Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gweld a yw newid yn effeithio ar eich Credyd Cynhwysol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Bydd angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am newidiadau i’ch gwaith, eich arian neu’ch bywyd teuluol. ‘Newidiadau mewn amgylchiadau’ yw’r enw arnyn nhw.

Gall newidiadau effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol gewch chi a pha weithgareddau cysylltiedig â gwaith y mae angen i chi eu gwneud yn gyfnewid am eich taliad Credyd Cynhwysol. Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych am y prif newidiadau y dylech sôn amdanyn nhw, ond gall fod rhai eraill hefyd. Os nad ydych chi’n siŵr a fydd newid yn gwneud gwahaniaeth, mae’n well sôn amdano bob amser.

Os bydd eich taliad yn cynyddu, gallwch ofyn am flaendaliad os bydd angen yr arian ychwanegol arnoch cyn eich dyddiad talu nesaf.

Dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am newid

Os oes gennych chi gyfrif ar-lein, cofnodwch newid trwy ddefnyddio’ch cyfrif i anfon neges at eich hyfforddwr gwaith. Gallwch ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol hefyd, ond mae’n debyg y bydd hyn yn cymryd mwy o amser gan ei bod yn bosib y bydd gofyn i chi ddisgwyl i rywun ateb.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth llawn)
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau i’r rhif ffôn hwn am ddim. Gorau oll os gallwch chi ffonio o'r rhif i chi ei roi i'r Adran Gwaith a Phensiynau wrth agor eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Bydd llai o aros a byddwch yn cael eich trosglwyddo i'r un person i chi siarad ag ef yn ystod eich galwadau blaenorol.

Os nad oes gennych chi gyfrif ar-lein, ffoniwch linell gymorth y Credyd Cynhwysol i ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am newid.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth byw)
Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau i’r rhifau ffôn hyn am ddim.

Rhoi gwybod am newidiadau ar amser

Unwaith y byddwch chi’n gwybod am newid, dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted ag y gallwch.

Os bydd newid yn cynyddu eich taliad, fe allwch chi golli’r cyfle i’w gael os byddwch chi’n oedi - yn enwedig os byddwch chi’n aros tan ar ôl eich taliad nesaf.

Dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os bydd newid yn gostwng eich taliad cyn gynted ag y gallwch hefyd - ni fyddwch yn arbed arian trwy ddweud wrthynt yn ddiweddarach. Os ydych chi’n oedi, gallai gormod o arian gael ei dalu i chi a byddai’n rhaid i chi dalu’ch budd-daliadau’n ôl i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Gordaliad yw’r enw ar hyn - edrychwch sut mae’r Adran Gwaith a Phensiynau’n ymdrin â gordaliadau.

Newidiadau mae angen i chi roi gwybod amdanynt

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am bethau bach hyd yn oed – mae’n well sôn am rywbeth bob amser os nad ydych chi’n siŵr.

Os yw’ch newid yn effeithio ar eich gallu i weithio neu chwilio am waith, efallai y bydd angen i chi ofyn am newid eich ymrwymiad fel hawliwr. Er enghraifft, dylech ofyn am newid ymrwymiad fel hawliwr os yw newidiadau i’ch gofal plant yn golygu bod gennych lai o amser bob wythnos i chwilio am waith.

Pan fyddwch chi’n rhoi gwybod am newid, dylech anfon unrhyw wybodaeth arall y byddant yn gofyn amdani i’r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n gofyn am lythyr gan eich landlord os ydych chi’n dweud bod eich rhent wedi newid. Os na fyddwch chi’n anfon y wybodaeth ychwanegol y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn amdani, gallai’ch Credyd Cynhwysol gael ei atal.

Swyddi a gwirfoddoli

Dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n gadael swydd neu’n cael un newydd – hyd yn oed os yw’n waith gwirfoddol ac nad ydych chi’n cael eich talu.

