Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Beth yw digwyddiadau casineb a throseddau casineb?

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae digwyddiadau casineb a throseddau casineb yn weithredoedd treisgar neu'n elyniaeth wedi eu cyfeirio at bobl oherwydd pwy ydyn nhw, neu oherwydd pwy maen nhw'n meddwl ydyn nhw.

Er enghraifft, efallai eich bod wedi dioddef ymosodiad geiriol gan rywun ar y stryd am eich bod yn anabl neu am fod rhywun yn credu eich bod yn hoyw.

Os ydych chi wedi dioddef digwyddiad casineb neu drosedd casineb fe allwch ei riportio i'r heddlu.

Darllenwch y dudalen hon i ddarganfod mwy am ddigwyddiadau casineb a throseddau casineb.

Beth yw digwyddiadau casineb?

Mae'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cytuno ar ddiffiniad cyffredin ar gyfer digwyddiadau casineb.

Maen nhw'n dweud bod rhywbeth yn ddigwyddiad casineb os yw'r dioddefwr neu unrhyw un arall yn credu bod y cymhelliant tu ôl iddo yn elyniaeth neu'n rhagfarn ar sail un o'r canlynol:

  • anabledd
  • hil
  • crefydd
  • hunaniaeth drawsrywiol
  • cyfeiriadedd rhywiol

Mae hyn yn golygu os ydych chi'n credu bod rhywbeth yn ddigwyddiad casineb, dylai'r sawl yr ydych yn ei riportio iddynt ei gofnodi fel digwyddiad casineb. Mae pob heddlu'n cofnodi digwyddiadau casineb ar sail y pump o nodweddion personol hyn.

Mae unrhyw un yn medru dioddef digwyddiad casineb. Er enghraifft, efallai eich bod wedi cael eich targedu am fod rhywun yn credu eich bod yn hoyw, hyd yn oed os nad ydych chi’n hoyw, neu am fod plentyn anabl gennych.

Nodweddion personol eraill

Mae rhai heddluoedd hefyd yn cofnodi digwyddiadau casineb ar sail nodweddion personol eraill fel od.

Yn  benodol, mae Heddlu Greater Manchester nawr yn cydnabod digwyddiadau casineb isddiwylliant eraill. Mae'r rhain yn ddigwyddiadau ar sail y ffordd y mae rhywun yn edrych ac yn cynnwys Goths, Emos, Pyncs a grwpiau tebyg eraill.  Mae hyn yn golygu y byddant hefyd yn cofnodi digwyddiadau o'r fath fel digwyddiadau casineb.

Pa fath o ddigwyddiadau sy'n medru bod yn ddigwyddiadau casineb?

Mae digwyddiadau casineb yn medru bod ar sawl ffurf. Dyma enghreifftiau o ddigwyddiadau casineb:

  • camdriniaeth geiriol fel galw enwau a jôcs sarhaus
  • aflonyddu
  • bwlio neu ddychryn gan blant, oedolion, cymdogion neu bobl ddieithr
  • ymosodiadau corfforol fel taro, dyrnu, gwthio, poeri
  • bygythiad o drais
  • galwadau ffug, negeseuon ffôn neu destun ymosodol, post casineb
  • ymosod ar-lein, er enghraifft ar Facebook neu Twitter
  • arddangos llenyddiaeth neu bosteri sy'n gwahaniaethu, neu eu dosbarthu
  • niwed neu ddifrod i bethau fel eich cartref, anifail anwes neu gerbyd
  • graffiti
  • llosgi
  • taflu sbwriel i mewn i ardd
  • cwynion maleisus er enghraifft ynglyn â pharcio, arogleuon neu swn.

Pryd mae digwyddiad casineb hefyd yn drosedd casineb?

Pan fydd digwyddiadau casineb yn dod yn droseddau, cyfeirir atynt fel troseddau  casineb. Mae trosedd yn rhywbeth sy'n torri cyfraith gwlad.

