Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Eich hawliau pan ydych yn benthyg

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Ynglŷn â’ch hawliau pan ydych yn benthyg arian

Mae’r dudalen hon yn esbonio eich hawliau pan ydych yn benthyg arian neu’n cael credyd. Mae benthyg arian yn cynnwys defnyddio cerdyn credyd, cael benthyciad neu orddrafft banc a phrynu nwyddau ar gredyd.

Am fwy o wybodaeth am fenthyg arian, gweler Mathau o fenthyciadau.

Pan ydych yn benthyg arian, dylech lofnodi cytundeb sy’n esbonio’r cytundeb sydd rhyngoch. O ran y mwyafrif o gytundebau credyd, mae gan y benthyciwr hawliau cyfreithiol (hawliau statudol) o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr.

Ar y dudalen hon, cewch wybodaeth am sut i wybod os yw’r cytundeb a lofnodoch yn dod o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr ac os ydyw, beth yw eich hawliau, gan gynnwys:

  • pa wybodaeth y mae’n rhaid i chi ei derbyn cyn ac ar ôl llofnodi cytundeb credyd, fel eich bod yn deall y goblygiadau yn llawn
  • p’un ai eich bod yn gallu canslo cytundeb neu beidio a sut i’w wneud
  • beth sy’n digwydd os hoffech ad-dalu cytundeb yn gynnar.

Os ydych yn benthyg gan fenthyciwr anghyfreithlon (siarc benthyg), ni fydd gennych unrhyw hawliau o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr felly ceisiwch osgoi eu defnyddio.

Am fwy o wybodaeth am fenthycwyr anghyfreithlon, gweler Siarcod Benthyg.

Cytundebau credyd rheoledig

Mae’r mwyafrif o gytundebau credyd a hurbrynu yn rhan o Ddeddf Credyd Defnyddwyr sy’n rhoi rhai hawliau pwysig i chi. Gelwir cytundeb sy’n dod o dan y Ddeddf yn gytundeb rheoledig. Mae cytundeb yn un rheoledig os:

Os ydych wedi llofnodi cytundeb credyd cyn 6 Ebrill 2008, mae’n gytundeb rheoledig dim ond os ydyw ar gyfer credyd sy’n is na swm penodol.

Os oes gennych gytundeb rheoledig o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr, mae’n rhaid i’r benthyciwr roi copi ysgrifenedig o’r cytundeb i chi sy’n esbonio:

  • pa fath o gytundeb credyd ydyw, er enghraifft, cytundeb gwerthu credyd hurbrynu neu werthu amodol
  • gwir gost y credyd, o’r enw Cyfradd Canrannol Blynyddol (APR)
  • swm pob taliad, pryd mae’n ddyledus a sut caiff ei gyfrifo (benthyciad, llog, cost gweinyddu)
  • eich hawliau canslo a p’un ai ydych yn gallu ad-dalu’r benthyciad yn gynnar.

Am fwy o wybodaeth am APR, gweler y cynllun credyd gorau.

Os nad yw’r cytundeb yn cynnwys y wybodaeth hon i gyd ac os ydych yn ei chael yn anodd talu, mae’n bosib na fydd y benthyciwr yn gallu cymryd camau i adennill yr arian heb ganiatâd y llys.

Benthyciadau wedi’u gwarantu

Mae benthyciad wedi’i warantu yn rhoi’r hawl i fenthyciwr adfeddiannu eich cartref os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau. Y math mwyaf cyffredin o fenthyciad wedi’i warantu yw morgais.

Mae benthyciadau wedi’u gwarantu yn dod o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr ond nid yw morgeisi. Os yw eich benthyciad wedi’i warantu yn dod o dan y Ddeddf, mae’n bosib y gallwch wneud cais am Orchymyn Amser, os ydych yn ei chael yn anodd ad-dalu eich dyled. Gorchymyn Amser yw gorchymyn arbennig gan y llys sy’n rhoi amser i chi dalu. Gall hyn eich helpu i gadw eich cartref os ydych ar ei hôl hi gyda’r taliadau.

Os ydych ar ei hôl hi gyda thaliadau benthyciad wedi’i warantu, mynnwch gyngor gan ymgynghorydd ar unwaith. Cewch gyngor gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Cytundebau nad ydynt yn dod o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr

Nid yw’r mathau canlynol o gytundebau yn dod o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr:

Cynllun Bargen Werdd sy’n darparu credyd o:

  • ·hyd at £25,000 sy’n gyfan gwbl at ddibenion busnes neu
  • ·dros £25,000 sy’n bennaf at ddibenion busnes.

Bydd eich hawliau ar gyfer y cytundebau hyn yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi’i ysgrifennu yn y contract, yn hytrach na’r hyn ddywed y Ddeddf Credyd Defnyddwyr.

Gwybodaeth y dylai’r benthyciwr ei darparu ynglŷn â chytundeb credyd

Dylai benthycwyr roi’r wybodaeth cyn-contract canlynol cyn llofnodi’r cytundeb, fel eich bod yn ymwybodol o’r hyn yr ydych yn ei lofnodi:

  • manylion y nwyddau a’r gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdanynt
  • swm y credyd neu gyfyngiad credyd
  • y gyfradd llog
  • sut ddylech ad-dalu’r swm a fenthycioch gan gynnwys y cyfanswm sy’n rhaid i chi ei dalu, swm y rhandaliadau a pha mor aml y bydd yn rhaid i chi dalu.

Yn ymarferol, bydd benthycwyr yn rhoi’r wybodaeth hon i chi cyn eu bod yn rhoi’r cytundeb i chi ei lofnodi. Ni ddylech deimlo dan bwysau i lofnodi cytundeb os nad ydych wedi cael amser i ddarllen y wybodaeth a’i deall. Gallwch ofyn a allwch gymryd y wybodaeth i ffwrdd i’w astudio a’i dychwelyd i’w llofnodi nes ymlaen.

Pan ydych yn llofnodi’r cytundeb, dylai’r benthyciwr anfon cyfriflen i chi o leiaf unwaith y flwyddyn sy’n dangos faint o arian sydd arnoch o dan y cytundeb. Fodd bynnag, gallwch ofyn am gyfriflen unrhyw bryd.

A allwch ganslo cytundeb credyd

Rydych yn medru canslo cytundeb credyd ar unrhyw adeg cyn i chi lofnodi’r cytundeb neu o fewn 14 diwrnod i’w lofnodi. Nid oes rhaid i chi roi rheswm. Mae hyn yn cynnwys credyd a brynwyd dros y ffôn, drwy’r post, dros y rhyngrwyd neu ar deledu digidol.

Rhaid i chi ddweud wrth y benthyciwr eich bod yn canslo’r cytundeb. Gelwir hyn yn ‘rhoi rhybudd’. Mae’n well rhoi’r rhybudd yn ysgrifenedig, drwy ei anfon gyda gwasanaeth post a gofnodwyd os yn bosib. Cofiwch gadw copi ar gyfer eich cofnodion chi eich hun. Rydych hefyd yn medru rhoi rhybudd ar lafar. Efallai y bydd angen i chi wneud hyn os yw’r 14 diwrnod bron ar ben. Os ydych yn rhoi rhybudd ar lafar, gwnewch yn siwr eich bod yn cadw cofnod o’r dyddiad a’r amser ac enw’r person yr ydych wedi siarad ag ef/hi ac anfonwch nodyn ysgrifenedig i ddilyn y sgwrs.

Cytundebau na allwch eu canslo

Nid oes gennych yr hawl i ganslo’r mathau canlynol o gytundebau:

Hyd yn oed os nad oes gennych yr hawl o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr i ad-daliad pan ydych yn newid eich meddwl, mae’n werth gwirio’r cytundeb a lofnodoch i weld p’un ai y gallwch ddychwelyd y nwyddau o fewn terfyn amser a derbyn ad-daliad llawn.

Os ydych yn canslo cytundeb credyd

Os ydych yn penderfynu canslo cytundeb credyd mae’n rhaid i chi ddychwelyd unrhyw arian a roddwyd i chi o flaen llaw o dan y cytundeb a thalu am unrhyw nwyddau sydd eisoes wedi’u gosod megis cegin neu dŷ gwydr. Os brynoch nwyddau ar gredyd ac os ydych yn canslo’r cytundeb, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu amdanynt drwy ryw ffordd arall neu eu dychwelyd.

