Help i lenwi’ch ffurflen hawlio PIP
Defnyddiwch ein canllaw ar y Taliad Annibynnol Personol (PIP) i’ch helpu chi i lenwi’ch ffurflen hawlio PIP. Mae cyngor ar gyfer pob cwestiwn, gan gynnwys:
- beth mae’r cwestiynau yn ei olygu
- beth i ysgrifennu amdano yn eich atebion
- enghreifftiau o atebion y gall pobl eu rhoi
- help i esbonio sut mae’ch salwch neu’ch anabledd yn effeithio arnoch chi
Mae PIP yn seiliedig ar sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi. Nid yw’n seiliedig ar eich salwch neu’ch anabledd penodol, na’ch meddyginiaeth.
Mae’n bwysig iawn meddwl am bob cwestiwn. Bydd ein tudalennau help yn eich helpu chi i benderfynu a oes angen i chi ateb pob cwestiwn.
Help gyda chwestiwn 1: rhestru’ch gweithwyr iechyd proffesiynol
Help gyda chwestiwn 2: rhestru eich cyflyrau, eich meddyginiaeth a’ch triniaethau
Help gyda chwestiwn 3: paratoi a choginio bwyd
Help gyda chwestiwn 4: bwyta ac yfed
Help gyda chwestiwn 5: rheoli triniaethau
Help gyda chwestiwn 6: ymolchi a mynd i’r bath/i’r gawod
Help gyda chwestiwn 7: rheoli anghenion toiled
Help gyda chwestiwn 8: gwisgo a dadwisgo
Help gyda chwestiwn 9: cyfathrebu
Help gyda chwestiwn 10: darllen
Help gyda chwestiwn 11: cymysgu gydag eraill
Help gyda chwestiwn 12: gwneud penderfyniadau ariannol
Help gyda chwestiwn 13: mynd allan
Help gyda chwestiwn 14: symud o gwmpas
Help gyda chwestiwn 15: gwybodaeth ychwanegol
Mae’n iawn i chi ysgrifennu’ch gwybodaeth ychwanegol ar ddalen ar wahân – defnyddiwch ein templed [ 0.78 kb].
Cofiwch lynu’r ddalen hon wrth eich ffurflen hawlio a chynnwys eich enw, eich rhif Yswiriant Gwladol a rhif y cwestiwn.
Mae’n gallu bod yn syniad da cadw copi o’ch ffurflen. Gallwch fynd â’r copi gyda chi i’ch asesiad a’i ddefnyddio i wneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio rhywbeth rydych chi eisiau ei ddweud.
Cael help am ddim gan asiantaeth gymorth
Os ydych chi’n cael problemau a’ch bod chi angen help i lenwi’r ffurflen, gallwch gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol yng Nghymru a Lloegr neu yn yr Alban. Gallan nhw eich helpu i lenwi’r ffurflen a rhoi cyngor i chi ar:
- beth mae’r cwestiynau yn ei olygu a beth maen nhw’n gofyn amdano
- pa fath o bethau y gallwch chi ei ddweud ar y ffurflen a beth allwch chi ei hepgor
- beth i’w wneud os ydych chi’n ei chael hi’n anodd llenwi’r ffurflen oherwydd eich anabledd neu’ch cyflwr iechyd
Gallwch gael help gan eich asiantaeth anabledd neu gymorth iechyd meddwl leol hefyd. Dewch o hyd i: