yn wahanol os ydych chi wedi newid eich meddwl am y car a does dim byd o’i le arno.