Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cwyno am wahaniaethu'n ymwneud â thai

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Bydd angen ichi wirio ambell beth cyn y gallwch chi gymryd camau am wahaniaethu'n ymwneud â thai.

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • bod yn siŵr ei fod yn wahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • edrych i weld a yw’n aflonyddu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb os oes rhywun yn aflonyddu arnoch chi
  • edrych i weld ai cwyno yw’r dewis gorau – mae hyn yn cynnwys edrych i weld pa mor sicr yw'ch tenantiaeth os ydych chi’n rhentu
  • casglu tystiolaeth cyn i chi ddechrau'ch cwyn
  • dod o hyd i’r manylion cyswllt ar gyfer y person neu’r sefydliad rydych chi am gwyno iddo – gall y manylion fod ar ei wefan neu ar eich cytundeb tenantiaeth

Gallwch gwyno’n uniongyrchol i bwy bynnag sy’n gwahaniaethu yn eich erbyn. Os na fydd hynny’n datrys y broblem, gallwch ofyn i sefydliad neu berson arall helpu, neu efallai mai’r peth gorau fydd cymryd camau cyfreithiol.

Penderfynu sut i gwyno

Yn aml, mae’n syniad da cwyno’n anffurfiol yn gyntaf, ac yna gwneud cwyn ffurfiol os na fydd hynny’n gweithio. Mewn rhai achosion, fodd bynnag, gall fod yn well gwneud cwyn ffurfiol yn syth.

Er mwyn penderfynu a ydych chi am wneud cwyn ffurfiol neu anffurfiol yn gyntaf, dylech feddwl am y canlynol:

  • am bwy rydych chi’n cwyno
  • pa hawliau sydd gennych i aros yn eich cartref a’r perygl y gallech gael eich troi allan am wneud y gŵyn
  • oes yna weithdrefn gwyno ffurfiol
  • eich perthynas barhaus â’r person rydych chi’n cwyno amdano, er enghraifft, os mai'ch landlord ydyw
  • os ydych chi’n agos at y dyddiad olaf ar gyfer cymryd camau cyfreithiol
  • os ydych chi wedi sôn am y broblem o’r blaen

Enghraifft

Mae’r landlord bob amser yn casglu’r rhent ar brynhawn Gwener ar ei ffordd i’r gwaith. Mae Paul yn Fwslim selog ac mae’n mynd i weddïo ar ddydd Gwener, felly nid yw e gartref pan fydd ei landlord yn dod i gasglu’r rhent. Felly, mae’n codi ffi arno am dalu’n hwyr.

Mae Paul yn credu bod arfer ei landlord o gasglu’r rhent ar ddydd Gwener yn wahaniaethu anuniongyrchol, gan fod hynny’n rhoi tenantiaid Mwslimaidd dan anfantais benodol o gymharu â thenantiaid nad ydynt yn Fwslimiaid.

Mae Paul yn teimlo bod ei landlord fel arfer yn eithaf cymwynasgar wrth ddelio â phethau fel atgyweiriadau ac nid yw am ei chythruddo a bod mewn perygl o gael ei droi allan. Felly, mae’n penderfynu gofyn yn anffurfiol iddi newid y diwrnod mae hi’n casglu’r rhent. Mae e’n esbonio pam mae hyn yn achosi anfantais iddo ac yn awgrymu y gallai dalu’r rhent drwy drosglwyddiad banc neu y gallai'r landlord gasglu’r rhent ar ddiwrnod arall.

Os na fydd ei landlord yn gwneud y newid hwn, gallai ofyn yn fwy ffurfiol neu gallai benderfynu peidio â gofyn yn ffurfiol a mynd â’r gŵyn ymhellach mewn ffordd arall, er enghraifft, drwy gymryd camau yn y llys.

Enghraifft

Mae Robyn am gwyno i’w chymdeithas tai gan fod aelod o’r staff wedi aflonyddu’n rhywiol arni.

