Dewis yswiriant teithio
Mae yswiriant gwyliau’n medru rhoi sicrwydd ychwanegol i chi os nad yw pethau'n mynd yn ôl y disgwyl. Felly dylech sicrhau bod digon o ddarpariaeth gennych os ydych yn bwriadu mynd i ffwrdd am gyfnod.
Mae'n arbennig o bwysig cael yswiriant teithio os ydych yn teithio'n annibynnol, oherwydd efallai na fydd gennych unrhyw ffordd o gyrraedd adref na neb i'ch helpu i ddatrys eich problemau gyda'ch gwyliau.
Darllenwch y dudalen hon am fwy o wybodaeth ar yr hyn sydd angen i chi ei ystyried cyn i chi gymryd polisi yswiriant teithio.
Gair o gyngor
- mae yswiriant teithio'n hanfodol, yn enwedig os ydych yn teithio'n annibynnol
- dewiswch bolisi sy'n darparu ar gyfer eich anghenion
- cymharwch bolisïau ar sail y ddarpariaeth y maen nhw'n ei chynnig a hefyd y gost
- ymchwiliwch i weld os oes yswiriant arall gennych sy'n darparu ar gyfer cyfnodau i ffwrdd o'r cartref
- os ydych yn teithio yn Ewrop, cofrestrwch i gael cerdyn EHIC i gael triniaeth feddygol rad ac am ddim.
Pam cymryd yswiriant teithio?
Mae yswiriant teithio’n medru eich diogelu yn erbyn y pethau canlynol sy'n medru mynd o le:
- canslo'ch taith neu ei thorri'n fyr am resymau tu hwnt i'ch rheolaeth
- colli trafnidiaeth neu oedi cyn gadael am resymau tu hwnt i'ch rheolaeth
- argyfwng meddygol neu argyfwng o fath arall
- anaf personol a marwolaeth
- eitemau sydd wedi eu colli, eu dwyn neu eu difrodi, gan gynnwys bagiau, pasbortau ac arian
- difrod neu anaf damweiniol yr ydych chi wedi ei achosi.
Os nad oes yswiriant teithio gennych, fe fydd yn rhaid i chi dalu allan o'ch poced eich hun i ddelio â phroblem tra'ch bod chi i ffwrdd. Neu efallai y byddwch yn colli arian os ydych yn gorfod canslo taith ac yn methu a chael eich arian yn ôl. Fe allai hyn gostio miloedd o bunnoedd i chi.
Ble fedrwch chi brynu yswiriant?
Mae yswiriant teithio ar gael yn eang. Gallwch ei brynu gan:
- gwmnïau yswiriant
- banciau
- adwerthwyr ac archfarchnadoedd
- cwmnïau teithio
- gwefannau cymharu ar-lein
- cwmnïau gwyliau.
Weithiau, efallai y bydd yswiriant teithio wedi ei gynnwys fel gwasanaeth ychwanegol trwy'ch cyfrif banc neu gerdyn credyd. Dylech holi faint yr ydych yn ei dalu am hyn a pha fath o ddarpariaeth mae'n ei chynnwys. Er enghraifft, efallai y bydd y ddarpariaeth yn gyfyngedig ar gyfer eich cymar neu'ch partner. Efallai y byddech chi'n well eich byd yn prynu polisi unigol.
Efallai y bydd eich cwmni teithio'n cynnig yswiriant teithio fel rhan o wyliau pecyn. Gallwch ddewis hyn os ydych chi eisiau, ond nid oes rhaid i chi brynu'r yswiriant hwn. Mae'r cwmni teithio'n torri'r gyfraith os yw'n ceisio gwneud i chi ei gymryd neu os yw'n codi mwy am eich gwyliau am i chi wrthod ei dderbyn. Mynnwch gyngor os yw hyn yn digwydd i chi.
