Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Ysgaru

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Gallwch ysgaru heb fod angen cyfreithiwr neu fynd i’r llys os gallwch chi a’ch cynbartner gytuno eich bod eisiau ysgaru, a’r rhesymau am wneud hynny.

Does dim angen i’ch partner gytuno ar ysgariad bob tro, ond byddwch yn arbed amser ac arian os yw’r naill ochr a’r llall yn cytuno.

Bydd y broses ysgaru yn dod â’ch priodas i ben. Bydd angen i chi gael trefn ar eich arian, eiddo a phlant ar wahân o hyd.

Os ydych chi’n cytuno ar eich ysgariad a’r rhesymau pam, bydd cael ysgariad terfynol, cyfreithiol yn cymryd 4 i 6 mis,

Peidiwch â defnyddio gwefannau sy’n addo pecynnau ysgaru rhad. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi gwneud cais am ysgariad o hyd.

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu dan fygythiad, dylech ofyn am gymorth.

Gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Ferched ar 0808 2000 247 ar unrhyw adeg.

Elusen yw’r Men’s Advice Line sy’n helpu dynion sy’n dioddef cam-drin domestig. Gallwch ffonio eu llinell gymorth ar 0808 801 0327 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud nesaf, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf.


Cyn i chi ddod â’ch priodas i ben, bydd angen i chi benderfynu hefyd:

Cyn i chi wneud cais

Dylech geisio cytuno ar eich rheswm dros ysgaru gyda’ch cyn-bartner. Mae rhagor o wybodaeth am ba un o'r 5 ffaith ddylech chi ei ddefnyddio, sef y ‘seiliau dros ysgaru’ i ddangos bod eich priodas wedi chwalu.

Os ydych chi wedi penderfynu mai’r ffaith rydych chi am ddibynnu arni yw gwahanu ers 2 flynedd gyda chydsyniad, bydd angen i chi gael caniatâd eich cyn-bartner i ysgaru. Fel arall, ni fydd angen caniatâd eich cyn-bartner arnoch.

Os yw’ch partner yn anghytuno â’r ysgariad (a elwir weithiau’n ‘ysgariad amddiffyniedig’) neu nad ydych chi’n gallu cytuno pwy ddylai dalu’r ffi ysgaru neu gostau eraill, efallai y byddwch angen cyngor cyfreithiol neu fynd i’r llys.

Os ydych ch’n dibynnu ar 5 mlynedd heb gydsyniad eich partner, mae’n annhebygol iawn y bydd angen i chi fynd i’r llys. Fodd bynnag, byddai’n syniad gofyn am gyngor cyfreithiol.

Byddwch angen eich tystysgrif briodas i’ch helpu i lenwi manylion y ffurflen yn gywir – er enghraifft, cyfeiriad y man lle gwnaethoch chi briodi. Os ydych chi’n llenwi unrhyw fanylion yn anghywir, bydd eich cais yn cael ei anfon yn ôl atoch chi.

Gallwch archebu copi o’ch tystysgrif briodas o GOV.UK. Bydd copïau yn costio £9.25.

Eich statws fisa wrth ysgaru

Os ydych chi yn y DU fel dibynnydd ar fisa eich partner, byddwch yn colli’ch statws fisa unwaith mae’ch ysgariad chi’n derfynol.

Bydd angen i chi wirio a allwch chi aros yn y DU yn yr hirdymor. Efallai y bydd angen i chi wneud cais am fisa newydd os ydych chi’n ysgaru. Os nad oes gennych chi’r hawl i aros yn y DU, efallai y bydd yn rhaid i chi adael. Dyma ragor o wybodaeth am sut i aros yn y DU ar ôl ysgaru.

Gallwch hefyd siarad â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth.

Llenwi’r ffurflen ysgaru

Mae’r ffurflen ysgaru ar gael yn GOV.UK.

Gwneud cais drwy'r post

Bydd angen i chi lenwi enw a chyfeiriad eich partner ar y ffurflen. Os nad ydych chi’n gwybod y cyfeiriad, nodwch y cyfeiriad hysbys diwethaf. Gallwch ddarllen sut i ysgaru gŵr neu wraig na allwch chi eu lleoli ar GOV.UK.

Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf eich helpu gyda’r ffurflen

Gwnewch 4 copi o’r ffurflen ysgaru. Bydd angen i chi anfon 3 a chadw 1.

Os ydych chi’n rhoi godineb fel eich rheswm am ysgaru ac yn enwi’r person, bydd angen i chi anfon 4 copi. Bydd copi’n cael ei anfon at y person er mwyn iddynt allu ymateb. Gwnewch 5 copi o’r ffurflen ysgaru. Anfonwch 4 a chadw 1.

