Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Watersure - help i dalu'ch biliau dŵr

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae Watersure yn gynllun sy'n helpu rhai pobl gyda'u biliau dwr. Er mwyn ymgeisio i'r cynllun, rhaid eich bod chi ar fudd-daliadau a rhaid eich bod chi angen defnyddio llawer o ddwr, naill ai am resymau meddygol neu am fod nifer penodol o blant oed ysgol yn byw ar eich aelwyd. Mae angen i chi fod ar fesurydd dwr hefyd neu rhaid eich bod yn aros i gael mesurydd dwr wedi ei osod.

Darllenwch y dudalen hon i i ddarganfod mwy am Watersure a ph'un ai y gallwch chi geisio am y cynllun ai peidio.

Gair o gyngor

Os ydych yn ei chael yn anodd talu'ch biliau dwr, ac nid ydych yn gymwys ar gyfer cynllun Watersure, mae yna gynlluniau eraill a fydd efallai'n medru helpu.

Mae gwybodaeth bellach ar wefan Water UK ar: www.water.org.uk.

Beth yw'r cynllun Watersure?

Os ydych yn cael help dan y cynllun Watersure, fe fydd terfyn ar eich bil dwr. Mae hyn yn golygu na fyddwch chi'n talu mwy na'r bil cyfartalog ar gyfer mesurydd yn yr ardal sy'n dod o dan eich cwmni dwr.  

Mewn rhai achosion, fe allai eich bil dwr ar gyfer eich mesurydd fod yn llai na therfyn Watersure eich cwmni. Os yw hyn yn wir, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y cynllun.

Gallwch ofyn i'ch cwmni dwr beth yw ei derfyn os ydych chi am ymchwilio'n fwy cyn ceisio.

Pwy sy'n gymwys ar gyfer cynllun Watersure?

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Watersure, mae angen i chi:

  • fod ar fesurydd dwr neu fod wedi ceisio am un ac yn aros iddo gael ei osod
  • fod ar rai budd-daliadau
  • fod yn defnyddio llawer o ddwr am resymau hanfodol.

Pa fudd-daliadau sydd angen i chi fod yn eu cael?

Rhaid eich bod chi neu rywun ar eich aelwyd yn cael un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant ar gyfradd uwch nag elfen y teulu.

I ddarganfod mwy am y budd-daliadau hyn, gweler ein Benefits pages.

Beth yw ystyr defnyddio llawer o ddwr am resymau hanfodol?

Os yw'ch aelwyd yn defnyddio llawer o ddwr am resymau hanfodol, mae hyn yn golygu bod:

  • rhywun ar eich aelwyd â chyflwr meddygol sy'n golygu bod yn rhaid iddynt ddefnyddio llawer o ddwr neu
  • mae gennych dri phlentyn neu fwy dan 19 ac mewn addysg lawn-amser yn byw ar eich aelwyd.  

Rhaid bod y sawl sydd â'r cyflwr meddygol neu'r plant dan 19 yn defnyddio'r eiddo fel eu prif gartref.

Fe fydd pobl sydd ag un o'r cyflyrau meddygol canlynol yn gymwys ar gyfer Watersure yn awtomatig, cyhyd â'u bod yn bodloni'r holl amodau cymhwyso eraill.

  • digeniad (clefyd croen caenog)
  • clefyd croen sy'n diferu (ecsema, soriasis neu friw faricos)
  • anymatalrwydd
  • stoma'r abdomen
  • methiant arennol sydd angen dialysis yn y cartref - er, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer Watersure os ydych eisoes yn cael cyfraniad tuag at eich costau dwr gan y GIG
  • clefyd Crohn’s
  • colitis briwiol.

Gallwch hefyd gyflwyno cais i Watersure os oes rhywun ar eich aelwyd sydd â chyflwr meddygol arall sy'n golygu bod angen defnyddio mwy o ddwr nag arfer.  Fe fydd cwmnïau dwr yn gofyn am fanylion gan feddyg.

Ni fedrwch chi geisio am Watersure os ydych yn defnyddio llawer o ddwr ar eich aelwyd oherwydd pethau fel:

  • dyfrhau gardd gan ddefnyddio rhywbeth heblaw am gan dwr neu sbrincler - er enghraifft pibell ddwr
  • llenwi pwll neu bwll nofio sy'n dal dros 10,000 litr.

Sut ydych chi'n ceisio am Watersure?

Gallwch geisio am Watersure trwy lenwi ffurflen gan eich cwmni dwr. Fe fydd angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn gymwys, er enghraifft copi o'r hysbysiad sy'n dweud eich bod yn cael budd-dal.

Ni fydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol os yw'ch cyflwr meddygol ar y rhestr o gyflyrau sy'n gymwys yn awtomatig.

Ond, os oes cyflwr arall gennych sydd ddim ar y rhestr, fe fydd angen i chi ddarparu tystiolaeth gan eich meddyg, gan gynnwys sut mae'r cyflwr yn cael ei drin a'r effaith sydd ganddo ar y dwr yr ydych yn ei ddefnyddio.

Fe fydd angen tystysgrif meddyg hefyd, a rhaid i chi dalu amdani.

Pryd fyddwch chi'n dechrau cael help?

Os ydych yn gymwys ar gyfer Watersure, fe fyddwch yn dechrau cael help o ddechrau’r cyfnod bilio adeg eich cais.

Os mai cwmnïau gwahanol sy'n darparu'ch gwasanaethau dwr a charthffosiaeth, dylai'r cwmni dwr ddweud wrth y cwmni carthffosiaeth eich bod yn cael help. Yna, dylai'r cwmni carthffosiaeth newid ei ffioedd.

Os ydych yn llwyddiannus, fe fydd angen i chi geisio eto bob blwyddyn er mwyn parhau i gael help.  Dylai'ch cwmni dwr ddweud wrthych pryd mae'n amser ceisio eto, a rhoi cyfnod rhesymol o amser i chi wneud hyn cyn bod eich hawl yn dod i ben.

Os nad ydych yn credu bod hawl gennych i gael help mwyach

Os nad ydych yn credu bod hawl gennych i gael help gan Watersure mwyach, dywedwch wrth eich cwmni dwr.  Fe fydd eich cymorth yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod bilio presennol.

Camau nesaf

Other useful information

  • Mae gan Y Cyngor Defnyddwyr Dwr lifsiart i'ch helpu i gyfrifo a fedrwch chi geisio dan y cynllun Watersure ai peidio. Ewch at www.ccwater.org.uk Word .
  • I ddarganfod pa gwmni dwr sy'n cyflenwi dwr yn eich ardal chi, rhowch glic ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk.
  • FI gael help pellach ar faterion yn ymwneud â dwr,  ewch at wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk.
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)