Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cael swydd neu godiad cyflog wrth dderbyn Credyd Cynhwysol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Bydd angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosibl os ydych chi’n cael swydd newydd neu godiad cyflog – efallai y byddwch yn cael y swm anghywir o fudd-dal os na fyddwch chi.

Bydd eich ymrwymiad hawliwr yn dweud wrthych chi pa ‘ofynion cysylltiedig â gwaith’ sydd angen i chi eu gwneud. Y rhain yw’r tasgau y bydd angen i chi eu cwblhau i gael y Credyd Cynhwysol. Byddwch yn cael eich dosbarthu i ‘grŵp cysylltiedig â gwaith’ – bydd gennych wahanol lefelau o waith y bydd yn rhaid i chi ei wneud ym mhob grŵp.

Gallwch ddefnyddio ein cyngor i weld a ydych chi yn y grŵp gweithgarwch cysylltiedig â gwaith Credyd Cynhwysol cywir. Byddwch hefyd yn gallu gweld beth sydd angen i chi ei wneud ym mhob grŵp.

Derbyn cynnig am swydd neu godiad cyflog

Dylech gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau ar unwaith i:

  • ddweud wrthynt pwy yw’ch cyflogwr, pryd fydd y swydd yn dechrau a phryd fydd eich cyflog yn codi
  • gweld a allwch chi wneud cais am gostau gofal plant – gall eich Credyd Cynhwysol gynnwys swm os ydych chi’n talu am ofal plant ffurfiol, fel gwarchodwr plant cofrestredig neu feithrinfa
  • trefnu apwyntiad gyda’ch hyfforddwr gwaith i adolygu eich ymrwymiad hawliwr

Gallwch roi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau a chysylltu â’ch hyfforddwr gwaith drwy:

  • ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein os oes gennych chi un
  • ffonio’r llinell gymorth.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth byw)
Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn am ddim.

Sut mae codiad cyflog yn effeithio ar eich Credyd Cynhwysol

Os ydych chi’n cael codiad cyflog, mae swm y Credyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael yn mynd i lawr fel arfer. Am bob £1 rydych chi neu’ch partner yn ei hennill, bydd 63c yn cael ei gyfrif fel incwm wrth gyfrifo’ch Credyd Cynhwysol.

Eich enillion yw’r hyn y byddwch yn ei gael gan eich cyflogwr bob mis ar ôl tynnu treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn.

Os ydych chi’n hunangyflogedig, mae rheolau am sut y cyfrifir eich enillion.

Os ydych chi’n gyfrifol am blentyn, neu os oes gennych chi neu’ch partner allu cyfyngedig i weithio, byddwch yn cael lwfans gwaith. Dyma faint o arian y gallwch chi ei ennill heb iddo effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol. Mae rhagor o wybodaeth am lwfansau gwaith ar gael yn GOV.UK.

Os ydych chi’n cael cymorth gan y Credyd Cynhwysol tuag at eich taliadau llog morgais, byddwch yn colli’r arian hwnnw os ydych chi’n dechrau gweithio.

Gallwch ddarllen mwy am sut mae eich enillion o'r gwaith yn effeithio ar eich Credyd Cynhwysol. Os ydych eisiau help i weld a fyddech chi ar eich ennill yn ariannol yn cael swydd neu fwy o gyflog, gallwch gysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth lleol.

Gwrthod cynnig am swydd neu godiad cyflog

Ni all yr Adran Gwaith a Phensiynau eich gorfodi i gymryd swydd newydd neu godiad cyflog, ond byddwch angen rheswm da dros wneud hynny. Er enghraifft, efallai bod gennych chi argyfwng gartref neu eich bod yn yr ysbyty. Os nad oes gennych chi reswm da, mae’n debyg y byddant yn eich ‘cosbi’, sy’n golygu gostwng eich Credyd Cynhwysol dros dro.

Mae’ch ymrwymiad hawliwr yn dweud nad oes yn rhaid i chi gael swydd

Ni fydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei effeithio os byddwch chi'n gwrthod derbyn cynnig o swydd.

