Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Beth i’w wneud os ydych chi wedi cael eich masnachu

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi wedi cael eich gorfodi i weithio am ychydig iawn o dâl neu ddim tâl o gwbl mewn swydd na allwch ei gadael, gallech fod yn ddioddefwr masnachu pobl.

Enwau eraill ar fasnachu pobl yw caethwasiaeth fodern neu ecsbloetio.

Gallwch gael eich masnachu i wneud llawer o bethau, e.e. gweithio yng nghartrefi pobl, mewn swyddi corfforol fel adeiladu a ffermio, neu buteiniaeth.

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n ddioddefwr masnachu pobl, ffoniwch yr heddlu ar 999.
Dydych chi wedi gwneud unrhyw beth o’i le. Mae’n bwysig i chi wybod:

  • bydd yr heddlu yn eich helpu
  • byddwch yn cael eich diogelu rhag unrhyw un rydych chi’n meddwl y gallai wneud niwed i chi
  • nid oes rhaid i chi roi tystiolaeth yn y llys oni bai eich bod chi’n dewis gwneud hynny

Sut mae gwybod os ydych chi wedi cael eich masnachu

Er bod pob achos o fasnachu yn wahanol, mae arwyddion y gallwch chi edrych amdanynt os oes rhywbeth yn teimlo o chwith am eich sefyllfa.

Addewid o fywyd gwell

Gallwch gael eich masnachu gan rywun rydych chi wedi’i gyfarfod yn y cnawd neu ar-lein.

Mae’n bosib bod yr unigolyn:

  • wedi dod â chi i weithio o wlad arall, er mae rhai pobl yn cael eu masnachu o fewn y DU
  • wedi addo swydd dda neu berthynas i chi

Cael eich gorfodi i weithio

Mae’n bosib eich bod chi wedi cael eich masnachu os ydych chi:

  • wedi cael eich gorfodi i weithio oriau hir iawn
  • wedi gweithio am ychydig iawn o dâl neu am ddim tâl o gwbl
  • wedi cael eich gorfodi i gael rhyw gyda phobl

Colli’ch rhyddid

Mae’n bosib bod eich masnachwyr wedi’ch atal rhag gadael drwy:

  • fynd â’ch pasbort
  • honni bod arnoch chi arian iddyn nhw, am deithio neu lety efallai
  • mynd i bob man gyda chi
  • bygwth gwneud niwed i chi

Gallwch gael eich masnachu gan bobl rydych chi’n ymddiried ynddynt

Daeth Joy i’r DU pan oedd hi’n ddeuddeg i helpu ei modryb a mynd i’r ysgol. Ond yn lle mynd i’r ysgol, roedd rhaid iddi weithio oriau hir yn y tŷ. Yn 15 oed, anfonwyd Joy i weithio i ffrind ei modryb, a fyddai’n ei tharo pan fyddai’n gwneud rhywbeth o le. Byddai gŵr y ffrind yn ei cham-drin weithiau. Doedd Joy ddim yn gallu dod o hyd i’w phasbort, ond ymhen hir a hwyr llwyddodd i adael y tŷ a chael cymorth drwy elusen.

Ffynhonnell: Rights of Women, Mai 2014

Ar ôl i chi alw’r heddlu

Bydd yr heddlu’n mynd â chi i fan diogel, i ffwrdd oddi wrth eich masnachwr.

Os ydych chi’n ddioddefwr masnachu pobl, byddwch yn cael 6 wythnos o leiaf i ddod atoch chi’ch hun heb orfod trefnu fisa i aros yn y DU. Yn ystod y cyfnod hwn cewch gymorth i ddod o hyd i rywle i fyw. Byddwch chi hefyd yn cael cymorth emosiynol fel gwasanaeth cwnsela os ydych chi ei angen. Ni fydd rhaid i chi dalu am unrhyw elfen o’r cymorth hwn.

Bydd yr heddlu’n ymchwilio i’r bobl wnaeth eich masnachu. Byddwch yn cael eich cefnogi a’ch diogelu os byddwch eisiau rhoi tystiolaeth yn eu herbyn yn y llys.

Byddwch yn cael cymorth i ddychwelyd adref os ydych chi o wlad y tu allan i Ewrop cyn belled ei bod yn ddiogel i chi ddychwelyd yno. Pe bai dychwelyd yn eich rhoi chi mewn perygl, byddwch yn cael cymorth i wneud cais i aros yn y DU yn barhaol.

Os nad ydych chi eisiau siarad â’r heddlu

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi eisiau siarad â’r heddlu – gallwch chi gysylltu ag elusen sy’n helpu dioddefwyr masnachu.

Ffoniwch linell gymorth gyfrinachol Byddin yr Iachawdwriaeth ar gyfer dioddefwyr masnachu pobl ar 0300 0038 151. Mae’r llinell gymorth ar agor 24 awr y dydd.

Byddwch yn cael cymorth i adael eich sefyllfa pan fyddwch chi’n barod, ac i adeiladu bywyd wedi hynny.

Os hoffech siarad â rhywun wyneb yn wyneb, ewch i’ch Cyngor ar Bopeth lleol. Byddant yn gallu rhoi cyngor i chi ar beth i’w wneud nesaf, a’ch cysylltu â chymorth arbenigol yn eich ardal.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)