Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Mae yswiriwr yn cysylltu â chi i setlo hawliad

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi’n cael eich anafu neu eich cerbyd yn cael ei ddifrodi mewn damwain ar y ffordd ac nid eich bai chi yw hyn, mae’n bosibl y bydd yswiriwr y person arall yn cysylltu â chi i geisio setlo’r hawliad gyda hwy’n uniongyrchol.  Yr enw a roddir ar hyn yw cipio trydydd parti neu gymorth trydydd parti.

Mae’n gyfreithlon i yswirwyr wneud hyn. Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod chi’n deall nad oes rhaid i chi setlo’r hawliad fel hyn, ac na fydd yswiriwr y person arall yn gweithredu er eich budd pennaf.

Mae’r dudalen hon yn nodi’r hyn y dylech feddwl amdano cyn penderfynu derbyn cynnig i setlo hawliad yn uniongyrchol gan yswiriwr arall.

Gair o gyngor

Os bydd angen i chi wneud hawliad anaf personol, efallai y bydd eich yswiriant cynnwys y cartref hefyd yn cynnwys yswiriant treuliau cyfreithiol

Yr hyn y dylech feddwl amdano cyn derbyn cynnig gan yswiriwr arall

Os ydych chi wedi cael eich anafu neu wedi dioddef trawma oherwydd eich damwain, efallai y byddwch chi’n teimlo’n fregus. Os bydd yswiriwr y person arall yn cysylltu â chi i geisio setlo’r hawliad, gall fod yn demtasiwn i dderbyn cynnig i osgoi rhagor o straen neu oedi. Fodd bynnag, efallai na fydd hyn er eich budd pennaf.

Cyn i chi benderfynu derbyn cynnig, rhowch ystyriaeth i’r canlynol:

  • nid oes rhaid i chi dderbyn unrhyw gynnig a gewch. Os ydych chi’n derbyn cynnig, gall fod yn is na’r iawndal y byddwch chi wedi’i gael petaech wedi defnyddio cyfreithiwr neu wedi mynd i’r llys yn lle
  • peidiwch â theimlo dan unrhyw bwysau i wneud penderfyniad yn gyflym. Mae gennych hyd at dair blynedd o’r adeg y digwyddodd y ddamwain i wneud hawliad am iawndal
  • os ydych chi wedi cael eich anafu, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n mynd am asesiad meddygol llawn, i gadarnhau unrhyw anafiadau sydd gennych a’r effaith debygol ar eich bywyd
  • os yw yswiriwr yn cynnig taliad i chi neu’n gofyn i chi arwyddo rhywbeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw ei ddiben
  • nid oes rhaid i chi ddefnyddio cyfreithiwr y mae yswiriwr yn cynnig ei drefnu i chi. Gallwch benodi un eich hun ar unrhyw adeg neu ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)