Beth i’w wneud os ydych chi wedi’ch cosbi tra’ch bod ar Gredyd Cynhwysol
Os nad ydych chi'n gwneud un o’r gweithgareddau yn eich ymrwymiad hawliwr, gallwch gael eich cosbi. Mae hyn yn golygu y bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu gostwng dros dro.
Gwneud cais am daliad caledi
Os ydych chi’n cael trafferthion ariannol oherwydd y gosb, gallwch:
- wneud cais am daliad caledi i gael arian mewn argyfwng ar gyfer pethau fel bwyd a biliau
- gweld pa gymorth neu fudd-daliadau eraill y gallech chi eu cael – gall eich Cyngor ar Bopeth agosaf helpu gyda hyn
Os ydych chi’n credu’ch bod wedi’ch cosbi’n annheg
Gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried eu penderfyniad os ydych chi’n meddwl eich bod wedi’ch cosbi yn annheg. Gelwir hyn yn ‘ailystyriaeth orfodol’ – bydd y manylion cyswllt ar y llythyr a anfonwyd atoch chi am eich cosb.
Bydd angen i chi ddweud wrthynt pam eich bod yn credu bod y gosb yn anghywir. Gallwch baratoi drwy:
- ddarllen y dadleuon dros herio cosb
- edrych i weld a gawsoch y gosb gywir
Gall eich Cyngor ar Bopeth agosaf eich helpu.
Beth sy’n digwydd nesaf
Dylech gael llythyr yn dweud wrthych chi am eich penderfyniad - gellir ei newid neu gallech gael esboniad pam bod y gosb yn cael ei chynnal
Bydd y llythyr yn dweud wrthych sut gallwch chi apelio i dribiwnlys os ydych chi dal yn anhapus gyda’r penderfyniad.
Sut i osgoi cosb arall
Cael ymrwymiad hawliwr sy’n iawn i chi
Dylech ofyn i’ch hyfforddwr gwaith newid eich ymrwymiad hawliwr os ydych chi’n cael trafferth i fodloni’r amodau y cytunwyd arnynt.
Darllenwch ein cyngor ar newid eich ymrwymiad hawliwr.
Os na allwch fynd i apwyntiad mewn Canolfan Gwaith
Os na allwch gyrraedd apwyntiad yn y Ganolfan Gwaith, ffoniwch nhw i roi gwybod iddynt cyn gynted â phosibl – eglurwch eich rhesymau a gofynnwch am gael aildrefnu. Cadwch nodyn o ddyddiad ac amser yr alwad, gyda phwy rydych chi’n siarad a beth gafodd ei ddweud.
Os ydych chi angen cymorth gyda chostau teithio i apwyntiadau, gofynnwch i’r Ganolfan Gwaith pa gymorth sydd ar gael.
Tystiolaeth o weithgareddau cysylltiedig â gwaith
Cadwch ddyddiadur bob wythnos o’r hyn rydych chi wedi’i wneud i fodloni amodau eich ymrwymiad hawliwr. Er enghraifft, y dyddiad y gwnaethoch chwilio am swydd ar-lein a faint dreulioch chi’n gwneud hynny. Os oes rhywbeth nad ydych chi wedi gallu ei wneud, byddwch yn barod i egluro pam. Os oes rheswm, ceisiwch gael tystiolaeth i’w dangos i’r Ganolfan Gwaith. Er enghraifft, nodyn gan y meddyg os oeddech chi’n sâl.
Rhoi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau
Gofalwch eich bod yn dweud ar unwaith wrth linell gymorth Credyd Cynhwysol am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau personol.
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth byw)
Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Mae galwadau i’r rhifau hyn am ddim.