Gallai ennill mwy leihau eich Credyd Cynhwysol, ond gallai hefyd leihau’r gweithgareddau cysylltiedig â gwaith sydd angen i chi eu gwneud.

Nid oes nifer penodol o oriau gwaith sy’n golygu y bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei atal. Dyma ragor o wybodaeth am gael swydd neu godiad cyflog ar y Credyd Cynhwysol.

Os ydych chi’n colli eich swydd gall eich Credyd Cynhwysol gynyddu, ond efallai y bydd angen i chi dreulio mwy o amser yn chwilio am waith. Gallai'ch Credyd Cynhwysol gael ei atal neu ei leihau os ydych chi wedi gadael y swydd heb reswm da – gelwir hyn yn ‘gosb’. Edrychwch i weld beth allwch chi ei wneud os ydych chi'n cael eich cosbi.

Pan fyddwch chi’n cael eich cyflogi nid oes angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am newidiadau yn eich cyflog – er enghraifft, os ydych chi’n cael codiad cyflog neu’n gwneud mwy o oriau. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cael y wybodaeth hon gan CThEM.

Os ydych chi’n hunangyflogedig bydd angen i chi roi gwybod am eich incwm a’ch treuliau bob mis.

Arian, cynilion a newidiadau i fudd-daliadau

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi neu’ch partner yn:

  • newid eich manylion banc
  • hawlio unrhyw fudd-daliadau newydd (hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu talu eto) – gall hyn leihau eich taliadau Credyd Cynhwysol
  • stopio cael budd-dal – gall hyn gynyddu’ch taliadau Credyd Cynhwysol
  • cael taliad untro – er enghraifft, os ydych chi’n etifeddu arian neu’n derbyn iawndal
  • cael incwm newydd nad yw o’r gwaith – nid yw popeth yn cael ei ystyried, ond mae’n syniad da dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau rhag ofn.

Os oes gennych chi fwy na £6,000 mewn cynilion bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu lleihau.

Os oes gennych chi fwy na £16,000 mewn cynilion ni fyddwch yn gymwys am y Credyd Cynhwysol.

Dyma faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch chi'n ei gael.

Newidiadau sy’n ymwneud â ble rydych chi’n byw

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os:

  • yw’ch rhent yn mynd i fyny neu i lawr – gall hyn newid faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn cael eich talu ar gyfer tai
  • ydych ch’n symud
  • oes rhywun yn symud allan o’ch cartref
  • oes rhywun yn symud i mewn i’ch cartref – er enghraifft, os ydynt yn rhentu ystafell
  • ydych chi neu rywun ar eich aelwyd yn mynd i’r carchar

Dylech hefyd roi gwybod am unrhyw amser y byddwch chi’n ei dreulio y tu allan i’r DU. Gall eich hawliad Credyd Cynhwysol barhau am hyd at fis, ond bydd angen i chi gwblhau eich gweithgareddau cysylltiedig â gwaith o hyd. Os nad ydych chi’n gallu, efallai y bydd eich taliad yn cael ei atal neu ei leihau - sef ‘cosb’.

Os ydych chi’n symud cartref

Gall eich taliadau Credyd Cynhwysol newid os yw’ch rhent wedi mynd i fyny neu i lawr - edrychwch i weld faint o Gredyd Cynhwysol y gallwch chi ei gael. Bydd eich taliad nesaf yn seiliedig ar eich cyfeiriad nesaf, hyd yn oed os oeddech chi dal yn eich hen gyfeiriad am ran o’r mis hwnnw.

Cofiwch ddweud wrth y Ganolfan Waith bob tro rydych chi’n symud – byddant angen eich cyfeiriad nesaf. Efallai y byddwch chi hefyd angen mynd i Ganolfan Waith wahanol a chael hyfforddwr gwaith newydd.

Newidiadau sy’n ymwneud â’ch perthynas

Bydd angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n symud i mewn gyda'ch partner neu'n gwahanu oddi wrth eich partner.

