Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012: cyfrifo taliadau - rhannu gofal

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych chi'n gwahanu, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth os nad chi sydd â gofal bob dydd dros unrhyw blant sydd gennych.

Mewn rhai achosion, mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru trefnu taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012. Am y tro, mae hyn yn berthnasol i ychydig o bobl yn unig, ac fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu taliadau cynhaliaeth wedi eu cyfrifo a'u rhedeg gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych sut mae taliadau cynhaliaeth sy'n defnyddio Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 yn cael eu cyfrifo os ydych yn rhannu gofal y plant gyda phobl gwahanol.

Sicrhewch eich bod yn gwybod pa gynllun sy'n berthnasol i chi cyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon.

Os ydych yn rhannu gofal y plant

Os ydych yn rhannu gofal bob dydd y plant, efallai y bydd angen i chi benderfynu pa un ohonoch sy'n gorfod talu taliadau cynhaliaeth.

Os nad ydych yn rhannu'r gofal yn gyfartal, fel arfer gwelir mai'r rhiant sy'n gofalu am y plant am y mwyaf o oriau yw'r rhiant â gofal bob dydd dros y plant. Y rhiant arall fydd yr un sy'n gorfod talu taliadau cynhaliaeth yn awtomatig.

Os ydych chi'n talu taliadau cynhaliaeth ar gyfer plant ac maen nhw'n aros dros nos gyda chi'n rheolaidd, fe fydd hyn yn gostwng swm y taliadau cynhaliaeth y mae'n rhaid i chi eu talu.

Os nad ydych yn dweud wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am unrhyw drefniadau rhannu gofal penodol, fe fyddan nhw'n cymryd bod y plant yn aros gyda chi un noson yr wythnos. Mae hyn yn golygu y byddwch fel arfer yn talu un rhan o saith yn llai o daliadau cynhaliaeth heblaw bod y canlynol yn wir:

  • mae yna brawf bod cytundeb gwahanol rhyngoch chi a'r rhiant arall, neu
  • orchymyn llys yn nodi swm gwahanol o gyswllt, neu
  • nid oes digon o dystiolaeth o drefniadau gwahanol.

Fe fydd y trefniant hwn mewn lle hyd nes i chi ddod i gytundeb am rannu gofal. Os ydych chi'n mynd i'r llys ynghylch trefniadau cyswllt, fe fydd y trefniant mewn lle hyd nes bod y llys yn gwneud gorchymyn cyswllt.

Os ydych yn rhannu gofal y plant yn gyfartal

Os ydych yn rhannu gofal y plant yn gyfartal, nid oes un ohonoch yn gorfod talu taliadau cynhaliaeth i'r llall.

Os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn credu eich bod yn rhannu'r gofal yn gyfartal, ni fydd yn cyfrifo taliadau cynhaliaeth.

Rhannu taliadau cynhaliaeth rhwng un neu fwy o bobl

Mae'r cyfrifiad ar gyfer taliadau cynhaliaeth yn seiliedig ar y nifer o blant cymwys y mae'n rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth ar eu cyfer. Ond, fe fydd taliadau'n cael eu rhannu os ydych yn gorfod talu taliadau cynhaliaeth i fwy nag un rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plant.

Rhennir y swm rhwng y rhieni sydd â chyfrifoldebau gofal bob dydd yn ôl y nifer o blant sy'n byw gyda nhw.

Enghraifft

George yw tad plant Janet a thad plant Ruth, ond nid yw'n byw gydag un o'r ddwy gyn-bartner.

Mae cyfrifiad taliadau cynhaliaeth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn dangos ei fod yn gorfod talu swm wythnosol o gyfanswm o £250. Os oedd Janet a Ruth wedi cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, fe fydd yn cael ei rannu yn gyfartal rhyngddynt, felly mae'r ddwu ohonynt yn cael £125 yr wythnos.

Ond, os nad oedd Ruth wedi cyflwyno cais i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am daliadau cynhaliaeth am fod ganddi hi a George drefniant sy'n seiliedig ar y teulu yn barod, fe fyddai George yn parhau i dalu swm y taliadau cynhaliaeth y cytunwyd arnynt i Ruth. Ni fyddai'n cael unrhyw swm o'r taliadau cynhaliaeth a gyfrifwyd gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Gan fod Janet wedi cyflwyno cais i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, fe fyddai'n cael hanner y taliadau cynhaliaeth o £250 yr wythnos y mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi cyfrifo bod George yn gorfod ei dalu. Felly byddai'n cael £125.

