Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cwyno am eich cwmni dŵr

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Efallai bod cwyn gennych am eich bil dwr, cyflenwad dwr neu safon gwasanaeth a gawsoch gan eich cwmni dwr.

Darllenwch y dudalen hon i ddarganfod sut i fynd ati i gwyno i'ch cwmni dwr a beth fedrwch chi ei wneud os nad ydych yn hapus gyda'i ymateb.

Pryd fyddwch chi efallai am gwyno i'ch cwmni dwr

Mae yna resymau amrywiol pam, efallai, y byddwch chi am gwyno i'ch cwmni dwr. Fe allai hyn gynnwys cwynion am:

  • fethu â chadw at apwyntiad
  • tarfu ar eich cyflenwad dwr
  • pwysedd dwr
  • y ffordd y maen nhw wedi trafod cwestiwn yn ymwneud â'ch cyfrif.

Efallai y bydd hawl gennych i iawndal ar gyfer rhai cwynion.

Cwyno i'ch cwmni dwr

Mae gan bob cwmni dwr weithdrefn gwyno sydd fel arfer mewn dau gam.  Os ydych yn ysgrifennu at y cwmni, dylech gael ateb o fewn deng niwrnod gwaith.  Os nad yw'r cwmni'n ymateb o fewn yr amser hwn, rhaid iddo dalu £20 o iawndal i chi o fewn deng niwrnod gwaith.  Os nad yw'n talu'r iawndal mewn pryd, gallwch ofyn am daliad pellach o £10, tra'ch bod yn gwneud hyn o fewn tri mis.

Cwyno i'r Cyngor Defnyddwyr Dwr

Os ydych chi wedi bod trwy bob cam yng ngweithdrefn gwyno ysgrifenedig eich cwmni dwr, ac nid ydych yn hapus â'i ymateb o hyd, gallwch gyfeirio'r mater at y Cyngor Defnyddwyr Dwr.  Mae'r Cyngor Defnyddwyr Dwr yn fudiad annibynnol i ddefnyddwyr ac mae’n delio gyda chwynion am gwmnïau dwr.
Gallwch gysylltu â'r Cyngor Defnyddwyr Dwr trwy e-bost neu lythyr, gan atodi unrhyw gopïau o unrhyw gyfathrebu gyda'r cwmni dwr.  Gallwch hefyd lenwi ffurflen ar-lein neu ei ffonio.

Fe fydd y Cyngor Defnyddwyr Dwr yn ymchwilio i'r gwyn ac yn dweud wrthych beth oedd canlynid ei ymchwiliad.  Efallai y bydd yn gofyn i'r cwmni dwr gymryd camau i ddatrys eich cwyn.

Fe fydd y Cyngor Defnyddwyr Dwr yn medru trafod eich cwestiwn yn fwy cyflym os ydych yn cysylltu â'r swyddfa leol sydd â chyfrifoldeb dros oruchwylio'r cwmni dwr yr ydych yn cwyno amdano.

Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y mae'r Cyngor Defnyddwyr Dwr wedi delio â'ch cwyn, gallwch ofyn iddo gynnal adolygiad ffurfiol o'r ffordd y mae wedi delio ag ef.

Cwyno i OFWAT

Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn medru cwyno i OFWAT, rheoleiddiwr y diwydiant dwr, ond dim ond am rai pethau penodol. Dylech fynd at y Cyngor Defnyddwyr Dwr yn gyntaf oherwydd fel arfer fe fydd yn medru delio gyda chwynion yn fwy cyflym. Os yn berthnasol, fe fydd y Cyngor Defnyddwyr Dwr yn eich helpu i gyfeirio'r gwyn at OFWAT.

Mae OFWAT yn medru delio gyda chwynion am:

  • osod pibau ar draws tir preifat
  • cost cysylltiad
  • gofynion y cwmni dwr cyn cysylltu cyflenwad dwr - er enghraifft, os ydych yn credu bod y blaendal y gofynnwyd i chi ei dalu yn afresymol
  • achos ble mae cwmni dwr wedi gwrthod gadael i chi gael mesurydd dwr
  • achos ble mae cwmni dwr wedi gwrthod talu iawndal i chi dan Gynllun Gwarantu Safonau OFWAT.