Mae hi’n penderfynu peidio â gwneud cwyn anffurfiol, a chwyno’n ffurfiol yn syth.

Mae hi’n gwneud hyn am y rhesymau canlynol:

  • mae gan y gymdeithas tai weithdrefn gwyno ffurfiol y mae hi’n teimlo’n hyderus yn ei defnyddio
  • dydy hi ddim yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud cwyn anffurfiol i un o gydweithwyr y sawl sydd wedi aflonyddu arni
  • dydy hi ddim yn credu y bydd ei landlord yn ceisio ei throi allan am gwyno gan fod y landlord yn gymdeithas tai fawr sydd ag enw da
  • mae ganddi denantiaeth 'sicr', felly mae hi’n gwybod nad yw ei landlord yn gallu ei throi allan heb reswm – ni fyddai cwyno am wahaniaethu yn sail ddilys ar gyfer cymryd meddiant a byddai’n erledigaeth anghyfreithlon hefyd
  • dydy hi ddim eisiau colli’r cyfle i gymryd camau cyfreithiol, a dim ond 6 wythnos sydd tan y dyddiad olaf ar gyfer gwneud hynny


Gwneud cwyn anffurfiol

Cysylltwch â phwy bynnag sy’n gwahaniaethu yn eich erbyn a dywedwch wrthyn nhw eich bod am gwyno – bydd angen i chi wneud hyn hyd yn oed os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad â'r sawl dan sylw am y broblem, er enghraifft, i ofyn am addasiadau rhesymol.

Os ydych chi’n poeni, gallwch gael cymorth i wneud eich cwyn.

Gallwch ofyn i rywun gwyno ar eich rhan os nad ydych chi’n teimlo’n hyderus, ond bydd angen iddyn nhw ddangos eich bod chi wedi rhoi caniatâd iddyn nhw wneud hynny.

Cwyno’n ysgrifenedig

Gallech ysgrifennu llythyr neu e-bost os:

  • ydych chi eisoes wedi siarad â’r landlord neu'r rheolwr/rheolydd eiddo ond nad yw hynny wedi datrys y broblem
  • ydych chi’n credu y bydd eich cwyn yn cael ei chymryd yn fwy o ddifrif os yw’n un ysgrifenedig
  • ydych chi’n cwyno i sefydliad mawr sy’n gyfarwydd â delio â chwynion ysgrifenedig – fel cyngor lleol

Cadwch gopi o’r hyn rydych chi wedi’i anfon. Os byddwch chi’n anfon llythyr, gofynnwch i Swyddfa’r Post am brawf o bostio – efallai bydd angen i chi ddangos pryd i chi anfon eich cwyn.

Cwyno'n bersonol neu dros y ffôn

Gall fod yn werth gwneud hyn os oes gennych chi berthynas dda â’r person rydych chi’n cwyno iddo neu os ydych chi’n poeni am gael eich troi allan.

Ysgrifennwch nodiadau wedyn – bydd y rhain yn ddefnyddiol os oes angen i chi fynd â phethau ymhellach. Dylech gynnwys y dyddiad ac enw’r sawl i chi siarad ag ef.

Dylech ysgrifennu at yr unigolyn/sefydliad os na fyddwch yn cael ateb o fewn cyfnod rhesymol, fel 14 diwrnod.

Beth i’w ddweud pan fyddwch chi’n cwyno

Pan fyddwch chi’n cwyno, dylech wneud y canlynol:

  • disgrifio beth ddigwyddodd i chi
  • dweud a oedd unrhyw un arall wedi gweld beth ddigwyddodd
  • esbonio sut mae’r sefyllfa wedi effeithio arnoch chi
  • disgrifio beth rydych am iddo ddigwydd

Os ydych chi’n cwyno’n ysgrifenedig, dywedwch erbyn pryd rydych chi am gael ateb – mae 14 diwrnod yn gyfnod rhesymol.

Dylech gynnwys unrhyw fanylion ychwanegol sydd gennych ac anfon copïau o dystiolaeth rydych chi wedi’i chasglu.

