Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Help i dalu'ch biliau dŵr

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r dudalen hon yn edrych ar ffyrdd o dalu llai am eich dwr.

Beth fedrwch chi ei wneud i dalu llai am eich dwr

Os ydych yn ei chael yn anodd talu'ch biliau dwr ac nid oes mesurydd dwr gennych, ymchwiliwch i weld a fedrwch chi arbed arian trwy osod un.  Mae gan lawer o gwmnïau dwr, yn ogystal â'r Cyngor Defnyddwyr Dwr ac uSwitch, declynnau cyfrifo'r defnydd o ddwr ar eu gwefan, er mwyn eich helpu i gyfrifo faint yr ydych yn debygol o'i dalu os oes mesurydd gennych.

Gallwch edrych ar ffyrdd o ddefnyddio llai o ddwr, a dylech sicrhau nad oes unrhyw ddwr yn gollwng i achosi i'ch bil fod yn uwch nag y dylai fod.

Os ydych yn cael trafferth talu bil dwr, siaradwch â'ch cwmni dwr cyn gynted â phosib.  Efallai y byddwch yn medru gwasgaru'r taliadau dros gyfnod hirach trwy gynllun talu.  Mae cwmnïau dwr yn derbyn amrywiaeth o ddulliau talu.

Cynlluniau arbennig

Mae llawer o gwmnïau dwr yn rhedeg cynlluniau caledi neu'n ariannu ymddiriedolaethau elusennol annibynnol sy'n medru eich helpu i ad-dalu'ch biliau os ydych mewn dyled. Cysylltwch â'ch cwmni dwr i holi pa gynlluniau sydd ar gael. Mae yna wybodaeth ynghylch y cynlluniau gwahanol sydd ar gael ar wefan WaterUK hefyd.

Os ydych chi'n cael budd-daliadau, gallwch hefyd holi a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun Watersure, neu, os ydych yn gwsmer gyda Dŵr Cymru, Cynllun Cymorth Dŵr Cymru.

Fedrwch chi gael unrhyw fudd-daliadau nad ydych yn eu cael ar hyn o bryd?

Sicrhewch eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau fedrwch chi eu hawlio.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Canllawiau OFWAT i gwmnïau ar Ddelio gyda chwsmeriaid domestig sydd mewn dyled ar: www.oftwat.gov.uk
  • I ddarganfod pa gwmni dwr sy'n cyflenwi dwr yn eich ardal chi, rhowch glic ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr yn: www.ccwater.org.uk
  • I gael help pellach ar faterion yn ymwneud â dwr,  ewch at wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk
  • I ddarganfod a fyddech chi'n elwa o fesurydd dwr, rhowch glic ar wefan uSwitch ar:  www.uswitch.com/water
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)