Os byddwch chi'n gwrthod codiad cyflog, chewch chi ddim o'ch cosbi ond gallai'r Adran Gwaith a Phensiynau eich trin fel petai gennych chi'r incwm hwnnw. Yr Adran Gwaith a Phensiynau sydd i benderfynu a fyddant yn ei gynnwys wrth gyfrifo faint o Gredyd Cynhwysol gewch chi.

Mae’ch ymrwymiad hawliwr yn dweud bod yn rhaid i chi gael swydd

Rydych chi wedi cytuno gyda'ch hyfforddwr gwaith pa fath o waith fyddech chi'n chwilio amdano, yn cynnwys oriau a chyflog. Os na fyddwch chi'n derbyn cynnig sy'n cyd-fynd (neu'n cyd-fynd yn helaeth) â'r un gytunoch chi, mae'n debygol iawn y cewch chi'ch cosbi.

Os nad yw'r cynnig swydd yn briodol i chi a'ch amgylchiadau

Os ydych chi'n credu bod gennych chi reswm da dros wrthod cynnig swydd, bydd angen i chi siarad â'ch hyfforddwr gwaith am hyn ar unwaith. Nid oes diffiniad o'r hyn sy'n cyfrif fel rheswm da, ond dylai'r Adran Gwaith a Phensiynau fod yn rhesymol ac ystyried eich amgylchiadau a safbwyntiau.

Mae enghreifftiau o'r pethau y gellid eu hystyried wrth benderfynu a yw rhywbeth yn rheswm da yn cynnwys:

  • byddai'n cymryd mwy na 90 munud i gyrraedd y gwaith (mae disgwyl i chi deithio hyd at 90 munud i'r gwaith fel rheol)
  • byddai costau teithio i'r gwaith a gofal plant yn rhy uchel i'w wneud yn ymarferol
  • byddai'r swydd yn cael effaith negyddol ar eich iechyd corfforol neu feddyliol
  • byddai'r swydd yn cael effaith negyddol ar eich cyfrfifoldebau gofalu
  • mae gennych chi wrthwynebiad crefyddol neu foesegol i'r math o waith

Er y bydd eich rhesymau yn cael eu hystyried, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ystyried eich amgylchiadau personol i gyd wrth benderfynu a ddylid eich cosbi am wrthod cynnig. Efallai na fydd un rheswm da ynddo'i hun, fel iechyd gwael, yn ddigon i'ch atal rhag cael eich cosbi.

Os yw'r cynnig swydd ar gyfer llai o oriau, cyflog is neu fath gwahanol o swydd na'r hyn i chi gytuno yn eich ymrwymiad hawliwr, bydd disgwyl i dderbyn y swydd serch hynny. Ni fydd y rhain yn cael eu hystyried yn rhesymau digon da dros wrthod cynnig o swydd, oni bai eich bod yn gallu dadlau y bydd eich costau teithio neu ofal plant yn rhy uchel i wneud swydd â chyflog is yn ymarferol. Os na fyddwch chi'n derbyn y cynnig o swydd, mae'n debygol iawn y cewch chi'ch cosbi. 

Os yw'r swydd am fwy o oriau nag y cytunoch chi, gallai'ch hyfforddwr gwaith eich annog i'w derbyn serch hynny. Os nad ydych chi eisiau derbyn y swydd, eglurwch pam wrth eich hyfforddwr gwaith a'i atgoffa pam i chi gytuno i weithio oriau cyfyngedig yn y lle cyntaf. e.e. oherwydd eich iechyd neu'ch ymrwymiadau gofal plant. Os yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu eich cosbi am wrthod cynnig o swydd o dan yr amgylchiadau hyn, mae'n bosibl y gallech herio'r gosb.

Newid eich ymrwymiad hawliwr

Efallai y bydd eich amgylchiadau personol wedi newid ers i chi drafod eich ymrwymiad hawliwr ddiwethaf. Os yw hyn yn cael effaith ar y math o oriau y gallwch chi weithio, efallai y gellir newid eich ymrwymiad hawliwr. Er enghraifft, os yw’ch plentyn wedi dechrau’r ysgol efallai y byddwch am ostwng yr oriau y gallwch chi weithio.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)