Mynd â'ch cwyn ymhellach

Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y mae'r Cyngor Defnyddwyr Dwr neu OFWAT wedi delio â'ch cwyn, gallwch ofyn i'ch Aelod Seneddol gyfeirio'r mater at yr Ombwdsmon Seneddol ac Iechyd.

Mewn rhai achosion, os yw'r gyfraith wedi cael ei thorri a chithau'n hawlio iawndal gan y cwmni dwr, fe fydd yr achos yn mynd trwy'r llysoedd.

Efallai y bydd cyflafareddwr annibynnol hefyd yn dod i benderfyniad ynglyn â chwyn. Enghraifft o adeg pan fedrai hyn ddigwydd yw ble mae cwmni dwr yn gofyn i chi dalu am osod mesurydd ac mae yna anghytundeb ynghylch y gost a ble dylid ei osod.

Cwynion am ansawdd y dwr a'r amgylchedd

Nid yw OFWAT neu'r Cyngor Defnyddwyr Dwr yn delio â phob mater yn ymwneud â dwr.

Os yw'ch cwyn yn ymwneud ag ansawdd y dwr, dylech gysylltu â'r Arolygiaeth

Dwr Yfed.  Ar gyfer cwestiynau ynghylch cyflenwadau dwr yfed preifat, cysylltwch ag adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol.

Os oes cwestiwn gennych am yr amgylchedd, cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd.  Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrifol am gynnal ansawdd dwr croyw, dwr y môr,  dwr wyneb a dwr tanddaearol.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

CCWater

1st Floor, Victoria Square House
Victoria Square
Birmingham
B2 4AJ

Ffôn: 0845 039 2837
Ffacs: 0121 345 1001
Ffôn testun: 0121 345 1044
E-bost: enquiries@ccwater.org.uk
Gwefan: www.ccwater.org.uk

OFWAT

Centre City Tower
7 Hill Street
Birmingham
B5 4UA

Ffôn: 0121 644 7500
Ffacs: 0121 644 7559
Ffôn testun: 0121 625 1422
E-bost: enquiries@ofwat.gsi.gov.uk
Gwefan: www.ofwat.gov.uk

  • Ar wefan OFWAT mae yna amrywiaeth o daflenni ynglyn â materion yn ymwneud â dwr. Rhowch glic ar: www.ofwat.gov.uk.

Parliamentary and Health Service Ombudsman

Millbank Tower
Millbank
London
SW1P 4QP

Llinell gymorth ar gyfer ymholiadau: 0845 015 4033
Gwasanaeth i ofyn i rywun eich ffonio chi nôl: Anfonwch 'callback' mewn neges testun gyda'ch enw a'ch rhif ffôn symudol at: 07624 813 005
Ffôn testun: 0300 061 4298
Gwefan: www.ombudsman.org.uk
E-bost: opca.enquiries@ombudsman.gsi.gov.uk

Drinking Water Inspectorate

Area 4a
Ergon House
Horseferry Road
London
SW1P 2AL

Ffôn:: 030 0068 6400
Ffacs: 030 0068 6401
Gwefan: www.dwi.gov.uk
E-bost: dwi.enquiries@defra.gsi.gov.uk

Environment Agency

National Customer Contact Centre
PO Box 544
Rotherham
S60 1BY

Ymholiadau Cwsmeriaid: 03708 506 506
Ffôn testun: 03702 422 549
Llinell Llifogydd: 0845 988 1188
Llinell Llifogydd Type Talk: 0845 602 6340
Llinell boeth ar gyfer digwyddiadau: 0800 807060
Gwefan: www.environment-agency.gov.uk
E-bost: enquiries@environment-agency.gov.uk

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)