Os ydych wedi talu blaendal neu randaliad am y nwyddau neu wasanaethau yr ydych yn eu talu ar gredyd, dylech gael eich arian i gyd yn ôl pan ydych yn canslo. Fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol os drefnoch gredyd eich hun, er enghraifft, os ydych yn cael benthyciad ar wahân i dalu am y nwyddau neu’r gwasanaeth.

Os ydych yn ei chael yn anodd ad-dalu’r benthyciad, dylech gysylltu â’ch benthyciwr, neu gael cyngor annibynnol rhad ac am ddim gan asiantaeth cynghori ar ddyled megis Canolfan Cyngor ar Bopeth.

I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Ad-dalu benthyciad yn gynnar

Os ydych am ad-dalu benthyciad yn gynnar, o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr dylech gael ad-daliad o unrhyw log neu gostau yr ydych wedi’u talu. I wneud hyn, mae angen i chi ysgrifennu at y benthyciwr a gofyn iddynt roi swm taliad llawn cynnar i chi ar gyfer y benthyciad. Hwn yw’r cyfanswm y mae’n rhaid i chi ei dalu i gael gwared ar y ddyled yn llawn, gan gynnwys unrhyw ad-daliadau.

Mae’n rhaid i’r benthyciwr eich hysbysu o’r swm hwn os ydych yn gofyn amdano a chaniatáu 28 diwrnod o’r dyddiad pan dderbyniodd eich gofyniad i dalu gweddill y ddyled yn llawn. Mae swm y llog yn dibynnu ar bryd cawsoch y benthyciad a faint ohono yr ydych eisoes wedi’i ad-dalu.

Nid oes yn rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad yn llawn oherwydd gofynnoch am ffigwr taliad llawn cynnar. Gallwch barhau i dalu eich rhandaliadau arferol.

Os nad yw’r benthyciwr yn ateb eich llythyr sy’n gofyn am swm taliad llawn cynnar neu os ydych yn meddwl bod y swm yn ormod, mynnwch gyngor gan ymgynghorydd arbenigol.

Ad-dalu rhan o’r benthyciad yn gynnar

Os nad ydych am ad-dalu’r cyfan sy’n ddyledus, gallwch ad-dalu rhan o’r benthyciad yn gynnar o hyd. Gelwir hyn yn setlo’n gynnar yn rhannol. Fe fydd y gostyngiad yn llai na phetai chi’n ad-dalu’r benthyciad cyfan.

Fe fydd talu rhan o’r benthyciad yn gynnar yn effeithio ar y ffordd yr ydych yn talu gweddill y benthyciad. Efallai y bydd y cytundeb credyd yn glir ynghylch sut y bydd unrhyw ad-daliad cynnar yn effeithio ar weddill rhandaliadau eich benthyciad. Os nad yw’n dweud unrhyw beth am hyn, gallwch drafod gyda’r benthyciwr i weld a fedrwch chi ostwng y rhandaliadau rheolaidd neu ad-dalu’r gweddill dros gyfnod byrrach o amser.

Rhaid i chi ddweud wrth y benthyciwr ar lafar neu’n ysgrifenedig eich bod yn bwriadu ad-dalu rhan o’r benthyciad, ac yna talu’r taliad o fewn 28 niwrnod. Unwaith fyddwch chi wedi talu, gofynnwch i’r benthyciwr gadarnhau faint sydd ar ôl i’w dalu a sut mae’n effeithio ar weddill yr arian sy’n ddyledus.  

Os ydych eisoes ar ei hôl hi gyda’ch taliadau, dan gytundeb y benthyciad, defnyddir unrhyw daliad i setlo’n gynnar yn rhannol tuag at ad-dalu’r ôl-ddyledion yn gyntaf.

Ad-dalu rhan o’r Cynllun Bargen Werdd, neu’r cyfan ohono, yn gynnar

Byddwch yn medru ad-dalu Cynllun Bargen Werdd yn gynnar, yn rhannol neu yn llawn, a hynny ar unrhyw adeg. Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gallwch gael gwelliannau ynni-effeithlon trwy dalu amdanynt trwy randaliadau ar eich bil trydan. Mae talu trwy’ch bil fel cael benthyciad. Yr enw arno yw’r Cynllun Bargen Werdd. Mae’n gytundeb credyd defnyddiwr.

