Catalogau gwerthu drwy’r post
Ynglŷn â chatalogau gwerthu drwy’r post
Mae gwerthu drwy’r post yn ffordd o brynu nwyddau trwy’r post gan dalu amdanynt mewn rhandaliadau dros nifer o wythnosau. Gallwch naill ai gael catalog eich hun neu drwy asiant, yn aml ffrind, cymydog neu berthynas. Mae’r asiant fel arfer yn ennill comisiwn ar yr y pethau y maen nhw’n eu gwerthu. Os oes gennych gatalog eich hun, gallwch ennill y comisiwn eich hun.
Faint mae’n costio
Mae credyd gwerthu drwy’r post fel arfer yn ddi-log er gallai cwmni’r catalog godi llog ar eitemau mwy drud a delir amdanynt dros gyfnod hirach o amser. Gallai prynu nwyddau fel hyn fod yn ddrutach na’u prynu ar y stryd fawr.
Lle codir llog, mae’n dueddol o fod yn uchel felly chwiliwch i weld p’un ai gallwch brynu’r un nwyddau yn rhatach rywle arall.
Am fwy o wybodaeth am brynu nwyddau trwy’r post, gweler Prynu dros y rhyngrwyd, trwy’r post neu dros y ffôn
Bod yn asiant
Mae’n bosib y byddwch am ystyried bod yn asiant a chymryd archebion catalog oddi wrth bobl eraill. Os ydych yn gwneud hyn, sicrhewch eich bod yn agor cyfrif ar wahân ar gyfer pob cwsmer. Os nad ydych yn gwneud hyn ac os nad yw un o’ch cwsmeriaid yn talu, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi ad-dalu dyled y cwsmer i gwmni’r catalog.
Os ydych yn asiant ac os yw cwmni catalog yn gofyn i chi ad-dalu dyledion eich cwsmeriaid, mynnwch gyngor gan ymgynghorydd, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Yn Adviceguide
Am fwy o wybodaeth am y gwahanol ffyrdd o fenthyca arian a chael credyd, gweler Mathau o fenthyciadau.
Mae’n bosib y byddai’r wybodaeth ganlynol yn Adviceguide yn gynorthwyol:
- Cael y cynllun credyd gorau
- Cardiau credyd
- Credyd
- Banciau a chymdeithasau adeiladu
- Cynyddu eich incwm
- Sut i wario llai
- Help gyda dyled yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
- Help gyda dyled yn Yr Alban.
Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.
Rhowch glic ar y wefan am fwy o wybodaeth ynghylch: