Taliadau uniongyrchol – pwy sy’n gallu eu cael
Ydych chi’n gallu cael taliadau uniongyrchol yn lle pecyn gofal wedi’i drefnu gan yr awdurdod lleol? Mae’r ateb ar y dudalen hon.
Pwy sy’n cael derbyn taliadau uniongyrchol
Gair i gall
Gall llawer o bobl sy’n derbyn pecynnau gofal wedi’u trefnu gan eu hawdurdod lleol ddewis derbyn taliadau arian parod yn lle hynny, er mwyn eu galluogi i drefnu eu gofal eu hunain.
Cyn gwneud taliadau uniongyrchol, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol fod yn fodlon bod y canlynol yn berthnasol:
- mae gan yr unigolyn sydd â hawl i becyn gofal anghenion y gellir eu diwallu drwy ddefnyddio taliadau uniongyrchol
- bydd y taliadau’n cael eu gwneud i rywun sydd â’r gallu i’w rheoli (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael)
- naill ai mae’r unigolyn sydd â hawl i becyn gofal yn cytuno i gael taliadau uniongyrchol, neu mae rhywun yn cytuno ar ei ran.
- Mwy ynglŷn â chytuno i derbyn taliadau uniongyrchol
Pwy sydd â hawl i gael taliadau uniongyrchol
Oni bai eich bod wedi cael eich eithrio o’r hawl i dderbyn taliadau uniongyrchol, bydd gennych chi hawl i’w derbyn os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- rydych chi’n 16 oed neu’n hŷn, ac mae gennych chi hawl i wasanaeth gofal yn y gymuned
- mae gennych chi gyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl dan 16 oed sydd â hawl i wasanaeth gofal yn y gymuned
- rydych chi’n ofalwr 16 oed neu’n hŷn ac yn dilyn asesiad penderfynwyd bod gennych chi hawl i wasanaeth gofalwr
- rydych chi wedi’ch penodi’n ‘unigolyn addas’ i dderbyn a rheoli taliadau uniongyrchol ar ran rhywun sydd heb y gallu meddylion i gydsynio i daliadau uniongyrchol.
- Mwy ynglŷn â phwy sy'n 'unigolyn addas'
Weithiau mae pobl ifanc anabl rhwng 16 ac 17 oed yn anghytuno â’u rhieni ynghylch a ddylen nhw neu eu rhieni dderbyn y taliadau uniongyrchol. Yn yr achosion hyn, dylai’r Awdurdod Lleol ystyried a oes gan y person ifanc y gallu i reoli’r taliadau uniongyrchol ei hun. Os yw’r Awdurdod Lleol yn fodlon bod y person ifanc yn gallu rheoli’r taliadau uniongyrchol, gyda chymorth priodol, mae’n rhaid iddo wneud y taliadau i’r unigolyn ifanc.
Mae gan berson ifanc sydd wedi’i hysbysu y bydd y taliad yn cael ei wneud i’w rieni, hawl i wneud ‘sylwadau ffurfiol’ am y penderfyniad i’r Awdurdod Lleol. Mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol helpu’r person ifanc i wneud y sylwadau a threfnu mynediad i wasanaeth eiriolaeth.
Pwy all fod â hawl i gael taliadau uniongyrchol
Os ydych chi wedi cael gorchymyn i dderbyn gwasanaethau gofal dan gyfraith iechyd meddwl neu gyfiawnder troseddol, does gennych chi ddim hawl i dderbyn taliad uniongyrchol er mwyn eich galluogi i drefnu’r gofal. Gall yr Awdurdod Lleol barhau i fod yn fodlon caniatáu i chi gael taliadau uniongyrchol.
Os oes gennych chi anghenion gofal eraill yn ychwanegol i’r gofal rydych chi wedi cael eich gorchymyn i’w dderbyn, efallai y bydd gennych chi hawl i dderbyn taliadau uniongyrchol i dalu am yr anghenion hynny.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru am daliadau uniongyrchol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y bobl a all dderbyn taliadau uniongyrchol.
Pwy sydd ddim yn gallu cael taliadau uniongyrchol
Allwch chi ddim cael taliadau uniongyrchol os yw llys wedi gorchymyn bod yn rhaid i chi ufuddhau i amodau penodol yn ymwneud â dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol. Mae rhagor o fanylion ar gael yn Atodiad C canllawiau Llywodraeth Cymru.
- Taliadau uniongyrchol - Llywodraeth Cymru
Camau nesaf