Ond, os ydych wedi trefnu ad-dalu’ch Cynllun Bargen Werdd dros 15 mlynedd neu fwy, efallai y bydd hefyd angen i chi ad-dalu swm cyfan y benthyciad a chyfanswm y llog a fyddai wedi cael ei ad-dalu dros gyfnod gwreiddiol y benthyciad.

Beth yw’r Fargen Werdd

Dod â chytundeb hurbrynu neu werthu amodol i ben

O dan gytundeb hurbrynu neu werthu amodol, nid chi sy’n berchen ar y nwyddau hyd nes eich bod wedi talu amdanynt yn llawn. Mae hyn yn golygu y gallwch ddod â’r cytundeb i ben a dychwelyd y nwyddau unrhyw bryd. Fodd bynnag, mae’n bosib y byddwch yn dal yn gorfod talu oherwydd mae’n dibynnu ar faint yr ydych wedi’i dalu cyn dod â’r cytundeb i ben.

Am fwy o wybodaeth am ddod â chytundeb hurbrynu neu werthu amodol i ben.

Pryd mae’r benthyciwr yn medru diweddu cytundeb cerdyn credyd

Mae benthyciwr yn medru diweddu cytundeb cerdyn credyd trwy roi rhybudd o ddeufis i chi yn ysgrifenedig. Mae hefyd yn medru diweddu eich hawl i ddefnyddio’r cerdyn credyd, naill ai’n barhaol neu am gyfnod dros dro, ond mae’n rhaid iddo ddweud wrthych yn ysgrifenedig ei fod yn mynd i wneud hyn a chael rheswm da dros wneud hynny. Er enghraifft, efallai bod y benthyciwr yn eich amau chi o dwyll neu efallai bod ganddo reswm dros gredu na fyddwch yn medru ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych.

Os yw’ch cerdyn yn cael ei wrthod am eich bod wedi defnyddio mwy na’ch terfyn, nid yw’n golygu bod eich cytundeb wedi diweddu. Dylech fod yn medru unioni pethau drwy ad-dalu peth o’r arian sy’n ddyledus neu ostwng y swm yr ydych am ei wario.

Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau credyd neu fenthyciad

Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau, mae’n rhaid i’r benthyciwr anfon hysbysiad ôl-ddyledion atoch gan gynnwys taflen wybodaeth gan y Swyddfa Masnachu Teg (OFT). Nid oes rhaid iddynt wneud hyn yn achos Cynllun Bargen Werdd. Mae’n rhoi gwybodaeth allweddol i chi am eich hawliau a ble cewch gyngor i ddelio â’ch ôl-ddyledion. Cewch hyd i daflenni gwybodaeth yr OFT ar wefan yr OFT yn www.oft.gov.uk.

Cyn gall y benthyciwr gymryd camau pellach i adennill ei arian, mae’n rhaid iddo anfon hysbysiad rhagosodedig atoch sy’n gorfod cynnwys taflen wybodaeth OFT. Mae’r hysbysiad hwn yn esbonio’r camau sy’n rhaid i chi eu cymryd a’r hyn fydd yn digwydd os nad ydych yn gallu talu’r ddyled.

Mae’n rhaid i’r benthyciwr anfon hysbysiad i chi os hoffent ychwanegu rhagor o gostau, er enghraifft, oherwydd eich bod yn hwyr yn talu.

Os nad yw’r benthyciwr yn rhoi’r wybodaeth gywir i chi pan ddylai fod wedi, ni all eich cymryd i’r llys neu ychwanegu mwy o log neu gostau at eich ôl-ddyledion tan ei fod yn anfonyr hysbysiad cywir atoch. Os yw benthyciwr yn ceisio cymryd camau pellach mewn sefyllfa fel hyn, mynnwch gyngor ar yr hyn allwch ei wneud.

Os ydych ar ei hôl hi gyda thaliad o dan gytundeb credyd, mynnwch gyngor, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Am fwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o fenthyciadau a dewis y cynllun credyd gorau, gweler Benthyg.

Gallai’r wybodaeth ganlynol yn Adviceguide hefyd fod yn gynorthwyol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.

Rhowch glic ar y wefan am fwy o wybodaeth ynghylch:

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)