Cyfrifo eich cyllideb
Defnyddiwch yr adnodd cyllidebu hwn er mwyn eich helpu i ddeall:
- yr hyn rydych chi’n ei ennill a’i wario
- lle gallech chi arbed costau o bosibl
Dylech chi gysylltu â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf ar unwaith os ydych chi wedi cael papurau llys, yn wynebu cael eich troi allan neu’n disgwyl beilïaid (neu swyddogion siryf yn yr Alban).
Cyn i chi gychwyn
Bydd yr adnodd fwyaf defnyddiol os ydych chi’n rhoi ffigurau cywir. Gallwch chi ddefnyddio amcan o ffigurau os mai dim ond syniad cyffredinol o’ch cyllideb rydych chi am ei gael.
Ceisiwch ddod o hyd i’r dogfennau diweddaraf canlynol:
- cyfriflenni banc
- slipiau talu
- cyfriflenni neu filiau ar gyfer cardiau debyd neu gredyd
- derbynebau ar gyfer pethau rydych chi’n talu amdanyn nhw mewn arian parod fel arfer
Dylech wneud yn siŵr eich bod yn cynnwys eich holl dreuliau, er enghraifft arian rydych chi’n ei wario ar eich partner neu eich teulu.
Mae’r adnodd cyllidebu hwn yn cymrydo 30 munud i’w gwblhau o leiaf.
Gallwch chi gymryd faint bynnag o amser sydd ei angen arnoch chi, ond fyddwch chi ddim yn gallu arbed eich gwybodaeth. Dylech chi sicrhau eich bod yn argraffu’r canlyniadau os ydych chi am eu cadw.