Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gorfodi taliadau cynhaliaeth - ble i ddechrau

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os mai chi yw'r rhiant ddylai dalu taliadau cynhaliaeth sydd wedi eu trefnu gan yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, ac nid ydych yn talu, maen nhw'n medru cymryd camau yn eich erbyn i wneud i chi dalu. Gelwir hyn yn gamau gorfodi.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych pa opsiynau sydd gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant a'r Asiantaeth Cynnal Plant wrth gymryd camau gorfodi. Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Gynllun 1993, Cynllun 2003 a Chynllun Cynhaliaeth Plant 2012.

Pa gamau gorfodi gellir eu cymryd yn eich erbyn

Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru ceisio adennill ôl-ddyledion taliadau cynhaliaeth yn y ffyrdd canlynol:

  • tynnu arian o'ch enillion. Gelwir hyn yn orchymyn tynnu arian o enillion
  • tynnu arian o'ch budd-daliadau. Nid yw hyn yn berthnasol i ôl-ddyledion dan Gynllun 1993
  • tynnu arian o'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Gelwir hyn yn orchymyn tynnu arian
  • cyflwyno cais i'r llys am orchymyn dyled. Os oes gorchymyn dyled mewn lle, maen nhw'n medru cyfeirio'r achos at y beilïaid a allai fynd â'ch nwyddau oddi arnoch i'w gwerthu i dalu ôl-ddyledion a chostau
  • cyflwyno cais i'r llys am orchymyn arwystlo i'ch gorfodi i werthu eiddo a defnyddio'r arian i ad-dalu ôl-ddyledion taliadau cynhaliaeth.

Os oes pob dull arall o orfodi wedi methu, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru cyflwyno cais i'r llys er mwyn eich gwahardd rhag gyrru neu eich anfon i'r carchar.

Gorchmynion i atal osgoi

Mae gan yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant y pwer i gyflwyno cais i'r Uchel Lys i'ch atal rhag cael gwared ar eiddo neu drosglwyddo eiddo os ydyn nhw'n credu eich bod yn gwneud hyn er mwyn osgoi talu taliadau cynhaliaeth plant.

Os ydych wedi cael gwared ar eiddo i osgoi talu taliadau cynhaliaeth, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru cyflwyno cais am orchymyn i ganslo'r gwerthiant neu'r trosglwyddiad. Gelwir hyn yn orchymyn i roi’r dadfeddianiad o’r neilltu.

Ond, ni fydd y llys yn rhoi'r dadfeddianiad o’r neilltu os cafodd ei wneud:

  • am daliad rhesymol, ac
  • i berson a oedd wedi ymddwyn mewn ffydd ac nad oedd yn ymwybodol o'ch bwriad i osgoi taliadau Cynhaliaeth Plant.

Terfynau amser ar gyfer gorfodi ôl-ddyledion taliadau cynhaliaeth

Fel arfer, nid oes terfyn amser i'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gasglu ôl-ddyledion taliadau cynhaliaeth plant. Ond, mae yna derfyn o chwe mlynedd ar ôl-ddyledion sydd wedi codi cyn 2000 a ble nad oes gorchymyn dyled.

Asiantaeth casglu dyledion

Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru defnyddio asiantaeth casglu dyledion i ddod o hyd i'r rhiant a ddylai fod yn talu taliadau cynhaliaeth ac i gasglu ôl-ddyledion sy'n ddyledus ers amser hir. Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn defnyddio asiantaeth casglu dyledion, fe fydd gan yr asiantaeth casglu dyledion gontract gyda'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, a rhaid iddi ddilyn y canllawiau y cytunwyd iddynt.

Camau nesaf

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)