Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Os oes oedi gyda’ch cais am fisa

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Gallwch ganfod pam mae oedi gyda’ch cais mewnfudo drwy gysylltu â’r Swyddfa Gartref, neu’ch AS lleol. Efallai’ch bod chi am wneud yn siŵr y bydd eich pasbort yn cael ei ddychwelyd mewn pryd ar gyfer eich gwyliau, neu’ch bod yn poeni faint mae’r penderfyniad yn ei gymryd.

Gallwch wneud hyn eich hun yn hytrach na thalu am gyfreithiwr drud neu arbenigwr mewnfudo i’w wneud ar eich rhan.

Eich statws mewnfudo

Bydd eich statws mewnfudo yn aros yr un fath wrth i chi aros am eich fisa newydd os ydych chi’n gwneud y cais yn y 28 diwrnod cyn i’ch fisa ddod i ben.

Byddwch yn cadw’r hawl i weithio, cael addysg a derbyn budd-daliadau wrth aros am fisa newydd.

Os yw’ch fisa wedi dod i ben yn barod

Os ydych chi’n gwneud eich cais ar ôl i’ch fisa ddod i ben, byddwch gan amlaf yn colli’r hawl i weithio, cael addysg a derbyn budd-daliadau wrth i chi aros am fisa newydd.

Gallwch ffonio canolfan gyswllt Fisâu a Mewnfudo’r DU (rhan o’r Swyddfa Gartref) i weld faint fydd eich fisa yn ei gymryd:

Canolfan gyswllt Fisâu a Mewnfudo’r DU
Ffôn: 0300 123 2241
Ffôn testun: 0800 389 8289
Llun i Iau, 9am tan 4.45pm. Gwener, 9am tan 4.30pm.
Mae galwadau’n costio 12c y funud o linell dir, a rhwng 3c a 45c o ffôn symudol

Gall y gwasanaeth fod yn brysur, felly efallai y bydd rhaid i chi aros am gryn amser.

Byddant yn gofyn i chi am eich cyfeirnod Swyddfa Gartref (neu rif yr achos). Bydd y rhif yn dechrau gyda llythyren gyntaf eich cyfenw, wedi’i dilyn gan 7 rhif. Byddwch wedi derbyn y rhif hwn wrth i chi wneud cais am y tro cyntaf.

Cyn i chi allu cael unrhyw wybodaeth am eich cais, byddant yn gofyn cwestiynau i gadarnhau pwy ydych chi.

Cysylltu â’ch AS

Os nad ydych chi’n fodlon ag ymateb y Swyddfa Gartref, mae’n syniad da cysylltu â'ch AS lleol. Gall eich AS ddarganfod mwy am yr oedi, ac mewn rhai achosion gall helpu i gyflymu’r cais am fisa.

Paratowch gymaint o wybodaeth â phosib – bydd yn helpu’ch AS i ddod o hyd i’ch cais. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd angen:

  • dyddiadau pwysig – fel y dyddiad i chi gyflwyno’ch cais
  • unrhyw gyfeirnodau i chi eu cael mewn llythyron neu dros y ffôn
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)