Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Ffyrdd o ddod â’ch priodas i ben

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae sawl ffordd o ddod â’ch priodas i ben. Os ydych chi’n meddwl eich bod yn barod i ddod â’ch priodas i ben yn barhaol, dylech ysgaru.

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n barod i ysgaru neu os ydych chi wedi bod yn briod am lai na blwyddyn, y peth gorau i’w wneud yw gwahanu’n gyfreithiol.

Gallwch ddirymu’ch priodas os nad yw’n ddilys yn gyfreithiol, er enghraifft, os cawsoch eich gorfodi i briodi neu os oedd un ohonoch chi dan 16 oed.

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu dan fygythiad, dylech ofyn am gymorth.

Peidiwch â chytuno ar unrhyw beth am eich gwahanu cyn siarad â rhywun yn gyntaf.

Gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Ferched ar 0808 2000 247 ar unrhyw adeg.

Elusen yw’r Men’s Advice Line sy’n helpu dynion sy’n dioddef cam-drin domestig. Gallwch ffonio eu llinell gymorth ar 0808 801 0327 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud nesaf, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf.


Cyn i chi ddod â’ch priodas i ben, bydd angen i chi benderfynu hefyd:

Ysgaru

Dylech ysgaru os ydych chi’n credu y byddwch chi am briodi eto yn y dyfodol.

Mae’n costio £550 (£220 yng Ngogledd Iwerddon) i ddechrau ysgaru. Byddwch yn talu hyn wrth anfon eich ffurflen ysgaru (‘deiseb’) i mewn.

Bydd angen i chi ddangos bod eich priodas wedi ‘torri i lawr yn anadferadwy’. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw ffordd y gallwch chi ddatrys eich problemau.

Rydych chi’n gwneud hyn drwy ddewis un o 5 rheswm - a elwir hefyd yn ‘ffeithiau’ neu ‘resymau dros ysgaru’.

Dylech chi a’ch partner geisio cytuno ar un o’r ffeithiau hyn.

  • mae un ohonoch chi wedi bod yn anffyddlon – a elwir hefyd yn odineb
  • ymddygiad afresymol
  • mae’ch partner wedi’ch gadael - a elwir hefyd yn encilio - mae hyn yn cynnwys os ydych chi wedi byw gyda’ch cynbartner am 6 mis yn y 2 flynedd ddiwethaf
  • rydych chi wedi byw ar wahân am o leiaf 2 flynedd ac mae’r ddau ohonoch chi wedi cytuno i ysgaru
  • rydych chi wedi byw ar wahân am o leiaf 5 mlynedd - does dim ots a yw’ch partner yn cytuno i’r ysgariad

Os ydych chi wedi bod yn briod am lai na 2 flynedd, gallwch ddefnyddio ymddygiad afresymol, godineb neu encilio fel eich rheswm dros ysgaru.

Fel arfer, gallwch ddefnyddio’r ffeithiau hyn er mwyn ysgaru eich partner wrth drefnu arian neu gysylltiad â’ch plant.

Dydy pa reswm i’w ddewis ddim bob amser yn amlwg. Mae ambell beth y byddwch am ei wybod gyntaf o bosibl.

Os mai godineb yw’ch rheswm

Mae’n rhaid i odineb fod yn rhywiol a gydag aelod o’r rhyw arall, hyd yn oed os ydych chi mewn priodas o’r un rhyw.

Os mai godineb yw eich rheswm am ysgaru, mae’n rhaid i chi wneud cais o fewn 6 mis i ddod i wybod am y peth am y tro cyntaf.

Does dim gwahaniaeth faint yn ôl y digwyddodd y godineb neu a yw’n digwydd o hyd. Bydd yn rhaid i chi brofi ei fod wedi digwydd. Gall fod yn anodd iawn profi hyn os nad yw eich cynbartner yn cyfaddef y godineb. Os nad yw’n cyfaddef, gallai fod yn haws profi bod eich cynbartner yn cael perthynas amhriodol â rhywun o’r rhyw arall. ‘Ymddygiad afresymol’ fyddai hyn.

Mae’n rhaid i chi hefyd brofi na fuoch chi’n byw gyda’ch gilydd am fwy na 6 mis ar ôl i chi ddod i wybod am y godineb.

Os ydych chi am ysgaru ar sail godineb, mae’n syniad da cael cyngor cyfreithiol.

Er enghraifft, gall cyfreithiwr eich cynghori a ddylech chi enwi’r person y cafodd eich cynbartner berthynas â nhw. Os ydych chi’n enwi’r person hwnnw, bydd yn rhaid iddynt gael y ffurflenni ac ymateb iddynt. Felly gallai’ch ysgariad gymryd mwy a chostio mwy.

Dyma'r camau nesaf i'w cymryd i ysgaru os ydych chi’n penderfynu bwrw iddi.

Os mai ymddygiad afresymol yw’ch rheswm

Gallai ymddygiad afresymol gynnwys pethau fel cam-drin domestig neu droseddu. Gallai hefyd olygu pethau llai amlwg, er enghraifft, os ydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich eithrio o fywyd cymdeithasol eich partner neu’n meddwl eu bod yn rhy agos i rywun o’r rhyw arall.

