Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Yswiriant adeiladau

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae yswiriant adeiladau’n gwarchod cost ailadeiladu eich cartref petai’n cael ei ddifrodi neu ei ddifa. Mae fel arfer yn orfodol os ydych yn bwriadu prynu eich cartref gyda morgais, ac efallai na fyddwch chi’n gallu cael un oni bai eich bod yn prynu yswiriant adeiladau.

Mae’r dudalen hon yn nodi’r hyn y gallwch chi ddisgwyl i yswiriant adeiladau ei warchod a’r hyn y dylech chi feddwl amdano wrth ddewis polisi.

Beth yw yswiriant adeiladau

Mae yswiriant adeiladau’n gwarchod cost atgyweirio difrod i strwythur eich eiddo. Mae hefyd yn cynnwys garejys, siediau a ffensys, yn ogystal â chost amnewid eitemau megis pibau, ceblau a draeniau.

Dylai eich yswiriant sicrhau cost lawn ailadeiladu eich tŷ. Mae hyn hefyd yn cynnwys costau dymchwel, clirio’r safle, a ffioedd penseiri.

Mae yswiriant adeiladau fel arfer yn gwarchod rhag colled neu ddifrod sy’n digwydd o ganlyniad i:

  • dân, ffrwydrad, stormydd, llifogydd, daeargrynfeydd
  • lladrad, ymgais at ladrad a fandaliaeth
  • pibau yn rhewi neu’n byrstio
  • coed, polion lampau, erialau neu ddysglau lloeren yn syrthio
  • ymsuddiant
  • trawiad gan gerbydau neu awyrennau.

A oes angen yswiriant adeiladau arnoch?

Os oes gennych chi forgais

Bydd yswiriant adeiladau’n amod y morgais a rhaid iddo fod ddigon i gwrdd â gweddill y morgais. Dylai eich benthyciwr roi dewis i chi o ran yswiriwr neu ganiatáu i chi ddewis un eich hun. Gallant wrthod eich dewis o yswiriwr, ond ni chânt fynnu eich bod yn defnyddio eu polisi yswiriant hwy eu hunain oni bai fod pecyn y morgais yn cynnwys yswiriant.

Os ydych chi’n prynu tŷ, dylech brynu yswiriant adeiladau pan fyddwch chi’n cyfnewid cytundebau. Os ydych chi’n gwerthu tŷ, y chi sy’n gyfrifol am ofalu amdano nes bydd y gwerthiant wedi’i gwblhau, felly dylech barhau â’ch yswiriant tan hynny.

Os yw eich benthyciwr morgais yn adfeddiannu eich cartref, y chi sy’n gyfrifol am ei yswirio nes iddo gael ei werthu, ac fe ddylech roi gwybod i’ch yswiriwr nad ydych yn byw yno mwyach, rhag ofn na fydd yr yswiriant yn eich gwarchod.

Os nad oes gennych chi forgais

Nid oes rhaid prynu yswiriant adeiladau, ond mae’n fuddiol i chi wneud hynny. Ystyriwch sut y byddwch chi’n fforddio ailadeiladu eich tŷ petai’n cael ei ddifrodi neu ei ddifa.

Os ydych chi’n ddaliwr prydles

Efallai y bydd eich prydles yn nodi bod rhaid i chi brynu yswiriant adeiladau gydag yswiriwr penodol, neu efallai y bydd y rhydd ddeiliad yn prynu yswiriant ac yn codi tâl arnoch chi amdano.

Os ydych chi’n denant

Eich landlord sydd fel arfer yn trefnu’r yswiriant, er efallai mai chi fydd yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod i osodiadau a ffitiadau. Efallai y bydd yswiriant cynnwys y cartref yn gwarchod hyn.

Faint o yswiriant adeiladau sydd ei angen arnoch?

Mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn yswirio ar gyfer y swm y byddai’n costio i adeiladu eich cartref o’r cychwyn. Yr enw a roddir ar hyn yw’r swm a yswirir. Nid yw’r gost o ailadeiladu eich cartref yr un fath â’r pris yr ydych wedi’i dalu am eich cartref, na’i werth cyfredol petaech yn ei werthu. Fel arfer, mae costau ailadeiladu’n is na’r gwerth ar y farchnad, felly gwnewch yn siŵr nad ydych yn gor-yswirio neu’n tanyswirio.

I’ch helpu i gyfrifo’r gost o ailadeiladu eich cartref, mae yna gyfrifiannell ar-lein Gwasanaeth Gwybodaeth am Gostau Adeiladu ar wefan Cymdeithas Yswirwyr Prydain.

Mae rhai yswirwyr yn cynnig yswiriant diderfyn fel nad oes rhaid i chi gyfrifo’r costau ailadeiladu. Fodd bynnag, os ydych chi’n gwybod beth yw’r rhain yn barod, efallai y byddai’n rhatach i chi chwilio am bolisi sy’n cyd-fynd yn union â’ch anghenion.

Mae rhai polisïau’n cyfrifo’r swm a yswirir yn seiliedig ar asesiad cyffredinol o ble’r ydych yn byw ynghyd â math ac oed eich cartref. Fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn gweddu i’ch eiddo chi, felly bydd angen i chi gyfrifo a oes gennych ddigon o sicrwydd yswiriant.

Dylech adolygu’r swm y mae eich yswiriant adeiladau’n ei warchod yn rheolaidd, gan fod costau ailadeiladu’n tueddu i godi dros amser. Mae rhai yswirwyr yn cynnig polisïau a fydd yn cynyddu’r swm a yswirir yn awtomatig yn unol â chostau ailadeiladu.

Cofiwch, os ydych chi’n gwella eich cartref, megis ychwanegu estyniad neu’n addasu’r atig, gall y costau ailadeiladu hefyd gynyddu a bydd angen i chi wneud yn siŵr bod gennych sicrwydd yswiriant priodol.

Os oes gan eich eiddo nodweddion arbennig, er enghraifft, to gwellt, neu os yw’n adeilad rhestredig, mae’n bosibl i chi dalu am arolwg gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) i asesu’r costau ailadeiladu.

A oes angen yswiriant adeiladau ychwanegol arnoch?

Efallai yr hoffech ystyried prynu yswiriant adeiladau ychwanegol i’ch gwarchod ar gyfer risgiau eraill. Bydd yn rhaid i chi dalu premiymau uwch am yr yswiriant hwn. Gallwch brynu yswiriant ychwanegol ar gyfer:

  • llifogydd neu ymsuddiant os ydych chi’n byw mewn ardal risg uchel
  • difrod damweiniol i’ch cartref
  • llety arall os oes rhaid i chi symud allan o’ch cartref ar ôl gwneud hawliad
  • difrod i waliau terfyn, ffensys, giatiau, rhodfeydd a phyllau nofio
  • difrod i bibau tanddaearol, ceblau, cyflenwadau nwy a thrydan
  • gwydr mewn ffenestri, drysau, lolfeydd haul a ffenestri to
  • yswiriant atebolrwydd os yw eiddo rhywun arall hefyd yn cael ei ddifrodi
  • yswiriant treuliau cyfreithiol.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Mae gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI) ganllaw ar gostau ailadeiladu yn: www.abi.bcis.co.uk
  • Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig RICS
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)