Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Eich opsiynau os ydych chi yn y DU yn anghyfreithlon

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi’n byw yn y DU yn anghyfreithlon, mae’n bosib y gallwch wneud cais am ganiatâd i aros neu am ddinasyddiaeth Brydeinig. Byddwch yn gallu gweithio’n gyfreithlon, defnyddio’r GIG a chael budd-daliadau os ydych chi eu hangen.

Gallwch gael help i ddychwelyd i’ch gwlad gartref os ydych chi’n dewis gwneud hynny hefyd.

Byddwch angen help arbenigwr mewnfudo i wneud y cais. Peidiwch â phoeni, bydd popeth yn gyfrinachol – ni fydd arbenigwr yn dweud wrth unrhyw un am eich ymholiad.

Cael cyngor mewnfudo

Mae sawl ffordd o ddod yn breswylydd cyfreithlon. Bydd arbenigwr mewnfudo yn penderfynu pa un sy’n berthnasol i chi.

Gall eich Cyngor ar Bopeth lleol eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd yn eich ardal, a deall yr opsiynau sydd gennych i fyw yma’n gyfreithlon.

Gallwch ffonio’r Cyd-gyngor er Lles Mewnfudwyr hefyd, a fydd yn rhoi cyngor cyfrinachol am ddim am eich opsiynau a’ch tebygolrwydd o lwyddo.

Y Cyd-gyngor er Lles Mewnfudwyr
Ffôn: 020 7251 8708
Dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau, 10am to1pm
Mae galwadau’n costio hyd at 12c y funud o linellau tir, a rhwng 3c a 45c o ffonau symudol

Sut i ddod yn breswylydd cyfreithlon yn y DU

Bydd a ydych chi’n gallu byw yn y DU yn gyfreithlon yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Fel preswylydd anghyfreithlon mae’ch sefyllfa’n anarferol, felly ni fyddwch yn gallu gwneud cais heb gymorth cynghorydd cyfreithiol arbenigol.

Mae’n bosib y gallwch chi wneud cais i aros yn y DU:

  • os ydych chi rhwng 18 a 24 oed ac wedi byw yma am fwy na hanner eich oes
  • os ydych chi wedi bod yn byw yn y DU am gyfnod hir
  • os byddai dychwelyd i’ch gwlad gartref yn beryglus
  • os oes gennych chi gysylltiadau cryf yn y DU
  • os oes gennych chi blant yn y DU

Os oes gennych chi blant sy’n byw yn y DU yn anghyfreithlon, er enghraifft, os nad ydynt wedi cael eu cofrestru ar gyfer dinasyddiaeth Brydeinig neu ganiatâd i adael, mae’n bwysig eu cofrestru cyn gynted â phosib.

Os na allwch chi aros yn y DU yn gyfreithlon

Os na allwch chi fyw yn y DU yn gyfreithlon ond eich bod yn dewis aros yma, gallai bywyd fod yn anodd. Gallech:

Dewis gadael y DU

Gallwch ddychwelyd i’ch gwlad gartref yn wirfoddol gyda chymorth y llywodraeth.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae’n bosib y gallwch gael cymorth ychwanegol i drefnu’ch taith a thalu amdani. Gallwch ffonio’r tîm Ymadawiadau Gwirfoddol a Dychweliadau Gwirfoddol â Chymorth i weld pa gymorth y gallwch chi ei gael.

Ymadawiadau Gwirfoddol a Dychweliadau Gwirfoddol â Chymorth
Ffôn: 0300 004 0202
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5.30pm
Mae galwadau’n costio hyd at 12c y funud o linellau tir, a rhwng 3c a 45c o ffonau symudol

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)