Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Faint dylech chi ei gael? – taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Efallai y gallech dderbyn taliadau uniongyrchol sy’n eich galluogi i drefnu eich gofal eich hun yn hytrach na chael pecyn gofal wedi ei drefnu gan yr awdurdod lleol.

Beth mae’r taliad yn ei gynnwys

Rhaid i’r taliad uniongyrchol fod yn ddigon i gynnwys cost resymol prynu’r gwasanaethau y mae’n ddyletswydd ar awdurdod lleol eu darparu i ddiwallu’ch anghenion.

Yn ogystal â chost wirioneddol y gwasanaeth, rhaid i’r taliad uniongyrchol gynnwys unrhyw gostau ychwanegol sy’n rhaid i chi eu talu. Er enghraifft, os ydych chi’n cyflogi eich gofalwr eich hun, bydd yn rhaid i chi dalu am y canlynol:

• recriwtio’r gofalwr

• yswiriant gwladol

• tâl gwyliau statudol

• tâl salwch

• tâl mamolaeth

• yswiriant atebolrwydd cyflogwr

• yswiriant atebolrwydd cyhoeddus

• TAW

Cyfrannu at gostau

Waeth a yw’r gwasanaethau wedi’u darparu gan yr awdurdod lleol (ALl) neu’n daliadau uniongyrchol, efallai y bydd yn rhaid i chi gyfrannu tuag at y costau. Bydd yr ALl yn cyfrif faint y dylech chi dalu. Os ydych chi’n derbyn taliadau uniongyrchol, nail ai bydd yr ALl yn didynnu’r swm sy’n ddyledus o’ch cyfanswm cyn i’r taliad uniongyrchol gael ei wneud, neu bydd yr ALl yn talu’r taliad uniongyrchol yn llawn a bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r swm sy’n ddyledus.

Cyngor da

Os ydych chi’n cael gofal cartref neu wasanaethau cymdeithasol preswyl arall, dim ond mwyafswm o £50 yr wythnos fydd yn rhaid i chi dalu am y gwasanaethau hyn. Efallai y byddwch yn penderfynu cael taliadau arian parod neu daliadau uniongyrchol er mwyn eich galluogi i drefnu eich gofal eich hun yn hytrach na chael pecyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Y cyfraniad mwyaf y bydd disgwyl i chi ei dalu yw £50.00 yr wythnos (£55.00 yr wythnos o 7 Ebrill 2014).

Mae’r swm yn anghywir

Gallwch gwestiynu penderfyniad yr ALl am y naill reswm canlynol neu’r llall, neu’r ddau:

• Dydy’ch taliadau uniongyrchol chi ddim yn ddigon i brynu gwasanaethau i ddiwallu’ch anghenion

• Mae gofyn i chi gyfrannu gormod.

• Rhagor am gwyno ynghylch penderfyniadau gwasanaethau cymdeithasol ALl

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)