Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Hawlio ar eich yswiriant gwyliau

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae yswiriant gwyliau’n medru rhoi sicrwydd ychwanegol i chi os nad yw pethau'n mynd yn ôl y disgwyl. Mae'n arbennig o bwysig os ydych yn teithio'n annibynnol, oherwydd efallai na fydd gennych unrhyw ffordd o gyrraedd adref na neb i'ch helpu i ddatrys eich problemau gyda'ch gwyliau.

Darllenwch y dudalen hon i i ddarganfod mwy am yr hyn sydd angen i chi ei wneud os oes rhaid i chi hawlio ar eich polisi yswiriant teithio.

Gair o gyngor

  • cofiwch fynd â rhif eich polisi yswiriant teithio gyda chi, a rhif ffôn cyswllt brys, pan fyddwch chi'n teithio
  • os oes problem yn codi tra'ch bod i ffwrdd, cadwch dderbynebion am bopeth sydd angen i chi eu prynu i gefnogi'ch hawliad
  • os yn bosib, gofynnwch i'ch cwmni yswiriant gytuno i driniaeth feddygol cyn i chi ei chael
  • cofiwch ddweud wrth eich cwmni yswiriant am unrhyw broblemau iechyd sydd gennych yn barod cyn i chi gymryd eich yswiriant, neu efallai na fydd darpariaeth gennych
  • riportiwch eiddo coll neu eiddo wedi ei ddwyn i'r heddlu lleol o fewn 24 awr i'w colli. Os nad yw hyn yn bosib, dywedwch wrth y rheolwr yn y man ble aethant ar goll.

Hawlio tra byddwch chi'n teithio

Sicrhewch eich bod yn mynd â rhif eich polisi yswiriant gyda chi a'r manylion cyswllt brys. Mae hyn fel eich bod chi'n gwybod pwy yn union i siarad â nhw yn gyntaf os oes problem yn codi a fel bod modd delio â phethau mor fuan â phosib. Os ydych yn teithio dramor, sicrhewch fod y rhif ffôn iawn gennych.

Hawlio wedi i chi gyrraedd gartref

Os oes angen i chi hawlio ar eich polisi yswiriant teithio wedi i chi gyrraedd gartref, ymchwiliwch i'r canlynol cyn i chi anfon eich hawliad:

  • eich bod chi o fewn terfynau amser hawlio
  • bod yna ddarpariaeth ar gyfer yr hyn yr ydych yn ei hawlio
  • faint yw'r tâl-dros-ben. Y tâl-dros-ben yw'r swm o arian y bydd eich cwmni yswiriant yn ei dynnu oddi ar yr hawliad. Efallai na fydd yn werth hawlio os ydych yn hawlio llai na hyn
  • y print bach. Sicrhewch nad oes unrhyw beth yn yr amodau a thelerau sy'n eich atal chi rhag hawlio
  • ai polisi newydd am hen ydyw. Os nad polisi felly ydyw, fe fydd y swm a gewch am eitemau yr ydych yn hawlio amdanynt yn llai na chost prynu rhai newydd yn eu lle Mae hyn yn wir am fod y cwmni yswiriant yn cymryd arian i ffwrdd am fod yr eitemau wedi treulio.

Cysylltwch â'ch cwmni yswiriant cyn gynted â phosib a gofynnwch iddo anfon ffurflen hawlio atoch. Efallai y bydd yn medru e-bostio hwn atoch chi er mwyn cyflymu pethau. Llenwch y ffurflen hawlio'n ofalus a chadwch gopi i chi'ch hun.

Fe fydd angen i chi gadw copi o'r holl waith papur a fydd yn helpu'ch cais, gan gynnwys derbynebion neu dystysgrifau meddygol. Dylech hefyd gadw copïau o'r rhai gwreiddiol rhag ofn y bydd cwestiwn yn codi gyda'ch hawliad neu rhag ofn iddo gael ei wrthod.