Rydych chi’n symud i mewn gyda’ch partner

Ni fydd angen i chi ddechrau hawliad Credyd Cynhwysol newydd. Bydd eich hawliad presennol yn dod i ben, ond bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn trefnu hawliad ar y cyd newydd yn awtomatig. Byddwch yn dal i gael eich taliadau ar yr un dyddiad bob mis.

Os oeddech eich dau yn cael taliadau Credyd Cynhwysol, byddwch yn cadw dyddiad talu pa bynnag hawliad sy’n dod i ben gyntaf.

Os oedd un ohonoch chi’n cael unrhyw fudd-dal sydd wedi cael ei ddisodli gan y Credyd Cynhwysol, bydd y taliadau hynny’n dod i ben. Dyma’r budd-daliadau sy’n cael eu disodli:

  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy’n gysylltiedig ag incwm
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith
  • Cymhorthdal Incwm

Byddwch yn derbyn swm gwahanol o Gredyd Cynhwysol fel cwpl - edrychwch i weld faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch chi'n ei gael.

Os ydych chi’n gwahanu oddi wrth eich partner

Bydd eich hawliad Credyd Cynhwysol yn parhau. Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf ar yr un diwrnod o’r mis ond bydd ar gyfer person sengl. Mae hyn yn newid faint o Gredyd Cynhwysol gewch chi.

Dylech hefyd ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am unrhyw newidiadau eraill yn sgil gwahanu – fel newidiadau i’r cyfeiriad.

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau pwy sy’n gyfrifol am unrhyw blant

Y person sy'n gyfrifol am unrhyw blant fydd pwy bynnag y mae’r plentyn yn byw gydag ef fel arfer. Os yw’r plentyn yn byw gyda mwy nag un person fel arfer, neu os nad ydych chi’n gallu cytuno pwy ddylai hawlio, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu.

Os mai’r Adran Gwaith a Phensiynau sy'n penderfynu, byddant yn gwneud hynny ar sail ble mae’r plentyn yn byw fel arfer a phwy sy’n gwneud y penderfyniadau o ddydd i ddydd.

Os ydych chi’n dal i fyw gyda’ch partner

Dylech roi gwybod eich bod wedi gwahanu serch hynny - dylech allu newid i hawliadau Credyd Cynhwysol ar wahân o hyd.

Bydd angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau bod gennych chi ‘aelwydydd ar wahân’ er eich bod yn rhannu cyfeiriad. Eglurwch nad ydych chi’n byw bywyd fel cwpl bellach – er enghraifft, os ydych chi’n coginio ar wahân, yn cadw’ch materion ariannol ar wahân a ddim yn treulio amser gyda’ch gilydd.

Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau hefyd ofyn pam eich bod yn dal i fyw gyda’ch gilydd - er enghraifft, os nad ydych chi’n gallu fforddio symud allan.

Newidiadau sy’n ymwneud â’ch plant

Gofalwch fod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwybod am faint o blant rydych chi’n gyfrifol. Dywedwch wrthynt os oes gennych chi fabi, os ydych chi'n mabwysiadu neu’n dechrau maethu plentyn – gall hyn gynyddu eich taliad Credyd Cynhwysol neu newid pa weithgareddau cysylltiedig â gwaith sydd angen i chi eu gwneud.

Plentyn yw unrhyw un dan 16 oed, neu unrhyw un dan 20 oed sydd mewn addysg lawn amser, nad yw’n addysg uwch, er enghraifft yn yr ysgol neu mewn coleg.

Fel arfer, gallwch ond cael Credyd Cynhwysol ar gyfer 1 neu 2 blentyn, ond dylech dal ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os oes gennych chi fwy. Mewn rhai achosion, byddwch yn cael taliad uwch. Mae’n werth edrych i weld faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch chi’n ei gael.