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio iaith gyfreithiol, ond gallai helpu os ydych chi’n credu y bydd yn annog y person i’ch ateb.

Os ydych chi am ddefnyddio iaith gyfreithiol, gallech wneud y canlynol:

Enghraifft o gŵyn ysgrifenedig ffurfiol

Ymwelais â'ch swyddfa ar 4 Medi a gofyn am gael gweld 7 Maes y Ffynnon, gan fy mod am ei rentu.

Holodd yr asiant gosod tai (Andy Ludlow) fi o ba wlad rwy’n dod. Pan ddywedais fy mod i’n dod o Tsieina, dywedodd nad oeddwn i’n gallu gweld y fflat oherwydd ei bod yn cymryd gormod o amser i wneud gwiriadau 'Hawl i Rentu' ar gyfer unrhyw un nad yw’n Brydeinig.

Roeddwn i’n teimlo bod hyn yn annheg a bod Andy wedi gwahaniaethu yn fy erbyn oherwydd fy hil.

Byddwn i’n denant da – rydw i bob amser wedi talu fy rhent yn brydlon a dydw i erioed wedi achosi difrod i unrhyw gartref rydw i wedi byw ynddo.

Mae’r sefyllfa hon yn achosi llawer o straen i mi gan fod 7 Maes y Ffynnon yn agos i fy ngwaith ac i ysgol fy mhlentyn.

Hoffwn i chi drefnu i mi gael gweld 7 Maes y Ffynnon cyn gynted â phosibl a hoffwn gael ymddiheuriad hefyd.

Os ydych chi’n cwyno i gyngor lleol neu gymdeithas tai

Mae dyletswyddau ychwanegol ar gynghorau lleol a’r rhan fwyaf o gymdeithasau tai mewn perthynas â gwahaniaethu a hawliau dynol. Os nad ydyn nhw’n cyflawni’r dyletswyddau hyn, gallwch chi gyflwyno dadleuon ychwanegol pan fyddwch chi’n cwyno am wahaniaethu.

Mae’r dadleuon ychwanegol yn cynnwys defnyddio 'Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus' a 'chyfraith gyhoeddus'. Cyfraith gyhoeddus yw eich hawl i gwyno yn erbyn sefydliad cyhoeddus neu sefydliad y llywodraeth pan fyddan nhw wedi gwneud rhywbeth na ddylen nhw fod wedi’i wneud neu pan fyddan nhw wedi methu â gwneud rhywbeth y dylen nhw fod wedi’i wneud.

Gallwch gael gwybod mwy am y dyletswyddau ychwanegol a gweld a oes rhaid i’ch cyngor neu’ch cymdeithas tai eu cyflawni.

Pan fyddwch chi’n cwyno, bydd angen ichi ddisgrifio’r broblem a dweud pam rydych chi’n credu bod hynny’n wahaniaethu. Hefyd, dylech ddweud pam rydych chi’n credu nad yw’r cyngor neu’r gymdeithas tai wedi cyflawni unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sydd ganddynt.

Gall cyfeirio at y dyletswyddau ychwanegol wneud eich cwyn yn gryfach. Hefyd, gallwch chi ofyn iddyn nhw esbonio sut maen nhw wedi cyflawni’r dyletswyddau ychwanegol hyn – mae hon yn ffordd dda i chi gasglu tystiolaeth ychwanegol y gallech fod ei hangen maes o law.
Dylech gynnwys unrhyw fanylion ychwanegol sydd gennych ac anfon copïau o dystiolaeth rydych wedi’i chasglu.

Enghraifft

Mae gan Maja nam ar ei golwg ac mae’n byw mewn tŷ cyngor. Mae’r cyngor yn dweud eu bod nhw’n cau’r llinell ffôn y mae hi’n ei defnyddio i roi gwybod am broblemau yn ymwneud â’i chartref. Yn lle hynny, maen nhw am i denantiaid roi gwybod am broblemau ar-lein. Mae Maja yn ei chael hi’n anodd defnyddio cyfrifiaduron, felly ni fyddai’n gallu rhoi gwybod am broblemau fel hyn.