Ni allwch ddefnyddio ymddygiad afresymol fel rheswm os ydych chi wedi diflasu gyda’ch partner neu ddim mewn cariad â nhw mwyach. Bydd angen i chi roi rheswm penodol pam eich bod yn teimlo eu bod yn afresymol, sy’n seiliedig ar rywbeth y maen nhw wedi’i wneud neu yn ei wneud.

Dyma'r camau nesaf i'w cymryd i ysgaru os ydych chi’n penderfynu bwrw iddi.

Os mai encilio yw eich rheswm

Gallwch ddefnyddio encilio fel rheswm os yw’ch partner wedi gadael eich cartref o leiaf 2 flynedd yn ôl gyda’r nod o ddod â’ch perthynas i ben.

Bydd angen i chi brofi i'ch partner adael heb reswm da. Os na allwch chi wneud hynny, gallai fod yn haws defnyddio ymddygiad afresymol neu ddweud eich biod chi wedi byw ar wahân am 2 flynedd.

Dyma'r camau nesaf i'w cymryd i ysgaru os ydych chi’n penderfynu bwrw iddi.


Os ydych chi wedi byw ar wahân am o leiaf 2 flynedd a bod y naill ochr a’r llall yn cytuno i ysgaru

Bydd angen i chi gytuno ar bapur eich bod chi a’ch partner wedi byw ar wahân am o leiaf 2 flynedd.

Does dim rhaid i chi fod wedi byw mewn 2 gartref gwahanol, ond gall fod yn anodd iawn profi eich bod wedi byw ar wahân os nad oes un ohonoch chi wedi symud allan.

Os ydych chi’n dal i fyw gyda’ch gilydd ni ddylech chi rannu unrhyw beth. Er enghraifft ystafell wely, cyfrifon banc neu brydau.

Os nad ydych chi’n meddwl eich bod wedi bod yn byw bywydau cwbl ar wahân – er enghraifft oherwydd eich bod yn dal i wneud pethau gyda’ch gilydd – ni ddylech ddefnyddio hyn fel rheswm dros ysgaru.

Dylech geisio gwahanu eich bywydau - er enghraifft, drwy symud allan a threulio llai o amser gyda’ch gilydd, hyd yn oed os ydych chi’n ffrindiau. Neu, gallwch ddewis rheswm arall.

Peidiwch â chael eich temtio i ddweud eich bod wedi bod yn byw bywydau ar wahân pan nad ydych chi - efallai na fydd eich ysgariad yn cael ei ganiatáu.

Dyma'r camau nesaf i'w cymryd i ysgaru os ydych chi’n penderfynu bwrw iddi.

Os ydych chi wedi byw ar wahân am o leiaf 5 mlynedd ac nad yw eich partner yn cytuno i ysgaru

Ni fyddwch angen i’ch cynbartner gytuno i ysgaru os ydych chi wedi byw ar wahân am 5 mlynedd.

Dyma'r camau nesaf i'w cymryd i ysgaru os ydych chi’n penderfynu bwrw iddi.

Gwahanu’n gyfreithiol

Gallwch wahanu’n gyfreithiol (a elwir hefyd yn ‘wahanu barnwrol’) os:

  • ydych chi wedi bod yn briod llai na blwyddyn
  • nad ydych chi’n teimlo’n barod i ysgaru
  • dydych chi ddim am ysgaru am fod hynny’n groes i’ch crefydd

Bydd angen i chi lenwi ffurflen D8 i wneud cais i wahanu’n gyfreithiol. Mae'r ffurflen a rhagor o wybodaeth am wahanu'n gyfreithiol ar gael ar GOV.UK.

Mae gwahanu’n gyfreithiol yn costio £365 – ni fydd unrhyw gostau pellach ar ôl i chi dalu’r ffi.

Dyw gwahanu’n gyfreithiol ddim yn eich atal rhag ysgaru yn ddiweddarach – bydd yn rhaid i chi dalu ffi arall i ysgaru, sef £550.

Does dim rhaid i chi ysgaru i wneud penderfyniadau am dai, arian neu’ch plant.

Gallwch gael cymorth drwy wasanaeth cwnsela perthynas fel Relate os ydych chi’n cael anawsterau yn eich perthynas ond nad ydych chi’n barod i wahanu. Chwiliwch am eich canolfan Relate agosaf ar wefan Relate.

Dirymu’ch priodas

Mae dirymiad yn dod â phriodas nad yw’n gyfreithlon yn y DU i ben.

Gellir dirymu’ch priodas os:

  • oedd un ohonoch chi eisoes wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil
  • na wnaethoch gytuno’n iawn i’r briodas - er enghraifft, roeddech chi wedi meddwi neu wedi’ch gorfodi
  • nad ydych chi wedi cael rhyw gyda’ch partner ers priodi - dyw hyn ddim yn berthnasol i barau o’r un rhyw

Mae gwybodaeth sy’n nodi pryd gallwch chi ddirymu priodas a sut mae gwneud hynny ar gael ar GOV.UK. Mae’n costio £550 i ddirymu’ch priodas ac yn cymryd rhai misoedd.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)