Anfonwch y ffurflen i’ch canolfan ysgaru agosaf. Byddant yn gwirio’ch ffurflen ac yn anfon copi at eich partner i roi cyfle iddo neu iddi ymateb. Byddant yn eich hysbysu’n ysgrifenedig ar ôl anfon y ffurflen at eich partner. Gallwch ddod o hyd i’ch canolfan ysgaru agosaf yn GOV.UK.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch wneud cais am ysgariad ar GOV.UK.

Talu’r ffi

Bydd angen i chi dalu ffi o £550 pan fyddwch chi’n anfon eich cais am ysgariad at y ganolfan ysgaru.

Os ydych chi’n meddwl mai’ch partner ddylai dalu’r ffi, gallwch dicio bocs ar y ffurflen, yn gofyn i’r llys ystyried gofyn i’ch partner dalu yn hytrach na chi. Fel arfer, bydd yn rhaid i’r person sy’n gwneud cais am yr ysgariad (sef y ‘deisebydd’) dalu’r ffi.

Bydd angen i chi gyflwyno’ch deiseb lle’r ydych chi’n byw, nid o ble rydych chi’n dod neu lle gwnaethoch chi briodi. Felly, er enghraifft, os ydych chi’n Wyddel ond yn byw yn Lloegr, byddai angen i chi ysgaru yn Lloegr.

Os nad ydych chi a’ch partner yn gallu cytuno

Os nad ydych chi a’ch partner yn gallu cytuno ar ysgariad neu pam eich bod yn ysgaru, gallech fynd at wasanaeth cyfryngu. Mae cyfryngu yn eich helpu i ddod i gytundeb gyda’ch gilydd yn hytrach na mynd i’r llys.

Rhagor o wybodaeth am gyfryngu.

Os nad ydych chi’n gallu dod i gytundeb neu os oes problemau gyda chostau fel pwy ddylai dalu’r ffi ysgaru, dylech fynd i’r llys - a dylech chi a’ch cyn-bartner gael cyngor cyfreithiol gan gyfreithwyr.

Gall cyfreithiwr eich helpu i benderfynu pa un o’r 5 ffaith dros ysgaru rydych chi am ei ddefnyddio a dweud wrthych pa dystiolaeth fydd ei hangen arnoch chi. Gallant hefyd siarad â’ch cyn-bartner a’r cyfreithiwr fel nad oes rhaid i chi wneud hynny.

Gall cyfreithiwr eich cynrychioli yn y llys hefyd - mae hyn yn golygu y byddant yn siarad ar eich rhan. Mae’n werth cael cyfreithiwr - bydd yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y canlyniad gorau.

Os mai'r rheswm dros eich ysgarfiad yw 5 mlynedd heb gydsyniad eich partner, mae'n annhebygol y bydd angen i chi fyn di'r llys, ond byddai'n werth i chi gael cyngor cyfreithiol.

Gallwch chwilio am gyfreithiwr ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr.

Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf eich helpu hefyd.

Gofalwch eich bod yn cael cyfreithiwr sy’n arbenigo mewn ysgaru. Efallai y bydd angen i chi chwilio y tu allan i’ch ardal leol.

Meddyliwch am yr hyn rydych chi am ofyn i’ch cyfreithiwr cyn i chi ei gyfarfod a pharatowch restr ymlaen llaw. Gofynnwch gymaint o gwestiynau ag y mynnwch chi.

Pan fyddwch chi’n cyfarfod eich cyfreithiwr, dylech fynd â’ch tystysgrif briodas gyda chi, a phasbort neu drwydded yrru fel ID.

Dylech ofyn i’ch cyfreithiwr:

  • faint fydd y broses yn ei gymryd
  • pa mor aml y bydd yn eich diweddaru
  • beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi’n mynd i’r llys

Cael cyfreithiwr i’ch cleient

Gall Cymdeithas y Cyfreithwyr (NI Law Society yng Ngogledd Iwerddon) eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr lleol, neu gallwch ofyn i gynghorwyr eraill yn eich swyddfa. Efallai y bydd cyfreithwyr lleol mae’ch cydweithwyr wedi’u hargymell yn y gorffennol.

Dywedwch wrth eich cleient nad eu cyfreithiwr agosaf fydd yr un rhataf na’r un gorau ar eu cyfer o bosibl, felly efallai y byddant am siarad gyda mwy nag un.

Dywedwch wrth eich cleient am ofyn i’r cyfreithiwr:

  • beth fydd y cyfreithiwr yn ei wneud i mi
  • faint fydd y cyfreithiwr hwn yn ei gostio o gymharu ag eraill
  • beth fyddwch chi’n ei gael am eich arian
  • pa mor aml y mae’r cyfreithiwr wedi ymdrin â gwaith fel hyn
  • beth allaf ei wneud os oes rhywbeth yn mynd o’i le, neu os nad ydw i’n fodlon â’r gwasanaeth

Cymorth i dalu am eich ysgariad

Rhagor o wybodaeth am leihau cost eich bil cyfreithiol pan fyddwch chi'n gwahanu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)