Mae unrhyw drosedd yn medru bod yn drosedd casineb os cafodd ei chyflawni oherwydd gelyniaeth neu ragfarn ar sail anabledd, hil, crefydd, hunaniaeth drawsrywiol neu gyfeiriadedd rhywiol.

Pan fydd rhywbeth yn cael ei gategoreiddio fel trosedd casineb, mae'r barnwr yn medru gosod dedfryd lymach ar y troseddwr dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003.

Nid yw digwyddiadau sy'n seiliedig ar nodweddion personol eraill, fel oed a pherthyn i isddiwylliant arall, yn cael eu hystyried yn droseddau casineb yn llygaid y gyfraith. Gallwch riportio'r rhain o hyd, ond ni fyddant yn medru cael eu herlyn yn benodol fel troseddau casineb gan yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Enghreifftiau o droseddau casineb

Dyma enghreifftiau o droseddau casineb:

  • ymosodiadau
  • difrod troseddol
  • aflonyddu
  • llofruddiaeth
  • ymosodiad rhywiol
  • dwyn
  • twyll
  • bwrgleriaeth
  • post casineb (Deddf Cyfathrebu Maleisus 1988)
  • achosi aflonyddu, ofn nu ofid (Deddf Trefn Gyhoeddus 1988)

Beth fedrwch chi ei wneud am ddigwyddiad neu drosedd casineb?

Os ydych chi wedi dioddef digwyddiad neu drosedd casineb, gallwch ei riportio i'r heddlu. Gallwch hefyd riportio digwyddiad neu drosedd casineb hyd yn oed os na chafodd ei gyfeirio atoch. Er enghraifft, gallech fod yn ffrind, yn gymydog, yn aelod o'r teulu, yn weithiwr cymorth neu'n rhywun sy'n pasio heibio.

Pan fyddwch chi'n riportio'r digwyddiad neu'r drosedd dylech ddweud a ydych chi'n credu ei fod oherwydd anabledd, hil, crefydd, hunaniaeth drawsrywiol, cyfeiriadedd rhywiol neu gyfuniad o'r pethau hyn. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae'n sicrhau bod yr heddlu'n ei gofnodi fel digwyddiad neu drosedd casineb.

Os ydych yn poeni nad yw'r heddlu'n rhoi ystyriaeth ddifrifol i chi

Efallai nad ydych yn siwr a yw'r digwyddiad yn drosedd, neu efallai eich bod yn credu nad yw'n ddigon difrifol i gael ei riportio. Ond, os ydych mewn trallod ac eisiau gweld rhywbeth yn cael ei wneud am yr hyn sydd wedi digwydd, mae'n well ei riportio. Er bod yr heddlu ond yn medru cyhuddo ac erlyn rhywun pan fydd y gyfraith wedi cael ei thorri, mae yna bethau eraill y gall yr heddlu eu gwneud i'ch helpu i ddelio gyda'r digwyddiad.

Mae hefyd yn bwysig cofio bod rhai troseddau casineb yn dechrau fel digwyddiadau llai sy'n medru cynyddu yn ymosodiadau mwy difrifol a rheolaidd - felly mae'n well gwneud rhywbeth ar gam cynnar.

Os oes rhywun yn aflonyddu arnoch dro ar ôl tro, ddylech chi riportio'r holl ddigwyddiadau?

Os ydych wedi dioddef trosedd casineb, efallai mai un digwyddiad ar ei ben ei hun ydyw. Ond weithiau, efallai bod yr un person neu grwp o bobl yn aflonyddu arnoch dro ar ôl tro.

Mae'n well riportio'r holl ddigwyddiadau casineb yr ydych yn eu profi i helpu'r heddlu i gael y darlun llawn. Os ydych yn y sefyllfa hon, efallai ei fod yn syniad da cadw cofnod o'r digwyddiadau i'ch helpu pan fyddwch chi'n cysylltu â'r heddlu.

Camau nesaf

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)