Mae Maja'n ysgrifennu at y cyngor i ddweud ei bod wedi dioddef gwahaniaethu. Mae hi’n dweud wrthyn nhw nad ydyn nhw wedi gwneud addasiadau rhesymol. Mae hi’n esbonio eu bod nhw wedi’i hanwybyddu pan ofynnodd hi a fyddai’n gallu ffonio aelod o staff y cyngor yn lle hynny.

Hefyd, mae hi’n dweud wrth y cyngor nad ydyn nhw wedi cyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus oherwydd nad ydyn nhw wedi meddwl am sut bydd eu penderfyniad i gau’r llinell ffôn yn effeithio ar bobl â nam ar eu golwg nad ydyn nhw’n gallu defnyddio cyfrifiaduron. Hefyd, dydyn nhw ddim wedi rhoi systemau ar waith i leihau’r effaith ar y grŵp hwn.

Mae hi’n dweud:

“Pan benderfynoch chi gau’r llinell ffôn, nid oeddech chi wedi rhoi sylw dyledus i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon. A fyddech cystal â rhoi manylion i mi am sut rydych chi wedi cydymffurfio â’ch dyletswydd."


Delio ag ymateb i’ch cwyn anffurfiol

Cadwch gopi o unrhyw ymatebion rydych chi’n eu cael, hyd yn oed os ydych chi’n fodlon â'r ateb. Hefyd, dylech gadw unrhyw nodiadau rydych chi wedi’u gwneud os ydych chi wedi cwyno’n bersonol neu dros y ffôn.

Os ydych chi’n anghytuno â’r ateb, gallwch fynd â’ch cwyn ymhellach.

Os ydyn nhw wedi rhoi rheswm dros eu gweithredoedd

Os ydych chi’n credu ei fod yn wahaniaethu anuniongyrchol neu’n wahaniaethu sy’n deillio o anabledd, ni fydd yn erbyn y gyfraith os gallan nhw ddangos bod ganddyn nhw reswm digon da drosto. Gallwch weld y mathau o wahaniaethu os nad ydych chi’n siŵr.

I fod â rheswm da, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn gallu dangos bod y ffordd y cawsoch chi eich trin yn ‘fodd cymesur o gyflawni amcan dilys’. Mae dwy ran wrth ddangos hyn.

Yn gyntaf, mae’n rhaid iddyn nhw ddangos bod yr amcan yn un dilys. Gallai amcan dilys gynnwys y canlynol:

  • iechyd a diogelwch pobl eraill
  • gwneud yn siŵr bod eu busnes yn gallu cael ei redeg yn iawn
  • gwneud yn siŵr nad ydyn nhw’n tarfu’n ormodol ar gymdogion

Yn ail, mae’n rhaid i’w hymddygiad fod yn gymesur – mae hyn yn golygu nad ydyn nhw’n gallu gwahaniaethu mwy nag sydd raid. Os oes ffyrdd gwell a thecach o wneud pethau, bydd yn fwy anodd cyfiawnhau gwahaniaethu.

Bydd eich dadl yn gryfach os gallwch chi feddwl am ffordd o gyflawni’r amcan dilys sy’n gwahaniaethu’n llai yn eich erbyn.

Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r ymddygiad yn gymesur, dylech feddwl am y canlynol:

  • faint o bobl â’ch nodweddion gwarchodedig fyddai’n cael eu heffeithio – mae nifer mawr yn ei gwneud yn fwy anodd cyfiawnhau eu gweithredoedd
  • pa mor wael y mae pobl yn cael eu heffeithio – er enghraifft, bydd yn fwy anodd cyfiawnhau troi rhywun allan nag achosi rhywfaint o anghyfleustra iddyn nhw

Os nad ydych chi’n siŵr a oes modd cyfiawnhau’r gwahaniaethu, gallwch gael cymorth gan gynghorydd.