Os oes mwy nag un person yn gofalu am y plant

Efallai y bydd eraill sy'n darparu gofal bob dydd ar gyfer y plant yn medru gofyn i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am daliadau cynhaliaeth. Er enghraifft, os yw tad-cu a mam-gu yn darparu gofal bob dydd, fe allan nhw gyflwyno cais i gael taliadau cynhaliaeth gan y rhieni.

Os oes mwy nag un yn cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth, fe allai'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant orchymyn bod swm y taliadau cynhaliaeth yn maen nhw'n ei gael mewn cyfrannedd i'r gofal y maen nhw'n ei ddarparu.

Pan fydd sawl un yn gofalu am y plant, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ystyried holl amgylchiadau'r achos, gan gynnwys buddiannau'r plentyn.

Partneriaid presennol sy'n rhannu gofal

Efallai bod gennych bartner presennol sydd ddim yn byw gyda chi ond sy'n rhannu gofal y plant. Fel arfer, telir y taliadau cynhaliaeth i'r sawl sy'n cyflwyno'r cais am daliadau cynhaliaeth, nid y partner, er efallai eu bod yn rhannu'r gofal.

Beth os oes gennych fwy nag un plentyn gyda'ch gilydd ac mae o leiaf un plentyn yn byw gyda phob rhiant?

Os oes plentyn yn byw gyda'r ddau ohonoch, fe fydd cyfrifiad taliadau cynhaliaeth ar wahân ar gyfer pob un ohonoch, yn ôl y rheolau arferol.

Os oes rhaid i'r ddau ohonoch dalu taliadau cynhaliaeth i'ch gilydd, mae'r ffordd y bydd yr arian yn cael ei dalu yn cael ei drefnu ar y pwynt talu. Gelwir hyn yn atredeg.

Enghraifft

Mae gan John a Ruth wyth o blant. Mae gan bob rhiant ofal bob dydd dros bedwar plentyn. Mae'r ddau riant yn cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth gan ei gilydd.

Dan reolau Cynllun 2012, mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo bod Ruth yn gorfod talu £100 y mis i John a John yn gorfod talu £50 y mis i Ruth. Mae'r taliadau'n cael eu hatredeg. Mae hyn yn golygu nad yw John yn talu unrhyw beth, ac mae Ruth yn talu £50 i John.

Plant sydd yng ngofal yr awdurdod lleolc

Os yw gofal y plant yn cael ei rannu rhwng y rhiant sydd â chyfrifoldebau gofal bob dydd ac awdurdod lleol, mae'r plant yn cyfrif fel plant cymwys at ddiben cyfrifo'r taliadau cynhaliaeth.

Fe fydd y rhiant sy'n gorfod talu taliadau cynhaliaeth yn talu llai, gan ddibynnu sawl noson mae'r plant yn eu treulio mewn gofal. Os yw'r plant yn treulio llai na 52 noson mewn gofal bob blwyddyn, ni fydd hyn yn effeithio ar y cyfrifiad.

Os ydych chi'n anghytuno â'r ffordd y mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi cyfrifo'r taliadau cynhaliaeth

Gallwch ofyn i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am adolygiad yn yr achosion canlynol:

  • rydych yn anghytuno â'r ffordd y mae wedi cyfrifo'r taliadau cynhaliaeth ar sail y trefniadau rhannu gofal, neu
  • maen nhw'n gwrthod cyfrifo taliadau cynhaliaeth am eu bod yn dweud eich bod yn rhannu'r gofal yn gyfartal ond nid ydych yn cytuno bod hyn yn wir.

Fe fydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi'ch achos. Fe allai hyn gynnwys tystiolaeth gan:

  • ysgol, Meddyg Teulu neu ddeintydd y plentyn
  • pobl eraill sydd hefyd yn darparu gofal plant, er enghraifft gwarchodwyr plant, ffrindiau neu aelodau'r teulu
  • mantolenni banc, derbynebau neu gontractau sy'n dangos bod y ddau ohonoch yn gwneud penderfyniadau gwario pwysig ar gyfer y plant.·

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)