Dywedwch wrth eich Adran Gwaith a Phensiynau os yw unrhyw un o'ch plant yn:

  • anabl
  • gadael addysg lawn amser
  • gadael cartref
  • mynd i ofal awdurdod lleol
  • mynd i’r carchar

Os yw plentyn yn gadael cartref mae’n syniad da iddynt edrych i weld a ydynt yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol eu hunain.

Os ydych chi’n gweithio dylech nodi faint rydych chi’n ei dalu am ofal plant bob mis, gan y gallwch hawlio rhywfaint o’r costau hyn yn ôl. Gallwch eu nodi ar eich cyfrif ar-lein. Os nad oes gennych chi gyfrif ar-lein, bydd angen i chi ffonio'r llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth byw)
Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 4pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn am ddim.

Dyma ragor o wybodaeth am gael taliadau gofal plant o dan y Credyd Cynhwysol.

Dechrau neu orffen addysg

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi, eich partner neu unrhyw un o’ch plant yn dechrau neu’n rhoi’r gorau i addysg neu hyfforddiant llawn amser.

I rywun o dan 19 oed dylech hefyd ddweud wrthynt am ddechrau neu roi’r gorau i gwrs addysg uwch rhan-amser, fel hyfforddiant athrawon.

Os ydych chi’n dechrau addysg lawn amser, byddwch yn stopio cael Credyd Cynhwysol oni bai bod o leiaf un o’r eithriadau hyn yn gymwys:

  • rydych chi’n ddigon hen i gael Credyd Pensiwn ac rydych chi’n byw gyda phartner sy’n iau nag oedran Credyd Pensiwn
  • rydych chi’n cael Lwfans Gweini, Lwfans Byw i’r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol ac mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud bod gennych chi ‘allu cyfyngedig i weithio’
  • rydych chi’n gofalu am blentyn dan 16 oed, neu dan 20 oed os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser hefyd
  • rydych chi’n aros i ailafael mewn cwrs ar ôl cymryd amser i ffwrdd oherwydd salwch neu gyfrifoldebau gofalu
  • rydych chi’n rhiant maeth ac mae plentyn wedi’i leoli gyda chi
  • rydych chi o dan 21 oed (neu'n 21 oed ond o dan 21 oed pan ddechreuodd eich cwrs), ddim mewn addysg uwch a heb gymorth rhieni

Mae bod heb gymorth rhieni yn golygu bod eich rhieni wedi marw neu nad ydych chi’n gallu byw gyda nhw. Er enghraifft, ni fyddai gennych chi gymorth eich rhieni pe bai’ch perthynas yn chwalu neu y byddai byw gyda nhw yn rhoi eich iechyd mewn perygl.

Os ydych chi’n byw gyda’ch partner

Gallwch hefyd barhau i dderbyn Credyd Cynhwysol yn ystod addysg lawn amser os ydych chi’n byw gyda’ch partner a bod un o'r canlynol yn wir amdano:

  • nad yw mewn addysg lawn amser
  • mewn addysg lawn amser hefyd , ond mae ganddo hawl i Gredyd Cynhwysol wrth astudio
  • mewn addysg lawn amser hefyd ac mae un ohonoch chi yn gyfrifol am blentyn neu yn rhiant maeth

Chi neu’ch partner yn cyrraedd oedran Credyd Pensiwn

Dylech chi fod yn y ‘grŵp dim gweithgareddau cysylltiedig â gwaith’ os ydych chi wedi cyrraedd oedran Credyd Pensiwn. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi chwilio am waith neu baratoi ar gyfer gwaith fel rhan o’ch hawliad Credyd Cynhwysol.

Os ydych chi neu’ch partner yn gallu cael Credyd Pensiwn, fel arfer byddwch yn well eich byd os byddwch yn dod â’ch hawliad Credyd Cynhwysol i ben ac yn hawlio Credyd Pensiwn. Edrychwch i weld a allwch chi gael Credyd Pensiwn.