Os ydych chi’n credu y gallen nhw gyflawni eu nodau mewn ffordd sy’n llai gwahaniaethol, gallech ymateb ac awgrymu’r ffordd wahanol.

Enghraifft

Mae Rachael yn symud i gartref newydd ac mae hi am osod meswsa ar y drws – mae hon yn rhan bwysig o’i ffydd Iddewig.

Mae gan ei landlord reol sy’n nodi na all tenantiaid osod unrhyw beth ar y waliau na’r drysau. Mae Rachael wedi dadlau bod hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol gan fod y meswsa yn rhan o’i chrefydd.

Mae’r landlord yn dweud nad yw’n wahaniaethu gan fod rheswm da dros y rheol, sef atal difrod. Mae e’n dweud bod hyn yn 'fodd cymesur o gyflawni amcan dilys'.

Gallai Rachael awgrymu ffyrdd o gyflawni’r nod sy’n llai gwahaniaethol. Er enghraifft, gallai gynnig atgyweirio unrhyw ddifrod pan fydd hi’n gadael, neu gytuno bod y landlord yn gallu tynnu cost atgyweirio’r difrod o’i blaendal.

Hefyd, gallai Rachael esbonio na fydd y meswsa yn achosi llawer o ddifrod. Felly, nid yw’n 'gymesur' peidio â gadael iddi osod un ar ei drws.


Gwneud cwyn ffurfiol

Os ydych chi wedi gwneud cwyn anffurfiol ac nad yw'ch problem wedi cael ei datrys o hyd, gallech wneud cwyn ffurfiol neu gymryd camau pellach yn lle hynny.

Gallwch wneud cwyn ffurfiol yn syth, hyd yn oed os nad ydych chi wedi gwneud cwyn anffurfiol yn gyntaf.

Dechreuwch drwy weld a oes gweithdrefn gwyno gan bwy bynnag sy’n gwahaniaethu yn eich erbyn. Gall hyn fod ar ei wefan neu efallai bydd rhaid ichi ofyn amdani.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y weithdrefn gwyno, er enghraifft, efallai bydd rhaid i chi ffonio rhif ffôn gwasanaethau cwsmeriaid neu lenwi ffurflen ar-lein.

Os nad oes gweithdrefn gwyno, er enghraifft, os yw’n landlord preifat, ysgrifennwch lythyr neu e-bost. Os ydych chi wedi gwneud hyn eisoes fel rhan o’ch cwyn anffurfiol, mae’n iawn gwneud hyn eto – bydd angen i chi nodi ei bod yn gŵyn ffurfiol.

Os ydych chi’n ysgrifennu at sefydliad, dylech gyfeirio’r llythyr at y tîm cwynion neu’r rheolwr.

Os ydych chi’n poeni am wneud cwyn ffurfiol, gallwch gael cymorth gan gynghorydd.

Beth ddylech chi ei ddweud yn eich cwyn

Dylech wneud y canlynol:

  • nodi eich bod yn gwneud cwyn ffurfiol (dylech gyfeirio at y weithdrefn gwyno os oes un)
  • disgrifio’r broblem a beth rydych chi eisiau i ddigwydd
  • esbonio bod y broblem yn wahaniaethu o dan ran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 – a nodi’r math o wahaniaethu, er enghraifft, gwahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol
  • rhoi manylion unrhyw gwynion rydych chi wedi’u gwneud eisoes a dweud eich bod yn anfodlon â'r ffordd roedden nhw wedi cael eu trafod – nodwch ddyddiadau a sut roeddech chi wedi cysylltu â nhw
  • rhoi’r un wybodaeth ag unrhyw gwynion blaenorol a manylion unrhyw beth newydd sydd wedi digwydd
  • esbonio pryd rydych am gael ateb – os oes gweithdrefn gwyno, efallai ei bod yn dweud faint o amser y bydd atebion yn ei gymryd

