Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Budd-daliadau a chymorth gyda’r dreth gyngor ar ôl gwahanu

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Efallai y gallwch chi gael cymorth gyda’ch costau byw os ydych chi’n gwahanu oddi wrth eich partner.

Mae’n syniad da holi pa fudd-daliadau y gallech chi eu cael, neu a allwch chi gael unrhyw beth ychwanegol ar ben yr hyn rydych chi eisoes yn ei hawlio.

Os oeddech chi wedi priodi neu wedi bod mewn partneriaeth sifil, dylech hefyd wirio a allwch chi gael cymorth ariannol gan eich cynbartner (sef ‘cynhaliaeth priod’).

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu dan fygythiad, dylech ofyn am gymorth.

Gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Ferched ar 0808 2000 247 ar unrhyw adeg.

Elusen yw’r Men’s Advice Line sy’n helpu dynion sy’n dioddef cam-drin domestig. Gallwch ffonio eu llinell gymorth ar 0808 801 0327 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud nesaf, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf.

Gwiriwch pa fudd-daliadau allwch chi eu cael

Defnyddiwch y gyfrifiannell budd-daliadau ar Turn2us i weld i faint allwch chi hawlio.

Mae’r swm y gallwch chi ei gael yn dibynnu ar bethau fel faint o arian rydych chi’n ei ennill, faint o oriau’r wythnos rydych chi’n gweithio a faint o blant sydd gennych chi.

Os ydych chi eisoes yn cael budd-daliadau

Dylech chi dal wneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych chi hawl iddynt drwy ddefnyddio’r gyfrifiannell budd-daliadau ar Turn2us.

Os ydych chi’n cael budd-daliadau fel cwpl, gallai’r swm y mae gennych chi’r hawl iddo newid pan fyddwch chi’n gwahanu.

Dywedwch wrth y swyddfa fudd-daliadau os ydych chi a’ch partner yn gwahanu - gallai hyn effeithio ar faint rydych chi’n cael eich talu. Os nad oes gennych chi hawl i gymaint bellach ers gwahanu gyda’ch partner, efallai y byddwch yn cael eich gordalu. Bydd gofyn i chi dalu unrhyw ordaliadau yn ôl.

Edrychwch ar unrhyw lythyrau rydych chi wedi’u cael am fudd-daliadau os nad ydych chi’n siŵr â phwy ddylech chi gysylltu. Bydd y rhif ffôn a manylion cyswllt ar y llythyr.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)