Iechyd yn newid

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau:

  • os ydych chi'n sâl
  • os ydych chi wedi’ch anafu mewn ffordd sy’n ei gwneud yn anoddach i chi chwilio am waith
  • os ydych chi'n cael eich derbyn i’r ysbyty neu'n gadael yr ysbyty – neu os yw’ch partner yn gwneud hynny
  • os ydych chi'n mynd i gartref gofal neu'n gadael cartref gofal – neu os yw’ch partner yn gwneud hynny
  • os oes gennych chi salwch sy'n cael ei achosi gan feichiogrwydd
  • os ydych chi'n dechrau triniaeth am ganser gyda chemotherapi neu radiotherapi
  • os oes gennych chi afiechyd marwol 

Os ydych chi’n sâl am fwy na 7 diwrnod bydd angen i chi fynd yn ôl i gael nodyn meddyg a’i anfon at eich Adran Gwaith a Phensiynau.

Os ydych chi’n sâl am fwy na 14 diwrnod mae hyn yn cyfrif fel salwch hirdymor. Ni fydd angen i chi weithio os gallwch chi ddangos bod gennych chi 'allu cyfyngedig i weithio'. Efallai y bydd angen i chi lenwi holiadur am eich iechyd a mynd i asesiad meddygol. Gall hyn gymryd amser, felly gofynnwch i’ch hyfforddwr gwaith atal eich gweithgareddau cysylltiedig â gwaith yn y cyfamser.

Gofynnwch am gael newid eich ymrwymiad hawliwr os yw problemau iechyd yn golygu nad ydych chi’n gallu gwneud eich holl weithgareddau gwaith. Mae’n syniad da gwneud hynny hyd yn oed ar gyfer newid bach, er enghraifft os yw apwyntiadau meddyg rheolaidd yn golygu bod gennych chi 2 awr yn llai'r wythnos i chwilio am waith.

Os ydych chi’n hunangyflogedig a sâl dros dro

Os ydych chi’n rhy sâl i i weithio a bod hynny’n effeithio ar eich gallu i wneud elw, ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau a gofyn iddynt eich trin fel nad ydych chi mewn ‘hunangyflogaeth â thâl’ tra’ch bod yn sâl.

Os nad ydych chi mewn hunangyflogaeth â thâl, dylai’ch taliad Credyd Cynhwysol fod yn uwch. Mae hyn oherwydd na all yr Adran Gwaith a Phensiynau gymhwyso’r ‘llawr isafswm incwm’. Dyma'r swm y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn disgwyl i chi ei ennill bob mis - maent yn ei ddefnyddio i gyfrifo’ch taliad.

Dyma ragor o wybodaeth am y llawr isafswm incwm a sut mae’n effeithio ar eich taliad.

Os bydd rhywun rydych chi’n agos ato’n marw

Bydd angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am farwolaeth:

  • eich partner
  • eich plentyn – os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol oherwydd eich bod dan 18 oed ac yn gyfrifol am blentyn
  • rhywun roeddech chi’n gofalu amdano
  • unrhyw un dros 18 oed ac sy’n byw gyda chi

Gallwch ddefnyddior gwasanaeth Tell Us Once ar GOV.UK i ddweud wrth adrannau’r llywodraeth am farwolaeth yn gyflym a hawdd. Gallwch hefyd ofyn i’ch hyfforddwr gwaith am saib o chwilio am waith os yw aelod o’ch teulu wedi marw.

Newidiadau i’ch statws mewnfudo

Os ydych chi’n wladolyn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ac yn colli eich ‘hawl i breswylio', ni fydd gennych chi hawl i Gredyd Cynhwysol mwyach.

Os nad ydych chi’n wladolyn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, gallai newid i’ch statws mewnfudo effeithio ar eich Credyd Cynhwysol hefyd.

Mae hwn yn faes cymhleth, felly mae’n syniad da i chi gysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi’n meddwl y gallai newid i’ch statws mewnfudo neu hawl i breswylio effeithio ar eich Credyd Cynhwysol.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)