Cadwch gopi o’r gŵyn rydych chi wedi’i hanfon. Er enghraifft, os ydych chi wedi llenwi ffurflen, gallech chi dynnu llun o’r sgrin, neu gallech chi gadw’r dudalen fel sgrinlun neu ffeil ar eich cyfrifiadur. Bydd hyn o gymorth yn nes ymlaen os oes angen i chi brofi eich bod wedi cwyno.
Hefyd, dylech chi gadw unrhyw negeseuon e-bost neu lythyrau y byddwch chi’n eu cael i ddweud bod eich cwyn wedi cael ei derbyn.

Os nad yw'ch cwyn anffurfiol neu ffurfiol wedi datrys y broblem

Os nad ydych chi wedi cael ateb neu os nad yw'ch problem wedi cael ei datrys o hyd, gallech chi anfon llythyr arall i ofyn am ymateb. Os na fydd hyn yn datrys y broblem, gallwch chi fynd â’ch cwyn ymhellach.

Anfon llythyr i ofyn am ateb

Gallech chi ysgrifennu rhywbeth fel hyn:

"Ysgrifennais i atoch ar 23 Ebrill 2018 i wneud cwyn (rwy’n amgáu copi). Gofynnais i chi fy ateb cyn pen 14 diwrnod. Dydw i ddim wedi cael ymateb oddi wrthych o hyd ac rwy'n gofyn eto i chi fy ateb yn ddi-oed. Os na fyddaf i’n clywed oddi wrthych yn y 7 diwrnod nesaf, byddaf i’n mynd â fy nghwyn ymhellach. "

Os yw’r person rydych chi’n cwyno iddo wedi dweud faint o amser y mae’n ei gymryd i ddelio â’r gŵyn, er enghraifft ar ei wefan neu yn ei weithdrefn gwyno, gallech chi dynnu sylw at hyn hefyd. Gallech chi ddweud:

"Ysgrifennais i atoch ar 23 Ebrill 2018 i wneud cwyn (rwy’n amgáu copi). Mae'ch gwefan yn dweud y byddwch chi’n cydnabod cwynion cyn pen 5 diwrnod gwaith ac yn ateb cyn pen 21 diwrnod gwaith. Dydw i ddim wedi clywed oddi wrthych. A wnewch chi fy ateb yn ddi-oed? Os na fyddaf i’n clywed oddi wrthych cyn pen 7 diwrnod ar ôl i chi dderbyn y llythyr hwn, byddaf i’n mynd â fy nghwyn ymhellach."

Mynd â’r gŵyn ymhellach

Os nad yw'ch problem wedi cael ei datrys o hyd, fel arfer mae 3 dewis gennych:

  • cymryd camau cyfreithiol
  • rhoi gwybod i sefydliad a fydd yn helpu – gall gael ei alw’n 'ombwdsmon' neu’n 'sefydliad aelodau'
  • gofyn i gyfryngwr eich helpu i ddod o hyd i gyfaddawd

Os ydych chi angen help i benderfynu ar y ffordd orau o ddatrys eich problem, gallwch gael cymorth.

Gallwch roi gwybod i ombwdsmon neu sefydliad aelodau am eich problem am ddim ond nid yw’r penderfyniadau'n gallu cael eu gorfodi dan y gyfraith. Er enghraifft, os na fydd landlord yn gwneud beth mae ombwdsmon wedi dweud wrtho am ei wneud, nid oes unrhyw beth allwch chi ei wneud am hynny.

Os byddwch chi’n rhoi gwybod am eich problem, efallai na fyddwch chi’n cael iawndal – os ydych chi’n ei gael, gallai fod yn llai na phe baech chi wedi cymryd camau cyfreithiol ac ennill.

Gall achos cyfreithiol achosi straen a chymryd amser hir. Hefyd, mae'n gallu bod yn ddrud, ond efallai byddwch chi’n gallu cael cymorth gyda chostau cyfreithiol.

