Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Damweiniau a salwch wrth deithio'n annibynnol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r dudalen hon yn esbonio beth fedrwch chi ei wneud os ydych yn teithio'n annibynnol ac yn mynd yn sâl neu'n cael damwain tra ar eich gwyliau dramor.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Mae'r dudalen hon yn esbonio sut i ddelio gyda salwch a damweiniau dramor os ydych yn deithiwr annibynnol.  

Os ydych wedi trefnu'ch gwyliau eich hun, gan drefnu'r daith awyr, llety a gwasanaethau ar wahân, yna rydych yn deithiwr annibynnol.

Os ydych wedi trefnu gwyliau pecyn rydych yn cael eich diogelu gan reoliadau arbennig. Mae hyn yn golygu y dylai eich cwmni gwyliau eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau oherwydd damwain neu salwch.

Os ydych yn credu eich bod ar wyliau pecyn, gweler Rydych wedi cael damwain ar wyliau pecyn

Os nad ydych yn siwr a yw'ch gwyliau yn wyliau pecyn ai peidio, gweler Ydych chi ar eich gwyliau fel rhan o becyn neu ydych chi'n deithiwr annibynnol?

Beth ddylai eich yswiriant teithio ei gynnwys?

Fel teithiwr annibynnol, ni fedrwch chi ddibynnu ar gynrychiolydd cwmni gwyliau i'ch helpu os digwydd i chi gael argyfwng meddygol, ac felly mae'n arbennig o bwysig fod gennych yswiriant meddygol. Heb yswiriant, mae argyfwng meddygol dramor yn medru costio miloedd o bunnoedd. Fe fydd y polisïau yswiriant teithio mwyaf cynhwysfawr yn cynnig o leiaf £2 miliwn o ddarpariaeth feddygol. Fel arfer, mae'r ddarpariaeth hon yn cynnwys cost ambiwlans awyr i'ch cludo chi adref petai angen gwneud hynny. Pan fyddwch chi'n prynu yswiriant teithio, sicrhewch ei fod yn cynnwys y math yma o ddarpariaeth feddygol.

Mwy am ddewis yswiriant teithio

A ddylai fod gennych Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd?

Mae Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd yn rhoi hawl i chi i ofal meddygol a ariennir gan y wladwriaeth mewn gwlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Dyma wledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd:

  • gwledydd yr Undeb Ewropeaidd a
  • Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a'r Swistir

Mae hyn yn golygu y bydd costau'ch triniaeth yn llai neu efallai yn rhad ac am ddim. Mae angen i chi geisio am gerdyn i bob aelod o'ch grwp gan gynnwys babanod. Dylech gael Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd yn ogystal ag yswiriant meddygol oherwydd fe fydd rhai cwmnïau yn diddymu'r taliadau 'excess' ar hawliadau os oes un gennych.

Os ydych yn teithio tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, efallai y bydd hawl gennych i ofal iechyd am bris gostyngol, neu'n rhad ac am ddim, os oes trefniadau gofal iechyd gan y wlad gyda'r Deyrnas Unedig. Fe allwch ddarllen y rheolau ar gyfer gwledydd gwahanol ar wefan Choices y GIG.

Pwy ddylech chi gysylltu â hwy mewn argyfwng?

Os oes yswiriant teithio gennych, dylech gysylltu â'ch cwmni yswiriant os oes argyfwng meddygol yn codi. Dylai eich polisi yswiriant fod wedi rhoi rhif rhyngwladol i chi y byddwch yn medru ei ddefnyddio i gysylltu â'ch cwmni yswiriant. Fel arfer, fe fydd cwmni cymorth yn delio gyda'ch galwad ac fe fydd y cwmni yswiriant yn penodi'r cwmni cymorth i drefnu'r driniaeth feddygol angenrheidiol.

Fe fyddwch hefyd yn medru cysylltu â Chonswl Prydain yn lleol am gymorth. Mae staff y Conswl yn medru cynnig cyngor, help a chefnogaeth ymarferol gyda phethau fel dod o hyd i feddyg lleol.

A fydd yn rhaid i chi dalu am eich triniaeth feddygol?

Os oes yswiriant teithio gennych

Os oes yswiriant teithio gennych, fel arfer disgwylir i chi dalu am gostau bach.

Er enghraifft, fwy na thebyg y disgwylir i chi dalu bil o £50 a godir gan feddyg lleol am ymgynghoriad a chyffuriau, ac yna hawlio'r arian yn ôl wedi i chi gyrraedd gartref. Sicrhewch eich bod yn cadw derbynebau am unrhyw arian y byddwch yn ei wario. Os ydych yn gorfod aros yn yr ysbyty, fel arfer fe fydd cwmni cymorth y cwmni yswiriant yn delio gyda biliau meddygol wrth iddyn nhw ddod i law.

Os oes Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd

Pan fyddwch chi'n defnyddio Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am eich triniaeth ac yna hawlio peth o'r arian, neu'r cyfan ohono, yn ôl. Fe allwch ddarllen y rheolau ar gyfer gwledydd gwahanol ar wefan Choices y GIG. Os oes rhaid i chi dalu am driniaeth ac mae hawl gennych i gael yr arian yn ôl, dylech geisio hawlio tra'ch bod chi dramor o hyd. Sicrhewch eich bod yn cadw'ch holl dderbynebau a gwaith papur. Os nad ydych yn medru cael ad-daliad tra'ch bod chi dramor, fe fyddwch yn medru cael ffurflen hawlio gan yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy ffonio 0191 2181999.

Beth ddylech chi ei wneud os ydych yn credu mai eich gwesty neu'ch llety sydd wedi achosi eich salwch neu'ch damwain?

Os ydych yn credu mai'ch gwesty neu'ch llety sydd wedi achosi'ch salwch neu'ch damwain, efallai y bydd angen i chi feddwl am ddwyn achos am anaf personol. Ond, fel teithiwr annibynnol, mae'n medru bod yn gymhleth ac yn ddrud iawn dwyn achos am anaf personol. Nid ydych yn debygol o fod yn medru dwyn achos llys ym Mhrydain. Yn hytrach, fwy na thebyg y bydd yn rhaid i chi ddwyn achos yn y wlad ble cawsoch eich damwain neu ble'r aethoch yn sâl. Os ydych yn ystyried dwyn achos am ddamwain a gawsoch tra ar wyliau, dylech gael cyngor cyfreithiol.

Camau nesaf

I ddod o hyd i gyfreithiwr sy'n medru rhoi cyngor cyfreithiol i chi ar hawlio am anaf personol, cysylltwch ag APIL (Association of Personal Injury Lawyers)

0870 609 1958

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

I gael mwy o wybodaeth ar Gardiau Yswiriant Iechyd Ewropeaidd, ewch i wefan NHS Choices yn: www.nhs.uk

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)