Efallai y bydd eich cwmni yswiriant yn gofyn os oes yswiriant o fath arall gennych a fydd efallai'n talu am yr hawliad. Fe fydd angen i chi ddweud wrtho os oes yswiriant arall gennych, a fydd hefyd efallai'n darparu ar gyfer cynnwys y cartref er enghraifft.

Hawlio am eitemau sydd wedi cael eu colli, eu dwyn neu eu difrodi, neu fagiau

Mae disgwyl i chi gymryd gofal rhesymol o'ch eiddo tra'ch bod chi'n teithio. Fe fydd y cwmni yswiriant am weld tystiolaeth eich bod wedi gwneud hyn.

Os yw'ch eiddo'n cael ei golli neu ei ddwyn, dylech ddweud wrth yr heddlu lleol o fewn 24 awr i golli'r eitem. Os nad yw hyn yn bosib, dywedwch wrth rywun arall fel cynrychiolydd eich cwmni teithio, rheolwr y gwesty neu ddarparwr cludiant, a mynnwch adroddiad ysgrifenedig.

Os oes rhaid i chi brynu eitemau hanfodol yn lle, fel deunydd ymolchi, neu ddillad brys, gofynnwch am dderbynebion a'u hanfon fel tystiolaeth gyda'ch cais.

Hawlio am argyfwng meddygol ac anafiadau personol

Os fyddwch chi angen triniaeth feddygol tra'ch bod i ffwrdd, ceisiwch gysylltu â'ch cwmni yswiriant ar unwaith a'i gael i gytuno i'r driniaeth. Dylech wneud hyn cyn cael y driniaeth, er, efallai na fydd hyn yn bosib mewn argyfwng.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ymlaen llaw am driniaeth feddygol a hawlio'r arian yn ôl unwaith fyddwch chi'n cyrraedd gartref. Cofiwch sicrhau bob tro eich bod yn cael derbynebion am unrhyw driniaeth neu feddyginiaeth a gewch chi.

Os nad oeddech wedi dweud wrth gwmni eich yswiriant teithio am broblem iechyd oedd gennych yn barod, cyn i chi gymryd yr yswiriant, efallai na fydd y polisi'n darparu ar eich cyfer os fyddwch chi angen triniaeth ar gyfer hyn tra'ch bod i ffwrdd.

Efallai na fyddwch yn medru hawlio am gost unrhyw feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch fel arfer ac y byddwch efallai'n gorfod ei chymryd tra'n teithio.

Fe fydd llawer o wledydd Ewropeaidd yn rhoi triniaeth feddygol frys, rhad ac am ddim, i chi os oes Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) gennych. Mae gan wledydd eraill gytundebau hefyd gyda'r Deyrnas Unedig i roi triniaeth frys yn rhad ac am ddim.

Dylai yswiriant teithio ddarparu ar eich cyfer os ydych yn feichiog ac mae'ch iechyd yn iawn. Ond, efallai na fydd rhai cwmnïau hedfan yn fodlon i chi hedfan os oes disgwyl i'ch babi gyrraedd o fewn ychydig wythnosau.

Hawlio os oes rhaid i chi ganslo'ch taith neu ei thorri'n fyr

Os oes angen i chi hawlio am i chi ganslo'ch taith neu ei thorri'n fyr, fe fydd eich cwmni yswiriant ond yn derbyn eich hawliad os oes rheswm da gennych dros wneud hyn. Fe allai'r rhesymau gynnwys:

  • marwolaeth, salwch neu anaf annisgwyl i chi, neu eich partner, neu bobl sy'n teithio gyda chi
  • tân, lladrad neu ddifrod annisgwyl i'ch cartref
  • maen nhw'n dileu'ch swydd
  • rydych yn feichiog ac yn cael cyngor i beidio â theithio ar ôl i chi gymryd yr yswiriant
  • cewch alwad i wasanaethu ar reithgor neu fel tyst yn y llys.

Os oes rhaid i chi ddod adref yn gynnar, fel arfer fe fydd eich cwmni yswiriant ond yn ad-dalu unrhyw gostau teithio ychwanegol a chost unrhyw amser nad ydych wedi ei ddefnyddio gyda'ch llety gwyliau.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)