Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Yswiriant ar gyfer eich cerbyd - hawlio os oes rhywun yn dwyn eich car neu ei gynnwys

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os oes rhywun yn dwyn eich car, neu os yw rhywun yn mynd â rhywbeth o'ch car, efallai y byddwch chi am hawlio ar eich yswiriant moduro. Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wybod cyn i chi hawlio a beth fedrwch chi ei wneud os oes oedi cyn setlo'ch hawliad.

Gair o gyngor

Efallai y byddwch yn medru gostwng cost eich yswiriant os ydych yn gosod llonyddydd (immobiliser) neu larwm ar eich cerbyd. Neu os ydych yn ei barcio mewn garej.

Hawlio os yw'ch car wedi cael ei ddwyn

Os yw'ch car wedi cael ei ddwyn, hyd yn oed am gyfnod byr, dywedwch wrth yr heddlu a'ch cwmni yswiriant ar unwaith ac ymchwiliwch i weld os yw'ch polisi'n cynnwys y gost o gael cerbyd arall yn lle. Os ydych yn talu'ch premiwm trwy randaliadau, efallai y bydd yn rhaid i chi barhau i dalu hyd nes ei bod hi'n adeg adnewyddu'ch polisi.

Efallai y bydd eich cwmni yswiriant yn aros i weld os ydyn nhw'n dod o hyd i'ch cerbyd. Os ydyn nhw'n setlo'ch hawliad ac yna mae'ch cerbyd yn dod i'r golwg, fe fyddan nhw'n cadw'r cerbyd. Os nad yw'ch car yn dod i'r golwg, dylai'ch cwmni yswiriant dalu gwerth y car ar y farchnad, sef y swm y byddech wedi medru ei gael petai chi wedi ei werthu.

Os nad ydych yn hapus gyda'r swm yn mae'r cwmni yswiriant yn ei gynnig i chi, ceisiwch brofi bod y car werth mwy, trwy ddefnyddio canllawiau prisiau ceir neu brisiau mewn papurau lleol.

Efallai y bydd eich polisi'n dod i ben wrth i chi gael y taliad gan y cwmni yswiriant, ond mae hyn yn dibynnu ar eich polisi. Os oeddech wedi talu'r swm llawn ymlaen llaw, fwy na thebyg na chewch chi ad-daliad am weddill eich premiwm.

Hawlio os oes rhywun wedi dwyn eich eiddo

Os oes rhywun wedi dwyn eich eiddo o'ch car, efallai y byddwch yn medru dewis rhwng hawlio ar yswiriant cynnwys y cartref neu'r yswiriant ar gyfer eich cerbyd. Ni fyddwch yn medru hawlio ar y ddau.

Efallai y byddwch yn medru hawlio ar yswiriant cynnwys y cartref os byddai hawlio ar yswiriant eich cerbyd yn effeithio ar eich bonws am beidio â hawlio. Mae bonws am beidio â hawlio yn golygu y bydd cost eich polisi yswiriant nesaf yn rhatach os nad ydych yn hawlio yn ystod cyfnod y polisi. Gallech gasglu bonws am beidio â hawlio dros sawl mlynedd ac mae'n bosib gostwng cost eich yswiriant hyd at 70%.

Oedi cyn setlo hawliad

Mae'n medru cymryd tipyn o amser i setlo hawliad ond  mae rheolau Awdurdod Ymddygiad Ariannol (yr FCA) yn dweud bod yn rhaid i'ch cwmni yswiriant wneud cynnig rhesymol i setlo o fewn tri mis.

Gall fod oedi cyn setlo'r hawliad os nad yw'r naill ochr na'r llall yn cyfaddef mai nhw sy'n gyfrifol, neu os nad yw'r hawliad wedi cael ei feintoli'n llwyr. Mae hyn yn golygu nad oes digon o dystiolaeth ysgrifenedig i gefnogi'ch hawliad. Felly, gellir gofyn i chi neu'r gyrrwr anfon mwy o dystiolaeth. Efallai y bydd hyn yn golygu bod yr hawliad yn cymryd mwy na thri mis i'w setlo.

Unwaith fydd rhywun wedi cyfaddef eu bod yn gyfrifol, ac mae digon o dystiolaeth wedi dod i law er mwyn meintoli'r hawliad, dylai'ch cwmni yswiriant setlo'r hawliad o fewn tri mis.

Os yw'n ymddangos bod oedi afresymol o hir wrth setlo'ch hawliad, a hynny heb reswm da, dylech gwyno i'ch cwmni yswiriant gan ddefnyddio'i broses cwyno fewnol.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)