Dylech chi feddwl am faint o brawf sydd gennych chi o’r gwahaniaethu. Os nad oes gennych chi lawer o dystiolaeth, gall fod yn anodd ennill achos cyfreithiol.

Os ydych chi eisiau cymryd camau cyfreithiol, dylech chi dechrau'r broses cyn gynted ag y gallwch. Fel arfer, mae’n rhaid i chi gymryd camau cyfreithiol cyn pen 6 mis ar ôl i’r broblem ddigwydd neu ddechrau.

Darllenwch sut mae cymryd camau cyfreithiol.

Os byddai’n well gennych ddefnyddio dull llai ffurfiol, gallech chi ofyn i gyfryngwr helpu. Mae cyfryngwr yn berson nad yw’n adnabod y naill ochr na’r llall ac sydd wedi cael ei hyfforddi i helpu pobl i ddatrys anghytundebau. Efallai bydd rhaid ichi dalu am gyfryngwr.

Rhoi gwybod i ombwdsmon neu sefydliad arall am y gwahaniaethu

Efallai byddwch chi’n gallu rhoi gwybod i ombwdsmon neu Rhentu Doeth Cymru am y broblem. Mae’r rhain yn sefydliadau annibynnol a fydd yn edrych ar yr achos o’r ddwy ochr i wneud penderfyniad sy’n deg yn eu barn nhw.

Bydd eu gwefan yn nodi sut i gwyno – fel arfer, byddan nhw’n disgwyl i chi fod wedi cwyno’n uniongyrchol i’r person sy’n gwahaniaethu yn eich erbyn yn gyntaf. Cysylltwch â nhw cyn gynted ag y gallwch – efallai bydd ganddynt ddyddiad olaf ar gyfer rhoi gwybod am broblemau.

Rhoi gwybod am landlord preifat

Gallwch roi gwybod am y gwahaniaethu i Rhentu Doeth Cymru – dyma sefydliad y mae’n rhaid i bob landlord ymuno ag ef.

Rhoi gwybod am eich cyngor lleol neu gymdeithas tai

I gwyno am eich cyngor lleol neu gymdeithas tai, ewch i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Rhoi gwybod am asiant gosod tai neu asiant eiddo.

Gallwch roi gwybod am y gwahaniaethu i Rhentu Doeth Cymru – dyma sefydliad y mae’n rhaid i’r holl asiantau ymuno ag ef.

Defnyddio cyfryngwr

Mae cyfryngwr yn berson nad yw’n adnabod y naill ochr na’r llall ac sydd wedi cael ei hyfforddi i helpu pobl i ddatrys anghytundebau. Bydd yn gwneud penderfyniad teg yn seiliedig ar y ffeithiau a beth mae’r ddwy ochr ei eisiau. Efallai y bydd yn siarad â chi gyda’ch gilydd neu ar wahân.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall a fydd y cyfryngu yn eich 'rhwymo'. Mae hyn yn golygu y byddai’n rhaid ichi gytuno bod penderfyniad y cyfryngwr yn derfynol ac na fyddech chi, er enghraifft, yn gallu cymryd camau cyfreithiol i geisio cael penderfyniad gwahanol.

Nid yw cyfryngu yn orfodol, felly gallai’r ochr arall wrthod. Os bydd hyn yn digwydd, gallwch ddwyn achos llys o hyd. Os bydd yr ochr arall yn awgrymu cyfryngu a’ch bod chi’n gwrthod, gallai hynny gael ei ddefnyddio yn eich erbyn yn nes ymlaen os byddwch chi’n mynd i’r llys. Efallai bydd rhaid i chi dalu costau ychwanegol.

Os nad ydych chi’n siŵr a ddylech weld cyfryngwr, gallwch gael cymorth.

Dod o hyd i gyfryngwr

Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol – efallai byddan nhw’n helpu hyd yn oed os nad ydych chi’n denant y cyngor. Gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Gallwch chwilio am gyfryngwr ar GOV.UK hefyd.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)