Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cadarnhau bod eich swydd wedi'i dileu yn deg

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'n bosibl y cewch eich hysbysu bod eich swydd mewn perygl os oes gan eich cyflogwr un swydd neu fwy nad yw'n gallu eu fforddio neu nad os eu hangen.

Mae gan eich cyflogwr lawer o ryddid i ddewis pa swyddi i'w dileu, ond mae'n rhaid iddo ddilyn y rheolau perthnasol.

Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os oes angen cymorth arnoch ar unrhyw adeg.

Os yw eich swydd mewn perygl o gael ei dileu

Waeth pa mor hir rydych chi wedi gweithio i'ch cyflogwr, dylech wneud tri pheth i gadarnhau bod eich cyflogwr yn gallu dileu'ch swydd:

1. Cadarnhau a yw eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn

2. Cadarnhau a ydych wedi cael eich dewis am reswm teg

3. Sicrhau bod eich cyflogwr yn cynnal ymgynghoriad grŵp os yw'n dileu swyddi o leiaf 20 o bobl 

Os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd

Mae 3 cham arall i'w hystyried os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd erbyn i'ch swydd ddod i ben:

1. Cadarnhau bod eich swydd yn cael ei dileu mewn gwirionedd
2. Sicrhau bod eich cyflogwr yn dilyn proses deg
3. Gwybod a oes angen i'ch cyflogwr gynnig swydd arall i chi

Sicrhau eich bod yn derbyn eich hawliau eraill yn ymwneud â dileu'ch swydd

Waeth a yw eich swydd wedi'i dileu yn deg ai peidio, dylech gadarnhau bod cyfnod eich rhybudd yn gywir.

Os buoch yn gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd erbyn i chi adael, dylech gael tâl dileu swydd ac amser o'r gwaith am dâl i chwilio am swydd.

Materion cyffredin

Os yw eich swydd yn cael ei dileu tra eich bod yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb rhiant a rennir

Bydd y penderfyniad i ddileu eich swydd yn annheg os yw eich beichiogrwydd neu'ch absenoldeb mamolaeth yn rhan o'r rheswm dros ddileu'ch swydd. Dylech gadarnhau a yw eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn os ydych chi'n meddwl bod eich swydd wedi'i dileu oherwydd eich beichiogrwydd, absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb rhiant a rennir.

Mae'n rhaid i'ch cyflogwr geisio dod o hyd i swydd arall i chi yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • rydych chi ar absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb rhiant a rennir adeg dileu'ch swydd; neu
  • buoch yn gweithio iddo am o leiaf 2 flynedd erbyn i'ch swydd ddod i ben

Canfod a oes hawl gennych gael cynnig gwaith arall. Dylech gael cynnig unrhyw swydd addas sydd gan eich cyflogwr, hyd yn oed os oes rhywun arall yn fwy cymwys o bosibl.

Os yw eich swydd yn cael ei dileu yn ystod absenoldeb salwch

Gallai dileu'ch swydd fod yn annheg os yw'n digwydd pan fyddwch yn absennol oherwydd salwch.

Os yw eich salwch yn gysylltiedig ag anabledd, dylech gadarnhau a yw eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn.

Os buoch yn gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd erbyn i chi adael, dylech sicrhau bod eich cyflogwr wedi dilyn proses deg. Hyd yn oed os ydych yn absennol oherwydd salwch, mae angen i'ch cyflogwr gyfarfod â chi'n unigol cyn dewis dileu'ch swydd.

Os yw eich swydd yn cael ei dileu tra byddwch ar wyliau

Gallai'ch swydd gael ei dileu tra byddwch ar wyliau.

Os buoch yn gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd erbyn i chi adael, dylech sicrhau bod eich cyflogwr wedi dilyn proses deg. Hyd yn oed os ydych ar wyliau, mae angen i'ch cyflogwr gyfarfod â chi'n unigol cyn dewis dileu'ch swydd.

Mae eich gweithle'n cau neu'n symud

Gallai'ch swydd gael ei dileu os yw'r busnes lle rydych yn gweithio yn cau. Mae hwn yn rheswm dilys dros ddileu swydd.

Os buoch yn gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd erbyn i chi adael, dylai eich cyflogwr geisio cynnig swydd wahanol i chi. Dylai chwilio am swyddi eraill mewn unrhyw leoedd eraill lle y mae'n gweithio neu unrhyw gwmnïau eraill y mae'n berchen arnynt.

Gallwch dreulio 4 wythnos yn rhoi cynnig ar unrhyw swydd newydd a gynigir i chi, cyn penderfynu a fyddai'n well gennych dderbyn eich tâl dileu swydd.

Os yw eich cyflogwr yn cynnig swydd i chi mewn lleoliad arall ond nad ydych am weithio yno, darllenwch am eich opsiynau os yw eich cyflogwr yn cynnig swydd arall i chi.

Ad-drefniant yn eich gweithle

Gallai'ch swydd gael ei dileu os oes angen llai o bobl ar eich cyflogwr am y rhesymau canlynol:

• mae wedi ad-drefnu'r busnes i'w wneud yn fwy effeithlon
• mae wedi cyflwyno technoleg newydd sy'n gwneud eich gwaith yn eich lle

Ni ddylai'ch swydd gael ei dileu os yw technoleg newydd yn golygu bod yr un swydd yn cael ei gwneud yn wahanol. Os ydych chi'n meddwl bod eich swydd yn dal i fodoli ond bod eich cyflogwr yn dweud nad oes angen eich swydd, dylech sicrhau bod y swydd yn cael ei dileu am resymau dilys.

Mae'r busnes wedi'i brynu gan fusnes arall (TUPE)

Ni fydd eich swydd yn cael ei dileu'n awtomatig os yw'r busnes rydych yn gweithio iddo yn cael ei brynu gan fusnes arall.

Bydd eich contract cyflogaeth yn parhau a byddwch yn cadw'r un telerau ac amodau gyda'ch cyflogwr newydd.

Cyfeirir at hyn fel TUPE neu 'trosglwyddo ymgymeriadau'.

Gallai'r trosglwyddiad arwain at ddileu'ch swydd yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • mae'ch cyn gyflogwr yn dileu'ch swydd cyn y trosglwyddiad
  • mae'ch cyflogwr newydd yn dileu'ch swydd ar ôl y trosglwyddiad

Mae'n rhaid i'ch cyflogwr ddangos:

  • bod y swydd wedi'i dileu am resymau dilys (nid oes angen am y gwaith roeddech yn ei wneud)
  • nid y trosglwyddiad oedd yr unig reswm neu'r prif reswm am ddileu eich swydd

Gall TUPE fod yn gymhleth, felly cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am fod y busnes rydych yn gweithio iddo wedi'i brynu gan fusnes arall.

Gall TUPE fod yn gymhleth, felly cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os yw eich swydd yn cael ei dileu am fod y busnes rydych yn gweithio iddo wedi'i brynu gan fusnes arall.

Gallech wynebu ansicrwydd os yw'r cyflogwr newydd yn cymryd drosodd ac nad yw'n rhoi unrhyw waith i chi. Siaradwch â chynghorydd ar unwaith os yw hyn yn digwydd i chi.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)