Newidiadau sy’n effeithio ar eich PIP
Mae angen i chi roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosibl os bydd eich cyflwr yn newid gan y gall hyn effeithio ar eich Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Mae enghreifftiau o bethau a all newid sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi yn cynnwys y canlynol:
- os bydd eich cyflwr yn gwella neu’n gwaethygu
- os bydd lefel yr help rydych chi ei angen yn newid
- os byddwch chi’n mynd i’r ysbyty neu gartref gofal am fwy na 28 diwrnod (os ydych chi’n iau nag 18 oed ar y diwrnod rydych chi’n mynd i’r ysbyty, ni fydd eich PIP yn cael ei effeithio)
Mae enghreifftiau o amgylchiadau yn newid y mae’n rhaid i chi eu hadrodd yn cynnwys y canlynol:
- os byddwch chi’n mynd dramor am fwy nag 13 wythnos
- os byddwch chi’n newid eich enw, eich cyfeiriad neu fanylion eich cyfrif banc ar gyfer derbyn taliadau
- os byddwch chi’n mynd i’r carchar neu’r ddalfa, neu’n gadael y llefydd hynny
Mae llawer o newidiadau sy’n gallu effeithio ar eich PIP, ac enghreifftiau yn unig yw’r rhain.
Os nad ydych chi’n siŵr ydy newid yn effeithio ar eich PIP, y peth gorau i’w wneud yw dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau beth bynnag. Gallai peidio â dweud wrthyn nhw olygu y byddwch chi’n colli allan ar arian ychwanegol neu’n derbyn arian y bydd rhaid i chi ei ad-dalu.
Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau eisiau ailedrych ar eich hawliad PIP. Cyn i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, dylech gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf i gael help i gael yr holl fudd-daliadau y mae gennych chi hawl i’w cael.
Newidiadau does dim rhaid i chi eu hadrodd
Does dim rhaid i chi adrodd y newidiadau canlynol gan nad ydyn nhw’n effeithio ar a allwch chi gael PIP neu faint rydych chi’n ei gael:
- bod mewn gwaith, dychwelyd i’r gwaith neu adael gwaith
- newidiadau yn eich enillion neu incwm arall
- os bydd rhywun yn ymuno â’ch aelwyd neu’n gadael eich aelwyd
Sut i gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau i adrodd newid
Dylech chi adrodd newid cyn gynted â phosibl. Gallwch chi ffonio neu ysgrifennu i’r Adran Gwaith a Phensiynau i ddweud wrthyn nhw am y newid, ond rhaid i chi ysgrifennu os ydych chi wedi newid eich enw. Ar ôl i chi adrodd y newid, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ysgrifennu atoch chi i roi gwybod i chi sut y bydd yn effeithio ar eich PIP.
Bydd rhaid i chi gynnwys y manylion hyn pan fyddwch chi’n adrodd newid:
- eich enw llawn
- eich dyddiad geni
- eich rhif yswiriant gwladol
- y dyddiad y digwyddodd y newid neu’r dyddiad y bydd y newid yn digwydd
- y peth sydd wedi newid
Llinell gymorth PIP
Gall rhywun arall ffonio ar eich rhan, ond mae angen i chi fod gyda nhw fel y gallwch chi roi caniatâd iddyn nhw siarad ar eich rhan.
Ffôn: 0800 121 4433
Ffôn testun: 0800 121 4493
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am tan 6pm
Mae galwadau i’r rhif hwn am ddim o linellau tir neu ffonau symudol.
Y cyfeiriad i ysgrifennu iddo
Mae’r manylion cyswllt i chi eu defnyddio ar eich llythyr penderfyniad gwreiddiol.
Cadwch gofnod o’r newid
Mae’n syniad da cadw cofnod ysgrifenedig o’r ffaith eich bod chi wedi adrodd y newid wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, er enghraifft, rhag ofn y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anghytuno bod newid wedi’i adrodd.
Os byddwch chi’n adrodd y newid dros y ffôn, gallwch chi ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau anfon cofnod ysgrifenedig o’r alwad atoch chi. Os byddwch chi’n ysgrifennu i adrodd y newid, cadwch gopi o’r llythyr.