Cyn i chi brynu yswiriant gwyliau
Mae'n bwysig cael y math iawn o ddarpariaeth ar gyfer eich anghenion chi. Ystyriwch y canlynol:
- i ble'r ydych chi'n teithio. Er enghraifft, os ydych chi'n teithio i'r Unol Daleithiau fe fyddwch chi angen darpariaeth feddygol ychwanegol
- eich oed. Mae yswiriant teithio'n medru costio mwy os ydych chi dros 65. Mae yna bolisïau arbennig i deithwyr hyn y gallai fod yn werth i chi edrych arnynt
- pa mor aml fyddwch chi'n teithio. Os ydych yn mynd i ffwrdd ar eich gwyliau sawl gwaith y flwyddyn, efallai y byddai'n well prynu polisi teithio blynyddol yn hytrach na sawl polisi un taith
- beth fyddwch chi'n ei wneud tra'ch bod chi i ffwrdd. Efallai y byddwch chi angen darpariaeth ychwanegol os ydych yn cymryd rhan mewn campau peryglus, fel sgïo neu ddeifio sgwba
- a ydych chi'n teithio'n annibynnol neu ar wyliau pecyn. Fel arfer, mae gwyliau pecyn yn cynnig mwy o sicrwydd i chi os yw pethau'n mynd o le gyda thrafnidiaeth neu lety ac felly efallai na fydd angen i chi hawlio ar eich yswiriant teithio
- sut ydych chi'n teithio. Efallai na fydd rhai polisïau yswiriant yn cynnwys cychod mordaith a theithiau awyr gyda chwmnïau rhad.
Pa ddarpariaeth ddylai yswiriant teithio ei chynnwys?
Dylai'ch yswiriant teithio gynnwys y ddarpariaeth ganlynol bob tro:
- costau meddygol a darpariaeth i'ch cludo chi adref os ydych yn cael anaf neu'n mynd yn sâl dramor
- anaf personol a darpariaeth ar gyfer damweiniau neu ddifrod yr ydych chi wedi ei achosi
- darpariaeth ar gyfer eitemau sydd wedi eu colli neu ddifrodi
- darpariaeth ar gyfer colli bagiau neu oedi
- darpariaeth ar gyfer canslo taith awyr neu golli eich awyren.
Mae faint fyddwch chi'n ei dalu am eich yswiriant yn dibynnu ar y ddarpariaeth yr ydych chi'n debygol o fod ei hangen. Ni ddylech dan-yswirio er mwyn arbed arian. Ond, efallai y byddwch yn medru cadw'ch costau i lawr.
Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC)
Os ydych yn teithio yn Ewrop, mae'r EHIC yn gadael i chi gael triniaeth am ddim mewn ysbytai cyhoeddus mewn llawer o wledydd Ewropeaidd. Ond, ni fydd yn cynnwys eich cludo chi adref os ydych chi angen help meddygol i ddychwelyd i'r Deyrnas Unedig, felly ni ddylech chi ddibynnu ar hyn fel eich unig fath o yswiriant meddygol.
Yswiriant cynnwys y cartref
Ymchwiliwch i weld os yw polisi yswiriant cynnwys y cartref yn darparu ar gyfer eitemau yr ydych yn mynd â hwy i ffwrdd o'ch cartref. Os ydyw, gallech ddewis tâl-dros-ben yn fwy ar eich polisi yswiriant teithio. Y tâl-dros-ben yw'r swm na fydd eich cwmni yswiriant yn ei dalu am yr hawliad ac, fel arfer, mae rhwng £50 £100. Os ydych yn dewis tâl-dros-ben sy'n uwch, efallai y bydd eich yswiriant teithio'n costio llai.
Dewis y cwmni yswiriant iawn
Efallai na fydd y polisi rhataf yn cynnig y gwerth gorau am arian, felly mae'n bwysig sicrhau eich bod yn gwybod beth mae'r polisi'n ei gynnwys a faint mae'n ei gostio.
Gallwch ymchwilio i weld beth mae polisïau gwahanol yn ei gynnig a faint fyddan nhw'n ei gostio trwy ddefnyddio gwefan gymharu ar-lein. Ond, fel arfer, mae gwefannau cymharu'n cynnig darpariaeth gyffredinol yn unig. Os oes anghenion penodol gennych, efallai y byddai'n well dod o hyd i gwmni yswiriant sy'n cynnig darpariaeth arbenigol.
Camau nesaf
- Hawlio ar eich polisi yswiriant teithio
- Problemau wrth hawlio ar eich polisi yswiriant gwyliau
- Os oes angen help pellach arnoch
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
- Triniaeth feddygol rad ac am ddim mewn gwledydd eraill www.doh.gov.uk